Artistiaid a dylunwyr byd-enwog yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o bobl greadigol

Mae’r pennau creadigol y tu ôl i Yoda yn Star Wars a dyluniadau mewn nifer o ffilmiau poblogaidd wedi ymuno â dysgwyr o dde Cymru i rannu eu profiadau ar greu gwisgoedd a phropiau yn barod ar gyfer y sgrin fawr.

Ymunodd artistiaid, dylunwyr a gwneuthurwyr gwisgoedd o bob rhan o’r byd ffilm a dylunio â dysgwyr yng Ngholeg y Cymoedd i’r dysgwyr gael clywed am eu gyrfaoedd a chael cyngor ar sut i lwyddo yn y diwydiant.

Ymwelodd y darlunydd ffantasi a dylunydd cysyniadol ffilmiau o fri Brian Froud, a’i wraig Wendy Froud, y gwneuthurwr doliau y tu ôl i’r Yoda gwreiddiol o Star Wars, â champws Nantgarw y coleg i siarad â’r dysgwyr creadigol.

Mewn gyrfa o ddeugain mlynedd, mae Brian wedi gweithio ar y lluniau ar gyfer sawl llyfr celf ffantasi, gan gynnwys Faeries, a gynhyrchwyd ar y cyd â dylunydd cysyniadol The Lord of the Rings, Alan Lee. Yn dilyn hyn, bu Brian yn gweithio fel dylunydd cysyniadol ar y ffilm Labyrinth yn yr 80au, gyda David Bowie yn serennu, a ffilm bypedau wedi’i hanimeiddio, The Dark Crystal.

Mae’r cerflunydd a’r gwneuthurwr pypedau Americanaidd Wendy, a weithiodd ochr yn ochr â Brian ar Labyrinth a The Dark Crystal, yn fwyaf adnabyddus am ei chreadigaethau yn The Muppet Show a’r ffilm The Empire Strikes Back. Mae hi hefyd wedi ysgrifennu a darlunio nifer o’i llyfrau ei hun. Yn fwy diweddar, mae’r gŵr a gwraig wedi gweithio gyda’i gilydd ar gysyniad a dyluniadau cymeriadau ar gyfer ‘The Dark Crystal: Age of Resistance’ Netflix.

Fel rhan o’r ddarlith, ymunodd William Todd-Jones, dylunydd a pherfformiwr pypedau o Gymru, â’r cwpl, sydd wedi perfformio pypedau a chreaduriaid ar nifer o ffilmiau nodwedd gan gynnwys Harry Potter, The Hitchhiker’s Guide to the Galaxy, the Muppets, Batman a Who Framed Roger Rabbit. Mae William hefyd wedi bod yn rhan o greu adran Creature FX ar gyfer addasiad poblogaidd y BBC / HBO eleni o His Dark Materials gan Philip Pullman.

Gyda dros 500 o bobl ifanc yn astudio pynciau creadigol yng Ngholeg y Cymoedd, rhoddodd y digwyddiad hynod boblogaidd y cyfle i ystod o ddysgwyr, gan gynnwys y rhai sy’n astudio creu propiau, llunio gwisgoedd, ffotograffiaeth a chelf a dylunio, glywed profiadau go iawn arbenigwyr sy’n gweithio yn y diwydiannau y maent yn gobeithio mynd iddynt.

Yn dilyn y ddarlith a thaith o amgylch gweithdai a stiwdios y coleg, cynhaliodd Brian a Wendy weithdy creu pypedau gyda’r dysgwyr, gan roi cyngor arbenigol iddynt ar greu eu campweithiau eu hunain. Yn y cyfnod cyn yr ymweliad, dyluniodd y dysgwyr eu pypedau eu hunain wedi’u hysbrydoli gan waith Brian a Wendy i’w beirniadu ganddynt yn ystod eu hamser yn y coleg. Dewisodd y pâr eu ffefryn o’r gystadleuaeth ‘Ready, Steady, Puppet’ a rhoesant gopi wedi’i lofnodi o’u llyfr newydd i’r dysgwr buddugol, Kamila Abramczyck.

Dywedodd enillydd y gystadleuaeth, Kamila, sy’n astudio’r HND yn y Celfyddydau Cynhyrchu Creadigol gyda ffocws ar ddylunio propiau: “Mae’r cyfle i gwrdd a siarad ag artistiaid mor ysbrydoledig ac uchel eu clod yn rhyngwladol yn gymaint o fraint. Mae fy nghwrs yn gweithio’n agos iawn gyda diwydiant, sydd mor bwysig er mwyn dod o hyd i waith ar ôl i mi raddio.

Dywedodd Alistair Aston, arweinydd y cwrs BA (Anrh) Teledu a Ffilm: Creu Propiau: “Roedd cael y cyfle i fod yng nghwmni rhai o’r dylunwyr a’r cerflunwyr mwyaf talentog yn y diwydiant am y diwrnod yn brofiad gwirioneddol wych i’n staff a’n myfyrwyr. Roedd clywed am sut y dechreuon nhw eu gyrfaoedd, eu prosesau creadigol a sut brofiad oedd gweithio gyda sêr fel David Bowie yn bleser pur.

“Mae’n amser mor gyffrous i fod yn rhan o’r diwydiannau creadigol yma yng Nghymru, yn enwedig gyda thwf cynyrchiadau teledu a ffilm o safon uwch yn lleol. Ni all cael artistiaid a dylunwyr o fri rhyngwladol, fel Brian a Wendy Froud yma yng Ngholeg y Cymoedd yn cefnogi ein cyrsiau, ond roi ysbrydoliaeth, hyder a gwerth i’n dysgwyr yn ystod eu hastudiaethau creadigol. “

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau