Gofynnwyd i Alexander Dighton, un o fyfyrwyr Coleg y Cymoedd, ddylunio peiriant wobler gyda rhaglen gyfrifiadur.
Y canlyniad oedd i’r llanc o Gwm Cynon ennill cystadleuaeth peirianneg mecanwaith uwch drwy Gymru gyfan.
Mae Alexander Dighton, 18 oed, o Aberdâr wedi ennill rownd derfynol Cymru am Sgiliau Dylunio drwy Gyfrifiadur (CAD) i Beirianwyr Mecanwaith, gan guro 14 o fyfyrwyr peirianneg yn y gystadleuaeth sydd wedi ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru.
Yn fyfyriwr yng Ngholeg y Cymoedd, sy’n astudio am gymhwyster Lefel 2 ‘City and Guilds’ Modelu Parametrig, ei dasg mewn pedair awr oedd darparu dyluniad CAD o beiriant wobler, sydd a thros 50 o rannau gwahanol iddo.
Roedd y beirniaid yn chwilio am sgiliau dylunio ac yna gwirio os oedd y model terfynol wedi ei gydosod mewn dull realistig, fel y gallai redeg mewn bywyd go iawn.
Meddai Alexander: “Y rhan fwyaf anodd o’r gystadleuaeth i mi oedd cydosod yr holl fanylion bach ar y dyluniad CAD.
“Yn ogystal ag astudio’n llawn amser yng Ngholeg Castell-nedd Port Talbot, rydw i hefyd y gweithio tuag at gymhwyster Lefel 2 ‘City and Guilds’ Modelu Parametrig yng Ngholeg y Cymoedd, felly roedd canfod amser i ymarfer hefyd yn heriol iawn.
Wnes i erioed ddisgwyl byddwn i’n ennill o gwbl. Roeddwn i’n ail yn y categori roboteg llynedd ac fe wnes i gystadlu yn y sioe sgiliau ond heb gyrraedd y brig, felly mae’n dangos bod fy sgiliau’n datblygu. Rydw i’n falch o gael mynd ymlaen nawr i gynrychioli Cymru.â€
Nesaf, bydd Alexander, sydd a’i fryd ar fod yn beiriannydd yn yr Awyrlu, yn mynd i rownd y DU o Gystadleuaeth Byd Sgiliau CAD Peirianneg Mecanyddol yn y sioe sgiliau yn ninas Birmingham ym mis Tachwedd.
Ychwanegodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: Mae’n hanfodol i ddyfodol ein gwlad ein bod yn cael gweithlu uchel eu sgiliau. Mae’n bwysig pwysleisio gwerth sgiliau galwedigaethol ymarferol y gallwn eu defnyddio yn ein diwydiannau ffyniannus yng Nghymru.”
“Mae’n golygu gwaith caled, a gwir ddyfalbarhad a llawer o sgiliau i gystadlu yn erbyn prentisiaid a dysgwyr mwyaf talentog Cymru, felly dylid canmol a dathlu eu gorchest.
“Rydyn ni’n dymuno’n dda iawn i Alexander a phawb fydd yn y ffeinal, nid yn unig yn rowndiau nesaf o’r cystadlaethau, ond hefyd yn y gyrfaoedd byddan nhw’n eu dilyn.”
Ar Ebrill 16, bydd Coleg y Cymoedd yn cynnal ei ddiwrnod cynghori. Bydd y Diwrnod Cynghori yn parhau o 4.00 y pnawn hyd 7 yr hwyr ac yn gyfle i ddarpar ddysgwyr a’u teuluoedd i fynd o gwmpas cyfleusterau’r coleg a dysgu rhagor am y cyrsiau sydd ar gael.
“