Y tro cyntaf i’r efeilliaid fod ar wahân a’r ddwy yn mynd i astudio cymdeithaseg
Mae’r efeilliaid unfath Amelia a Macey Morris o Bontypridd yn edrych ymlaen at gychwyn eu gyrfaoedd ym maes cymdeithaseg ar ôl i’r ddwy gadarnhau eu lle i astudio’r pwnc mewn prifysgol yn dilyn eu canlyniadau gwych y bore ‘ma.
Mae dysgwyr Coleg y Cymoedd yn gobeithio y bydd y graddau yn eu galluogi i wneud gwahaniaeth cymdeithasol positif a mynd i’r afael â thlodi ac anghyfartaledd incwm, a ysgogwyd gan eu profiadau eu hunain o gael eu magu mewn ardal is ei hincwm.
Bydd Amelia yn astudio cymdeithaseg ym Mhrifysgol Bryste ar ôl derbyn graddau ABB yn y gyfraith, llywodraeth a gwleidyddiaeth, a Saesneg, tra bydd Macey yn mynd i Brifysgol Caerdydd i astudio’r pwnc ar ôl cyflawni graddau ABC mewn gwleidyddiaeth, cymdeithaseg a throseddeg.
Er na fydd y chwiorydd yn rhy bell oddi wrth ei gilydd, hwn fydd y tro cyntaf iddyn nhw gael eu gwahanu, gan iddyn nhw wneud popeth gyda’i gilydd erioed.
Dywedodd Amelia: “Rydyn ni mor gyfarwydd â bod gyda’n gilydd, bydd yn rhyfedd bod ar wahân ond rydyn ni’n gyffrous i gychwyn ein teithiau a bydd yn hyfryd i gael amser i ddatblygu fel unigolion.
“Rydw i am ddysgu rhagor am anghydraddoldeb a gwahanol ideolegau cymdeithasol. Mae gen i ddiddordeb yn y mod y mae’r rhain wedi’u hymgorffori yn y gymdeithas a sut i wneud newidiadau.”