Mynychodd dysgwyr o bob rhan o’r coleg sgwrs ysbrydoledig gan y cyn-fyfyriwr Lee Williams.
Mynychodd Lee, 27 o’r Rhondda, yr hen Goleg Morgannwg ac mae bob amser wedi bod yn awyddus i rannu ei brofiad gyda dysgwyr cyfredol y coleg, sef Coleg y Cymoedd erbyn hyn.
Roedd llwybr ei yrfa yn glir o oed ifanc – roedd ganddo’r ddawn i dynnu pethau’n ddarnau, ond ddim i’w rhoi yn ôl at ei gilydd bob amser.
Roedd Lee’n mwynhau Electroneg yn yr ysgol ac er mwyn datblygu ei ddiddordeb yn y pwnc, aeth ymlaen i astudio’r Dyfarniad Cenedlaethol mewn Peirianneg Afionig ar gampws Nantgarw.
Gan feddu ar y cymhwyster a’r uchelgais ymunodd Lee â’r Awyrlu Brenhinol fel peiriannydd. Yn ystod y chwe blynedd y mae wedi gwasanaethu fel awyrennwr mae wedi ennill cymwysterau a phrofiadau pellach yn ymwneud â Pheirianneg ‘sydd wedi newid ei fywyd’.
Gorffennodd Lee ei gyflwyniad gan ddiolch i’w diwtoriaid a’i ysbrydolodd ac a gefnogodd ei daith ddysgu – roedd cofrestru yn y coleg yn garreg gamu hanfodol yn ei hyfforddiant.