Agorodd y feithrinfa ym mis Chwefror 1995 i ddarparu gofal plant i staff a myfyrwyr y coleg, gan roi tawelwch meddwl iddyn nhw fod eu plentyn yn cael gofal mewn amgylchedd diogel, saff ac ysgogol.
Mae’r feithrinfa wedi’i chofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru i ddarparu gofal i 47 o blant rhwng 10 mis oed a 5 oed. Fel meithrinfa coleg, rydyn ni ar agor yn ystod y tymor o 9.00am tan 4.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Meithrinfa Saesneg ei hiaith ydyn ni sy’n hybu’r Gymraeg drwy gyfarchion dyddiol, caneuon a rhigymau syml, ac arwyddion yn y feithrinfa.
Rydyn ni’n darparu ar gyfer amrywiaeth o blant o bob cefndir, gan weithio mewn partneriaeth â staff a rhieni a gweithwyr gofal plant proffesiynol eraill sydd eisiau’r gorau i’r plentyn.
Gallwn ofalu am blant sydd ag amrywiaeth o anghenion ychwanegol, gan weithio unwaith eto mewn partneriaeth ag asiantaethau a gweithwyr proffesiynol eraill lle bo angen.
Rydyn ni’n deall pa mor anodd y gall gadael eich plentyn yng ngofal pobl eraill fod. Mae ganddon ni dîm anhygoel sy’n ymroddedig i ofalu am eich rhai bach!
Dyma’r gwahanol weithgareddau sydd ar gael yn y feithrinfa, sydd wedi’u cynllunio i gefnogi datblygiad eich plentyn!
Edrychwch o gwmpas ein meithrinfa ar gampws Ystrad Mynach – gallwch weld y gwahanol ystafelloedd a chyfleusterau sydd ar gael yn y feithrinfa!
Sut i gofrestru eich plentyn yn y feithrinfa a gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael i chi!