Academi hyfforddi newydd yn gosod seiliau ar gyfer gyrfaoedd newydd yn y diwydiant adeiladu

Agorwyd cyfleuster hyfforddi adeiladwaith newydd er mwyn rhoi’r cyfle i weithwyr proffesiynol y diwydiant adeiladu yn Ne Cymru uwchsgilio gyda’r cymwysterau diwydiant diweddaraf, a chaniatáu i’r rheini sydd am newid gyrfa ennill sgiliau a fydd yn arwain at gyfleoedd gwaith newydd.

Bydd lansiad The Construction Hub Academy yn Oakdale, Caerffili, yn cynnig ystod o gymwysterau a chyrsiau byr achrededig yn y sector dymchwel a seilwaith.

Crëwyd y ganolfan mewn ymateb i’r galw cynyddol am staff seilwaith wrth i’r awydd am ddatblygiadau a phrosiectau adeiladu newydd barhau i gynyddu. Bydd cyrsiau ar gael i unigolion yn ogystal â busnesau adeiladu a hoffai uwchsgilio eu gweithlu.

Trwy gydweithrediad rhwng partneriaid yn y diwydiant a Choleg y Cymoedd, bydd y cyfleuster yn hyfforddi unigolion sy’n paratoi ar gyfer eu rolau cyntaf yn y diwydiant adeiladu, a’r rhai sydd eisoes yn gweithio yn y sector sydd am ddatblygu eu sgiliau ymhellach gyda chymwysterau arbenigol.

Hefyd, mae’r ganolfan a’i chyrsiau yn agored i bobl o sectorau eraill sydd am ailhyfforddi a newid i yrfa ym maes adeiladu. Am fod galw’r sector am weithwyr medrus yn parhau i dyfu, gallai’r cyfleoedd hyfforddi fod yn allweddol i unrhyw un a allai fod wedi colli swydd o ganlyniad i’r pandemig.

Er mwyn cynyddu mynediad at y cyrsiau, mae’r ganolfan yn ymuno â Choleg y Cymoedd i gyflwyno’r rhaglen. Gall unrhyw un sydd am ymuno â’r diwydiant seilwaith, p’un a ydynt ar ddechrau eu gyrfa neu’n ceisio newid proffesiwn a defnyddio eu blynyddoedd o brofiad mewn diwydiant newydd, wneud cais am le ar gwrs o’u dewis drwy’r coleg.

Dywedodd Matt Tucker, Pennaeth Cynorthwyol Gwasanaethau Busnes yng Ngholeg y Cymoedd: “Mae cyfleoedd cyflogaeth yn y sector adeiladu yn parhau i gynyddu ac rydym yn falch o fod yn bartner The Construction Hub Academy er mwyn hwyluso hyfforddiant yn y maes hwn sy’n tyfu. Rydym yn annog unrhyw un sy’n meddwl am yrfa ym maes adeiladu i gysylltu, p’un a ydynt newydd adael yr ysgol neu’n meddwl am newid gyrfa.

Bydd y rhai sy’n ymuno â’r academi yn gallu gweithio tuag at ystod o gymwysterau a thrwyddedau achrededig yn y diwydiant, gan gynnwys hyfforddiant i ddefnyddio peiriannau cloddio, tryciau dympio, ffyrch codi, a pheiriannau eraill sy’n gysylltiedig ag adeiladu seilwaith. Ymhlith y cyrsiau eraill sydd ar gael mae hyfforddiant osgoi ceblau a thystysgrifau iechyd a diogelwch amrywiol. Hefyd, bydd y ganolfan yn cynnig pecynnau hyfforddi pwrpasol wedi’u teilwra i ofynion cwmnïau unigol.

Dywedodd Chris Rosser, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes The Construction Hub Academy: “Er gwaethaf y galw cynyddol am lafur yn y sector seilwaith, roedd bwlch yn y farchnad am hyfforddiant o safon ym maes adeiladu yng Nghymru. Roedd hyn yn rhywbeth yr oeddem am fynd i’r afael ag ef wrth greu ein hacademi hyfforddi bwrpasol.

“Bydd y cymwysterau y byddwn yn eu cynnig yn yr academi o fudd i ystod o bobl, gan helpu i arfogi’r rhai sy’n newydd i’r diwydiant gyda’r cymwysterau sydd eu hangen arnynt i ddechrau. Hefyd, bydd yn halluogi gweithwyr proffesiynol presennol yn y sector adeiladu i ddysgu sgiliau newydd a fydd yn helpu iddynt symud ymlaen a bwrw ymlaen ymhellach yn eu gyrfa. “
Mae’r cyfleuster newydd eisoes wedi creu pum swydd ar gyfer hyfforddwyr, tra bydd pedair swydd arall yn cael eu creu yn ystod y misoedd nesaf wrth i’r ganolfan geisio llenwi rolau cydlynydd hyfforddiant a chydlynydd datblygu busnes.

Gall dysgwyr ddewis astudio yng nghyfleusterau The Construction Hub Academy yn y Coed Duon neu yng Ngholeg y Cymoedd, lle bydd hyfforddwyr o’r academi yn cyflwyno hyfforddiant ar ran y coleg. Fel arall, mae gan fusnesau adeiladu’r opsiwn i gael hyfforddiant ar eu safleoedd eu hunain gyda hyfforddwyr yn teithio ar draws De Cymru.

Yn dibynnu ar feini prawf cymhwysedd, mae cyllid y llywodraeth ar gael i unigolion a busnesau i dalu costau hyfforddi.

Ychwanegodd Chris: “Mae’n bwysig i ni ein bod yn rhoi’n ôl i’r gymuned leol, cefnogi pobl i sicrhau cyfleoedd gwaith cynaliadwy a helpu busnesau i gael mynediad at staff o ansawdd uchel sydd â’r sgiliau a’r hyfforddiant cywir. Rydym am i ragor o fusnesau fod yn ymwybodol bod cyllid ar gael i dalu cost uwchsgilio eu gweithwyr felly nid oes angen iddynt wario.

“Rydym yn arbennig o awyddus i gefnogi pobl sydd wedi bod yn ddi-waith am amser hir ac rydym am lenwi rolau sydd ar y gweill gan ystyried hyn. Hefyd, rydym yn gobeithio y bydd ein cyrsiau newydd yn opsiwn cadarnhaol i unrhyw un sy’n edrych i ailhyfforddi ac uwchsgilio yng ngoleuni’r pandemig gan fod digon o gyfleoedd gwaith yn y sector adeiladu. “

Wrth edrych i’r dyfodol, mae The Construction Hub Academy yn gobeithio datblygu cynllun prentisiaeth tymor hir gyda Choleg y Cymoedd, lle bydd dysgwyr yn astudio cyrsiau o’r academi ac yn ennill profiad ar y safle.

Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn astudio cyrsiau yn yr academi gael rhagor o wybodaeth yma: www.theconstructionhubacademy.co.uk

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau