Adnoddau’r Coleg i hyfforddi darpar weithwyr y Rheilffordd

Mae buddsodiad mawr ar y gweill ar gyfer hyfforddi’r grefft o drin moduron ar safle Ystrad Mynach Coleg y Cymoedd.

Bwriedir buddsoddi cyfanswm o £2.1miliwn yn yr adnoddau hyfforddiant cynnal a chadw cerbydau modur, cyfleusterau a fydd yn disodli’r rhai presennol ar gampws Rhymni y Coleg o fis Medi 2015.

Mae’r ganolfan newydd hon yn cael ei datblygu i gwrdd â’r galw cynyddol am weithdai blaengar y diwydiant ar gyfer atgyweirio a chynnal a chadw cerbydau, ac adnoddau i ddiagnosio a phrofi ceir.

Ystyrir bod y cyfleusterau sydd ar brydles ar gampws Rhymni yn heneiddio ac heb fod yn cwrdd â gofynion anghenreidiol ar gyfer buddsoddiad Coleg y Cymoedd yn ei adran hyfforddiant cerbydau modur.

Fodd bynnag, bydd yr holl ddysgwyr yno wedi cwblhau eu hastudiaethau erbyn Medi 2015. Mae Coleg y Cymoedd hefyd wedi gwarantu y darperir yn ddigonol ar gyfer myfyrwyr presennol sy’n penderfynu symud ymlaen i lefelau uwch o hyfforddiant cerbydau modur o hynny ymlaen.

Dywedodd Anthony Clarke, 16 oed o Gaerffili, sydd ar hyn o bryd yn astudio ar gwrs Diploma mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn ar gampws Rhymni: “Ar y foment, mae gen i daith o 45 munud ar y trên i astudio ar gampws Rhymni.

Bydd yn wych i gael y cyfleuster newydd ar gampws Ystrad Mynach gan mod i’n cynllunio i barhau gyda fy astudiaethau a symud ymlaen i Lefel 2 Chwaraeon Moduro ac yna o bosibl gwneud cwrs Lefel 3 mewn Cerbydau Modur yn y dyfodol. Mae mwyafrif o fy ffrindiau ar y cwrs yn dod o Gaerffili ac Ystrad Mynach hefyd, felly bydd o fantais i ni gyd.

“Mae’r ychydig sy’n byw yn ardal Rhymni eisoes yn teithio’r un pellter ag y bydd rhaid teithio i Ystrad Mynach, felly fydd hynny ddim yn broblem,” ychwanegodd Anthony.

Dewisodd Lucy O’Connell, 18 oed o Rhymni i astudio yng Ngholeg y Cymoedd a’i gobaith ydy symud ymlaen i yrfa ym maes cerbydau modur. Dywedodd: “Dydy’r teithio ddim yn fy mhoeni gan y bydd yn hawdd i ddal trên a hefyd dw i’n gobeithio y bydda i’n pasio fy mhrawf gyrru cyn bo hir.

Bydd yn werth cael cyfleusterau newydd a bod ar gampws mwy gyda mwy o hinsawdd ac yn gallu cymysgu gyda mwy o bobl ar gyrsiau eraill.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau