Arbenigwr ‘Mowldio’ yn recriwtio doniau’r Cymoedd

Sefydlwyd Dyfodol@Cymoedd ym mis Ebrill 2019 i wella’r ddarpariaeth sy’n cael ei chynnig i ddysgwyr yn y coleg wrth geisio cymorth i wneud cais am gyflogaeth a phrentisiaethau. Yn ystod y cyfnod hwn, mae Tîm y Dyfodol wedi helpu cannoedd o ddysgwyr i gyflawni deilliannau rhagorol.

Hefyd, mae’r Tîm yn helpu cyflogwyr i recriwtio staff newydd, gydag un llwyddiant o’r fath wedi’i gysylltu â chwmni lleol OGM (SW) Limited, ym Mhenallta. Mae’r cwmni, sy’n cynhyrchu darnau a chydosodiadau mowldio chwistrellu plastig, gan ddefnyddio technolegau mowldio chwistrellu, awtomeiddio ac argraffu 3D datblygedig, yn ehangu ac roedd yn awyddus i gynnig dwy rôl allweddol yn y cwmni i bobl â’r sgiliau, y wybodaeth a’r cymwysterau perthnasol.

Amlygodd Tîm y Dyfodol 13 o ymgeiswyr posibl o’i garfan, a oedd yn cyfateb i feini prawf OGM. Cysylltwyd â’r dysgwyr i weld a fyddai gwneud cais am ddwy rôl Prentis Beiriannydd Ansawdd a Gweinyddwr Busnes a Systemau dan Hyfforddiant o ddiddordeb iddynt, ac anfonwyd eu CVs i OGM.

Yn dilyn cyfres o gyfweliadau, sicrhaodd William McKeown, a oedd yn astudio Rhaglen Peirianneg Uwch Lefel 1, swydd Prentis Beiriannydd Ansawdd a sicrhaodd Drew Williams, a oedd yn astudio Diploma Mynediad at AU mewn Busnes a Gwasanaethau Ariannol, swydd y Gweinyddwr Busnes a Systemau dan Hyfforddiant.

Meddai William, wrth sôn am ei swydd newydd: “Rwy’ wir yn mwynhau fy mhrentisiaeth gydag OGM (SW) Ltd; mae wedi rhoi llawer o gyfleoedd i mi wella fy sgiliau peirianneg. Rwy’ wedi cael hyfforddiant gan yr Uwch Beiriannydd Ansawdd a’r Rheolwr Ansawdd i’m helpu i redeg CMM a dysgu am y System Rheoli Ansawdd; rwy’ wedi dysgu llawer gan y ddau ac maen nhw’n fy annog i drwy’r amser i ddatblygu fy sgiliau. Mae fframwaith y brentisiaeth mewn Peirianneg yn sylfaen i’r hyfforddiant rwy’n ei wneud yn y gwaith ar hyn o bryd. Mae Cydlynydd Peirianneg y Cymoedd, David Rees, yn gefnogol iawn ac mae’n rhoi arweiniad ar y broses asesu a gofynion y cymhwyster. Rwy’n ddiolchgar iawn i Dyfodol@Cymoedd, yn enwedig Michele a wnaeth fy helpu i sicrhau bod fy CV yn sefyll allan, gan baru fy sgiliau a’m gwybodaeth i’r cyfle am brentisiaeth gydag OGM. Mae pawb wedi bod mor gefnogol wrth fy helpu i gyflawni fy nyhead ar gyfer gyrfa, sef gweithio fel peiriannydd

Ac yntau’n sicrhau ei rôl newydd fel Gweinyddwr Busnes a Systemau dan Hyfforddiant, meddai Drew “Ers ymuno ag OGM, rwy’ wedi mwynhau dysgu a datblygu sgiliau newydd i gefnogi fy rôl yn fawr. Hefyd, rwy’n teimlo fy mod i wedi gwneud cyfraniad da o ran gwella busnes yn y sefydliad. Heb gefnogaeth Michele a Dyfodol@Cymoedd, fyddwn i ddim wedi cael y swydd. Fe wnaeth Michele fy helpu i fod yn fwy hyderus, ailysgrifennu fy CV ac archwilio technegau effeithiol wrth chwilio am swydd er mwyn cael gwaith pan adewais i’r coleg. Yn sicr, y llwybr dysgu yn y gwaith oedd y dewis iawn i mi ar lefel bersonol a datblygol. Mae Coleg y Cymoedd yn fy nghefnogi i o hyd gyda fy hyfforddiant ac asesu yn y gwaith; Mae Tammy Barker, yr Aseswr Hyfforddiant, wedi bod yn gefnogol iawn wrth fy nhywys i drwy’r NVQ Lefel 3 mewn Gweinyddu Busnes. Rwy’ wrth fy modd yn gweithio gydag OGM, maen nhw’n dîm gwych ac rwy’n gobeithio cael dyfodol hir a llwyddiannus gyda nhw.

Meddai Richard Holley, Cyfarwyddwr Gweithrediadau OGM (SW) “Gan fod y cwmni’n ehangu’n gyflym, roeddem yn gwybod bod rhaid i ni edrych tuag at y dyfodol a denu rhai prentisiaid ifanc, brwdfrydig. Heb unrhyw brofiad blaenorol o’r math hwn o recriwtio, cysylltom â Choleg y Cymoedd i helpu gyda’r broses, a oedd yn ddi-dor. Rydym ni wedi recriwtio dau weithiwr yn llwyddiannus a fydd, yn ein barn ni, yn ffynnu yn ein busnes ac yn ychwanegu gwerth wrth iddyn nhw a’r busnes dyfu gyda’i gilydd. Byddwn yn parhau i weithio gyda Choleg y Cymoedd i lenwi swyddi yn y dyfodol, pan fyddant ar gael.

Ychwanegodd Damian Scriven, Rheolwr Ansawdd OGM (SW) “Mae Coleg y Cymoedd wedi bod o gymorth enfawr i OGM ddod o hyd i’r ymgeiswyr iawn. I ddechrau, roedd dod o hyd i ymgeisydd addas a’i recriwtio’n teimlo’n dasg hynod anodd i fi fel Rheolwr Ansawdd; dyma oedd swydd prentis cyntaf OGM yn ein ffatri yn ne Cymru. Mae Michele Harris-Cocker a David Rees wedi bod yn rhan annatod o bontio William o fywyd coleg i’r swydd amser llawn fel Prentis Beiriannydd Ansawdd. Ni allaf ddiolch digon iddynt am eu holl gefnogaeth ac arweiniad trwy gydol y broses ac am eu cefnogaeth barhaus. Mae William wir yn mwynhau ei rôl yn OGM ac mae’n bwrw at fywyd Peiriannydd Ansawdd o ddydd i ddydd.

Meddai’r Cydlynydd Michele Harris-Cocker ar ran Tîm y Dyfodol yng Ngholeg y Cymoedd, “Mae cefnogi ymgyrch recriwtio OGM a’u helpu i baru’r doniau sydd gennym yn y coleg â’u hanghenion busnes wedi bod yn bleser.  Mae Richard a Damian wedi bod yn gefnogol iawn trwy gydol y broses ac wedi chwarae rhan hanfodol, yn enwedig yn ystod cyfnod ymgynefino Drew a William â’r sefydliad. Rwy’ wedi cadw mewn cysylltiad ag OGM ac mae’r adborth wedi bod yn gadarnhaol iawn, gyda’r ddau recriwt yn mwynhau’u swyddi newydd. Rwy’n hyderus y bydd Drew a William yn mynd yn bell yn eu gyrfaoedd, gan fod y ddau ohonynt yn ddynion ifanc uchelgeisiol ac mae ganddynt ffocws pendant; bu’n fraint eu harwain a’u cefnogi yn ystod y broses. 

Rwy’ wrth fy modd ein bod ni’n gallu cefnogi’r recriwtiaid newydd â’u hyfforddiant a’u hanghenion datblygu parhaus trwy fframweithiau hyfforddiant pwrpasol tîm Dysgu yn y Gwaith y coleg; bu’n ‘Ymdrech Tîm’ heb os!

Yn sgil heriau gwahanol a rolau sy’n esblygu’n gyson, mae’r ddau recriwt yn ffynnu gyda thîm hynod gefnogol y tu cefn iddynt, yn OGM (SW) ac yng Ngholeg y Cymoedd. Dyma enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth, gan fodloni anghenion y busnes a helpu’n dysgwyr i gyflawni’u dyheadau gyrfaol ar yr un pryd.

Mae OGM https://ogm.uk.com/ yn gwmni mowldio chwistrellu plastig yn Hengoed, de Cymru.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau