Aelod Seneddol lleol yn symbylu’r Dysgwyr cwrs Busnes

Yn dilyn uno’r colegau yn 2013, mae cynllun Iaith Gymraeg Coleg y Cymoedd wedi’i gymeradwyo a’i ganmol.

Diwygiwyd Cynllun Iaith Gymraeg ysefydliad gan y Dirprwy Bennaeth Gwella Ansawdd , dau Hyrwyddwr Dwyieithrwydd y coleg a grŵp Cymraeg y Staff .

Yn ystody broses ymgynghori cymeradwywyd y Cynllun gan aelodau o’r cyhoedd a sefydliadau partneriaeth am ei fod yn “edrych i’r dyfodol ac yn uchelgeisiol”. Cymeradwywyd y polisi gan Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg ar Fehefin 24 yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus.

Mae’r Cynllun yn datgan ymrwymiad Coleg y Cymoedd i’r iaith Gymraeg ac yn rhoi manylion am y modd y bydd yn datblygu a hyrwyddo’r defnydd o Gymraeg ymhob un o’i weithgareddau. Nod y Cynllun Iaith Gymraeg ydy datblygu Ethos Cymreig yn y coleg, datblygu sgiliau cyfathrebu dwyieithog a’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a gynigir.

Mae tua mil o siaradwyr Cymraeg yng Ngholeg y Cymoedd a llawer mwy yn dysgu’r iaith. Mae tua 50,000 o siaradwyr Cymraeg yn byw yn ardaloedd Rhondda Cynon Taf a Chaerffili a nod y Cynllun ydy darparu gwasanaeth o’r un ansawdd uchel yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Mae’r Coleg wedi ymrwymo i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg, a ddaeth yn iaith swyddogol yng Nghymru yn 2011, nid yn unig fel pwnc academaidd ond fel iaith fyw cymunedau a iaith gymdeithasol, yn unol â gweledigaeth Llywodraeth Cymru o Gymru wirioneddol ddwyieithog.

Dywedodd y Dirprwy Bennaeth, Peter Finch,“Mae parhau i ddatblygu dwyieithrwydd ymhob maes yn nod allweddol i’r coleg nawr ac yn y dyfodol. Rydyn ni’n hynod o fodlon gyda’r cynnydd a wnaed hyn yma.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau