Cafodd dysgwyr Busnes a Chwaraeon campws Nantgarw gipolwg ar yrfa lwyddiannus David Dein, y dyn busnes a’r entrentrepreneur peldroed.
Daeth y siaradwr ysbrydoledig i’r coleg drwy fudiad ‘Speakers for Schools’, elusen sy’n rhoi cyfle i golegau wahodd unigolion blaenllaw o ystod eang o gefndiroedd, a hynny am ddim.
Mae David yn ffigwr enwog ac amlwg ym myd peldroed, wedi bod yn ganolog i’r broses o greu’r Brif Gynghrair (y Premier League) ym 1992 a hefyd ei gysylltiad â thîm peldroed merched Arsenal sy’n gyson ar y brig. Mae cyfoeth ei brofiad yn golygu ei fod yn gallu siarad am amrywiaeth enfawr o sectorau a swyddi ym maes chwaraeon.
Dywedodd y tiwtor, Kim Purnell “Roedd y dysgwyr wedi’u cyfareddu gyda sgwrs David a chymryd rhan yn y drafodaeth ar ddigwyddiadau peldroed; siaradodd hefyd am lwyddiant ac entrepreneuriaeth. Gwnaeth i’r dysgwr ymlacio a theimlo’n hyderus i ofyn eu cwestiynau – yn sicr mae’n gallu symbylu pobl ac yn sicr yn unigolyn y bydd y dysgwyr yn ei gofioâ€.
Roedden ni’n croesawu’r cyfle i sefydlu cysylltiad â ‘Speakers for Schools’ ac yn gwerthfawrogi dylanwad y mae gweithgareddau fel hyn yn eu cael ar ein dysgwyr, yn eu helpu i dyfu mewn hyder, i fod yn fwy penderfynol ac uchelgeisiol. Bu hefyd yn werthfawr i’n staff a fynychodd y digwyddiadâ€.
Mwynhaodd Stephen Stecker (20 oed) o Bontypridd y sgwrs gan ddweud: “Dw i’n mwynhau peldroed ac ron i’n edrych ymlaen yn fawr at sgwrs David gan ei fod yn ffigwr mor enwog yn enwedig yn Arsenal a’r clwb hwnnw yn un mor llwyddiannus. Ond siaradodd hefyd am uchelgais a’r penderfyniad i lwyddo – roedd e’n wych.â€
Mae siaradwyr’ S4S’ yn arweinwyr cyhoeddus, yn arbenigwyr yn eu maes ac yn unigolion dylanwadol sy’n rhoi o’u hamser a’u harbenigedd bob blwyddyn i ddod i siarad â myfyrwyr mewn ysgolion a cholegau gan symbylu dysgwyr drwy rhoi cipolwg, safbwyntiau a gwybodaeth ddiddorol iddyn nhw.
“