Llongyfarchiadau i Adam Saunders, aelod o staff y Cymoedd, a ddewiswyd i gynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau Hoci Meistri Ewrop eleni.
Bydd Adam yn rhan o’r garfan o 18 a fydd yn mynd i Rotterdam yn ddiweddarach y mis hwn, lle byddant yn wynebu’r Almaen, Denmarc ac Iwerddon.
O fis Medi 2018, mynychodd Adam, ynghyd ag 80 o chwaraewyr, wersylloedd hyfforddi misol fel rhan o’r broses ddethol; ac roedd wrth ei fodd pan gafodd ei ddewis fel rhan o’r garfan.
Ym mis Mehefin, teithiodd i Glasgow lle rhoes berfformiad cryf, gan chwarae safle’r blaenwr. Roedd y tîm yn falch o’u perfformiad.
Datblygodd angerdd Adam am hoci pan oedd yn berson ifanc yn ei arddegau yng Nghaerdydd ac ail-gyneuwyd y cariad hwnnw pan enillodd le ym Mhrifysgol Luton. Trwy gydol ei astudiaethau tair blynedd, chwaraeodd dros dîm y brifysgol a Chlwb Hoci Tref Luton.
Ar ôl graddio o Brifysgol Luton dychwelodd Adam i Gymru ac ymunodd â Chlwb Hoci Caerffili, lle chwaraeodd am 9 mlynedd cyn ymuno â’i glwb presennol – Clwb Hoci Gwent.
Mae’r tair blynedd a dreuliwyd yng Nghlwb Hoci Gwent wedi bod o fudd i Adam, gyda’i amserlen hyfforddi drwyadl a gemau yn erbyn gwrthwynebwyr caled o bob rhan o Dde Cymru a Gorllewin Lloegr.
Dywedodd Adam, a gyflogir fel Swyddog Ymgysylltu â Chyflogwyr yng Ngholeg y Cymoedd, Ym mis Ebrill 2018, anelais at gyrraedd Sgwad Hoci Cymru, drwy hyfforddi’n galed i wella fy ffitrwydd a’m gêm. Rwy’n falch iawn fy mod wedi cyflawni fy uchelgais, gan wneud yr holl hyfforddi dros y misoedd yn werth chweil. Rwyf mor falch o fod yn cynrychioli Cymru a hoffwn ddiolch i’r coleg am eu cefnogaeth “.
“