Clonc gyda Merched y Wawr Merthyr

Mae Coleg y Cymoedd yn croesawu cyfleoedd i ddatblygu cysylltiadau â chymunedau lleol a chysylltiadau cyfrwng-Cymraeg. Felly neidiodd Tîm y Gymraeg ar y cyfle i ymweld â Merched y Wawr Merthyr i siarad am waith y Coleg ac i gwrdd â’r aelodau.

Mae Merched y Wawr yn fudiad gwladgarol sy’n cynnig y cyfle i fenywod gymdeithasu yn y Gymraeg mewn clybiau ar draws Cymru. Maent yn hefyd yn ymgyrchu dros hawliau’r Gymraeg a hawliau menywod. Sefydlwyd Merched y Wawr yn 1967 ac erbyn hyn mae dros 280 o ganghennau a chlybiau ar hyd ac ar led Cymru. Un o’r clybiau bywiog hwnnw yw Merched y Wawr Merthyr sy’n cwrdd bob mis yng Nghanolfan Soar sef Canolfan Gymraeg y dref.

Ar 9 Tachwedd, ymwelodd Lois Roberts, Rheolwr y Gymraeg Coleg y Cymoedd, â’r criw. Ar ôl cyflwyniad byr dros baned yn trafod ei gwaith yn y Coleg, yn rhoi gwybodaeth am y coleg a’r cyfleoedd sydd ar gael i bobl o bob oed, yn y Gymraeg a’r Saesneg, aeth hi ati i gynnal cwis mawreddog gyda’r criw.

Fel ffordd o ddiolch i’r Coleg, cyflwynodd Hannah Lowe, trysorydd y gangen, siec o £25 fel rhodd. Bydd yr arian yn cael ei roi i elusen y mae’r Coleg wedi cydweithio’n agos â hi yn ddiweddar sef ‘The Wild and Free Foundation. Nod yr elusen yw grymuso cymunedau sy’n byw o amgylch y parciau cenedlaethol a’r gwarchodfeydd bywyd gwyllt yn Affrica, trwy greu cyfleoedd chwaraeon ac economaidd, i leihau eu dibyniaeth ar botsio rhinoserosiaid a bywyd gwyllt Affrica. Cydweithiodd Ysgol Diwydiannau Creadigol y Coleg â’r elusen i greu rhino anferth fel masgot i annog dynion ifanc i droi at bêl-droed yn hytrach na photsio. Bydd yr arian hwn yn mynd tuag at y gwaith anhygoel maen nhw’n ei wneud.

Dywedodd, Lois Roberts, “Cafwyd llawer o sbort yn ceisio dyfalu enw’r dref wrth edrych ar luniau o strydoedd mawr, yn meddwl am atebion yn dechrau gyda ‘m’ ac yn dyfalu sawl gwaith roedd Americanwyr yn agor oergell mewn diwrnod ar gyfartaledd!! Yr enillwyr oedd ‘Tîm Tudful’ ond gobeithio i bawb adael gyda gwên fawr ar eu hwynebau. Diolch Merched y Wawr Merthyr!”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau