Adnoddau 5 Seren Coleg y Cymoedd yn ysbrydoli darpar gogyddion

Yr wythnos hon, cyhoeddodd Coleg y Cymoedd fuddsoddiad arall gwerth miliynau mewn addysg bellach ym Mwrdeistref Caerffili.

Bwriad y coleg ydy buddsoddi tua £4 miliwn i uwchraddio’i gyfleusterau peirianneg cerbydau a hyfforddiant chwaraeon yn Ystrad Mynach, tra bydd holl gyrsiau Lefel A y coleg o fis Medi yn cael eu lleoli yng nghanolfan arbenigol Lefel A ar gampws newydd £40 miliwn Nantgarw .

Bydd y buddsoddiad yn caniatáu i gampws Ystrad Mynach ehangu ei weithdai cerbydau sydd eisoes llawn offer, yn ogystal â’r uned hyfforddiant chwaraeon arbenigol, ac ar yr un pryd, yn rhoi 28 o opsiynau pwnc i fyfyrwyr Lefel A, un o’r dewisiadau ehangaf yng Nghymru.

Dywedodd Judith Evans, pennaeth y coleg: “Mae’r buddsoddiad yn arwydd o ymrwymiad y Coleg i sicrhau bod campws Ystrad Mynach yn parhau i ddarparau safonau dysgu cyfwerth â’r gorau yng Nghymru a bod y coleg cyfan yn darparu addysg bellach o’r radd flaenaf ar gyfer ardal Caerffili a Chwm Rhymni.”

Gan gyfeirio at symud 70 myfyriwr Lefel A o Ystrad Mynach i Nantgarw, dywedodd: “Bydd y symud yn dod â chyfleoedd newydd i ddewis o ystod ehangaf o bynciau yn yr amgylchedd addysgu mwyaf modern yng Nghymru a gyda mynediad i amrediad helaeth o gyfleusterau hamdden a gwasanaethau cymorth bugeiliol. Rydyn ni’n hyderus y byddan nhw’n cael profiad dysgu mwy cyfoethog.”

Ychwanegodd y pennaeth y byddai cyfnod o ymgynghori ar agweddau ymarferol y symud ond nododd bod myfyrwyr Ystrad Mynach eisoes yn dod o ddalgylch eang, felly ni fyddai teithio i Nantgarw yn golygu fawr o wahaniaeth yn yr amser teithio.”

Mae Canolfan Lefel A Coleg y Cymoedd yn gweithredu mewn partneriaeth â Choleg Catholig Dewi Sant, Caerdydd, ac Ysgol Gatholig Cardinal Newman ym Mhontypridd a, gyda thros 600 o fyfyrwyr, y coleg ydy’r darparwr Lefel A mwyaf yng Nghaerffili a Rhondda Cynon Tâf.

Ychwanegodd Mrs Evans: “Wrth i ni nesu at ddiwedd blwyddyn gyntaf lwyddiannus iawn Coleg y Cymoedd, byddwn ni’n dal i ymroi i fod yn flaengar ym maes addysg bellach yn Ne Cymru. Mae’n bwysig iawn felly sicrhau bod ein cymunedau yng Nghaerffili a Rhondda Cynon Tâf yn cael mynediad i’r safonau uchaf o addysg, cyfleusterau a phartneriaethau gyda busnesau blaengar.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau