Ychwanegu dimensiwn newydd i hyfforddiant
Gwybodaeth am 4D Academy
Rydyn ni’n frwd iawn dros gynnig y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar bobl i symud ymlaen yn yr yrfa maen nhw’n ddewis, drwy ddarpariaeth wedi’i theilwra, dan arweiniad ymarferwyr arbenigol. Mae Academi 4D yn meithrin cyfuniad unigryw o arferion dan arweiniad dysgwyr ar y cyd â hyfforddiant strwythuredig, er mwyn cynnig amgylchedd heriol ond eto’n gefnogol. Mae ein dull o fynd ati yn cwmpasu datblygiad personol ar y cyd â chymhwysedd diwydiant sydd, yn eu tro, yn symbylu dysgwyr, drwy hyder cynyddol, i achub ar gyfleoedd a gwireddu eu dyheadau. Mae ein tîm yn cyfuno cefndiroedd masnachol ac ymarferol ym maes hyfforddiant, addysg ac adeiladu.
Mae rhychwant ein profiad yn rhoi syniad i ni o’r hyn sy’n ymarferol ac o realiti hyfforddiant – o safbwynt dysgwyr a chyflogwyr, y naill a’r llall. Mae’n gyfuniad a arweiniodd ni i gredu y gallwn ni wella pethau ac, yn y pen draw, wneud pethau ychydig yn wahanol. Rydyn ni wedi ymrwymo i godi disgwyliadau a safonau o fewn hyfforddiant a chymwysterau.
Site Audit Services
Mae Gwasanaethau Archwilio Safle yn elwa o’r profiad helaeth o fewn y Gwasanaeth Tân, Iechyd a Diogelwch, Adeiladu ac Addysg a Hyfforddiant. Mae’r sefydliad yn cwmpasu tîm o ymarferwyr brwd a gwybodus sy’n ffocysu ar y cwsmer, i adlewyrchu lefel ragorol o wasanaeth i gwsmeriaid drwy ddull llawn empathi a diwydrwydd o fynd ati.
Mae ein hyfforddwyr, aseswyr a’n hymgynghorwyr yn arweinwyr profiadol sydd wedi ymrwymo i godi safonau hyfforddi o ran Diogelwch Tân a Iechyd a Diogelwch drwy’r DU. Rydyn ni’n ymfalchïo ein bod yn cynnig cyfres o gymwysterau a gymeradwyir gan amrywiaeth o sectorau, cymwysterau a luniwyd i gynorthwyo datblygiad personol parhaus. Bydd ein cyrsiau achrededig hefyd yn cydnabod sgiliau a gwybodaeth a fydd, yn eu tro, yn diwallu anghenion safonau diwydiant.