15 Hydref yw Diwrnod Cenedlaethol Shwmae Su’mae; diwrnod i annog pobl i ddechrau pob sgwrs gyda Shwmae. Mae’r diwrnod, wedi mynd o nerth i nerth ers ei sefydlu yn 2013 ac mae bellach yn ddigwyddiad sefydledig yng nghalendr Cymru. Ei nod yw cynyddu ymwybyddiaeth am yr iaith ymhlith pobl nad ydynt yn siarad Cymraeg ac annog pob un ohonom i ddefnyddio ein sgiliau Cymraeg. Ledled Cymru; daw pobl ynghyd i ddathlu a hyrwyddo’r Gymraeg.

Eleni manteisiodd Coleg y Cymoedd ar y cyfle ar Ddiwrnod Shwmae i ddathlu a rhannu’r iaith gyda dysgwyr, staff ac aelodau’r cyhoedd, ar draws ei bedwar campws gyda gweithgareddau llawn hwyl. Yn y canolfannau dysgu ac yn y derbynfeydd rhoddwyd gwobrau am gymryd rhan mewn cwisiau a gemau neu am ddweud rhywbeth yn Gymraeg a rhoes Chartwells ostyngiad i’r rhai a ddywedodd ‘Shwmae’ wrth archebu te neu goffi yn ffreuturiau’r coleg. Gwnaeth dysgwyr a staff fel ei gilydd y mwyaf o’r cyfle i ddangos eu sgiliau Cymraeg ac ennill rhai gwobrau.

Gan ddiolch i bawb am eu rhan yn Niwrnod Shwmae Su’mae, dywedodd Lois Roberts, Swyddog Iaith Gymraeg Coleg y Cymoedd: “Mae’r Gymraeg yn perthyn i bob un ohonom, p’un a ydym yn hollol rugl neu ond yn gwybod ychydig eiriau. Diolch yn fawr iawn i staff a dysgwyr am wneud y mwyaf o’r digwyddiad. Mae Diwrnod Shwmae Sumae yn gyfle i bawb rannu’r iaith a chael hwyl. Diolch yn fawr! ”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau