Arbenigwyr byd ac enwogion Cymreig yn ymuno â lansiad Gŵyl Cynhwysiant y Cymoedd: y digwyddiad cyntaf o’i fath ar gyfer darparwr AB yng Nghymru

Yr wythnos diwethaf, ddydd Gwener, Chwefror 17, 2023, agorodd Coleg y Cymoedd ddrysau ei gampws yn Nantgarw i arbenigwyr ym maes addysg gynhwysol, wrth i 800 o’i staff ymgynnull ar gyfer diwrnod hyfforddi arbenigol: Gŵyl Cynhwysiant.

Roedd y rhestr o siaradwyr gwadd blaenllaw y byd yn cynnwys Dr Pooky Knightsmith, Pete Wharmby ac Esther Barrett, a gyflwynodd dros 30 o sesiynau ‘cofrestru’ i staff ar y diwrnod. Roedd y meysydd ffocws yn cynnwys: Dyslecsia, ADHD, Awtistiaeth, Ymwybyddiaeth o Fyddardod, Iaith Arwyddion Prydain, Technoleg Gynorthwyol, Ymddygiad Heriol a mwy. Roedd y ddarpariaeth helaeth hon yn golygu nad oedd yn rhaid i aelodau staff golli sesiwn ar bynciau a oedd yn cyd-fynd agosaf â’u maes gwaith neu a oedd yn apelio at eu datblygiad proffesiynol eu hunain.

Y slot a lanwodd gyflymaf oedd cyflwyniad 9.30 y bore gan gyn-chwaraewr rygbi Cymru a’r Llewod, Lee Byrne, adroddodd hanes dadlennol am ei fywyd yn byw gyda Dyslecsia. Rhoddodd yr arwr rygbi ddadansoddiad o ragdybiaethau astudio gydag anghenion dysgu ychwanegol, ac roedd yn glir ynghylch y cymorth y byddai ef ei hunan wedi ei ddymuno tra bu yn yr ysgol.

Rhwng seminarau, defnyddiodd staff gyfrifiaduron mewn bythau preifat i gwblhau rhaglenni dysgu ar-lein a oedd yn canolbwyntio ar strategaethau i adeiladu amgylcheddau cynhwysol mewn addysg ac yn y gweithle. Hefyd, wrth law, roedd sefydliadau partner allweddol gan gynnwys Anabledd Dysgu Cymru, Heddlu De Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, oedd gyda stondinau ‘galw heibio’ i gynnig arweiniad arbenigol i’r rhai wnaeth gais am hynny.

Gŵyl Cynhwysiant y Cymoedd, sydd wedi ei ailfedyddio gan y staff fel ‘Ffest Cynhwysiant’, ydy’r digwyddiad hyfforddi cyntaf o’i fath mewn Addysg Bellach yng Nghymru. Nod ei ddigwyddiad agoriadol oedd rhoi’r set sgiliau angenrheidiol i staff cyn i’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) gael ei rhoi ar waith ym mis Medi 2023 yng Nghymru.

Bydd y Ddeddf yn helpu dysgwyr ifanc ag ADY i gyrraedd eu llawn botensial drwy oresgyn rhwystrau rhag dysgu, gan sicrhau ymagwedd gyson at ddarpariaethau ADY ac amddiffyniad i hawliau pob plentyn, waeth beth fo graddau eu hanghenion.

Mae’r Ŵyl Gynhwysiant ar fin cael ei hailadrodd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i diwtoriaid a staff cymorth am y newidiadau polisi diweddaraf ar gyfer addysg yng Nghymru, ac i ddarparu mynediad at yr arfer gorau o ran creu amgylchedd cynhwysol i bob dysgwr.

Wrth sôn am bwysigrwydd yr hyfforddiant a gynigwyd ar y diwrnod, dywedodd Dorian Adkins, Pennaeth Cynhwysiant a Chydlynydd ADY Coleg y Cymoedd: “Mae tua 20% o’r holl ddysgwyr sy’n gwneud cais i astudio yng Ngholeg y Cymoedd yn datgelu anhawster neu anabledd dysgu, a bydd angen cymorth gan ein Darpariaeth Dysgu Ychwanegol ar rai o’r dysgwyr hyn.

Yng Ngholeg y Cymoedd, rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth gorau posibl i’n dysgwyr, a rhan o hynny ydy sicrhau bod hyfforddiant Cynhwysiant yn ddefnyddiol ac yn ymglymu ar draws pob adran. Ochr yn ochr â’r sesiynau ar gyfer staff academaidd a staff cymorth dysgu, fe wnaethon ni gynnal “Recriwtio Gweithlu Niwroamrywiaeth” ar gyfer ein tîm Pobl a Diwylliant a “Gwneud Gwybodaeth yn Hawdd i’w Darllen” ar gyfer ein staff cymorth busnes.”

Ychwanegodd: “Roedd y digwyddiad y cyntaf o’i fath i ddarparwyr AB yng Nghymru. Mae’r ymglymiad a’r adborth aruthrol yr ydyn ni wedi’u dderbyn gan staff yn dyst i’w hymrwymiad i ddarparu amgylcheddau dysgu cynhwysol i ddysgwyr ag anghenion ychwanegol.

Hoffwn ddiolch i’r holl siaradwyr gwadd anhygoel, yr elusennau a’r sefydliadau a roddodd o’u hamser i gynnig cyngor ar gynhwysiant ac wrth gwrs i holl staff anhygoel y Cymoedd am eu rhan. Bydd ein dysgwyr yn elwa cymaint o hyn.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau