Anrhydeddu Tiwtor sy’n ysbrydoli ei myfyrwyr

Mewn seremoni wobrwyo yn ddiweddar, anrhydeddwyd tiwtor o Bontypridd gan ei dysgwyr am ei brwdfrydedd a’i gwersi deniadol gan drechu dros 400 o diwtoriaid eraill o Dde Cymru.

Cyflwynwyd Gwobr Dewis y Dysgwyr i Helen Haines, 62, yn ystod Seremoni gyntaf Coleg y Cymoedd i Gydnabod Staff. Dysgwyr ar draws pedwar campws y coleg yng Nghymoedd De Cymru oedd yn pleidleisio.

Canmolwyd Helen, sydd wedi arwain cwrs ‘Addysgu Mynediad i’r Gwyddorau Biolegol AU’ ar gampws Ystrad Mynach am ei ‘phersonoliaeth llawn asbri’ a’i ‘dull amheuthun’ o fynd ati i addysgu.

Dywedodd un dysgwraig, Michelle Dupuis, 43 oed o Gaerffili: “Mae hi’n wych ac yn berson agos atoch a all ddod â phwnc bioleg yn fyw. Dw i’n edrych ymlaen at ei gwersi bob amser. Gwersi Helen sydd wedi fy ysgogi i ddilyn fy mreuddwyd o yrfa ddelfrydol.”

Yn dilyn y seremoni wobrwyo ar gampws Nantgarw, dywedodd Helen: “Ron i ar ben fy nigon. Don i erioed wedi dychmygu ennill y wobr ond mae’n rhoi pleser mawr i mi. Dw i wrth fy modd yn addysgu Bioleg a chwrdd â chymaint o ddysgwyr ffantastig.

“Mae ‘na ystod mor eang o bobl ar y cwrs nawr, gan gynnwys nifer o ddysgwyr aeddfed sydd wedi dewis dychwelyd i fyd addysg. Mae rhai wedi cael eu gwneud yn ddiwaith, rhai eisoes yn meddu ar raddau ond mae pawb mor frwd dros y pwnc a thros gyflawni eu targedau personol. Dydy hi ddim yn dasg anodd eu haddysgu.”

Dywedodd Helen, nad oes ganddi, er gwaethaf dymuniad ei gŵr, unrhyw gynlluniau i ymddeol yn fuan gan ei bod yn caru addysgu cymaint.

Dywedodd Judith Evans, Pennaeth Coleg y Cymoedd: “Bu’n bleser gweld Helen yn derbyn Gwobr Dewis y Dysgwyr ar ôl clywed rhai o’r dysgwyr ei chanmol i’r cymylau. Mae Helen ymgorfforiad o’r brwdfrydedd yr ydyn ni’n ei annog i’n holl staff i’w arddangos yn eu gwersi, gan roi’r addysg orau i’n dysgwyr er mwyn sicrhau eu bod ar y blaen pan fyddan nhw’n chwilio am swyddi. Mae hi’n ased i’r coleg!”

Yn ystod hon, ei blwyddyn gyntaf, roedd y Seremoni Cydnabod Staff yn cynnig gwobrau ar gyfer categorïau megis Gwobr Cyflawniad Tîm, Gwobr Y Defnydd o Dechnoleg, Gwobr Rhagoriaeth Gwasanaeth, Gwobr Llythrennedd a Rhifedd, Y Wobr Gymraeg, Gwobr Addysgu a Dysgu, Gwobr Cymorth Busnes, Gwobr Gydnabyddiaeth Arbennig a Gwobr Cyflogai Nodedig, sy’n cydnabod rhai o’r 900 o staff ar draws pedwar campws Coleg y Cymoedd.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau