Cynhaliwyd nifer o gigs yn y coleg yn ddiweddar fel rhan o’r Wythnos Gymraeg pan fu dau o’r artistiaid roc y sîn Gymraeg gyfoes mwyaf cyffrous yn perfformio.
Wedi’i hariannu gan GolegauCymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru, nod yr wythnos oedd hybu cerddoriaeth Gymraeg gyfoes i staff a dysgwyr.
Cynhaliwyd gigs ar bob campws lle bu Mr Phormula a’r Ffug, artistiaid poblogaidd Cymraeg yn perfformio.
Perfformiodd ‘Mr Phormula’ ei gymysgedd unigryw o ‘bît-bocsio’, rapio a gwaith DJ i greu perfformiad hip-hop pleserus iawn i gynulleidfaoedd oedd wedi’u cyfareddu.
Yna, perfformiodd pedwar aelod o’r band Post pync a Psyche ‘Y Ffug’ o Sir Benfro ar gampws y pedwar coleg o flaen staff a dysgwyr.
Daeth Radio Cymru i’r coleg i recordio’r gig a chynnal gweithdai ar gyfer dysgwyr. Cafodd y dysgwyr y cyfle i recordio cyfweliadau gyda’r artistiaid cyn y gigs yn ogystal â’r perfformiadau eu hunain a-gan ddefnyddio cyfarpar Radio Cymru. Cafodd peth o waith myfyrwyr ei osod ar wefan Radio Cymru a’i ddarlledu ar Radio Cymru.
Dywedodd Ed Holden ,sef Mr Phormula: “Ces wythnos anhygoel! Yr hyn wnes i fwynhau fwyaf oedd yr agwedd at yr iaith Gymraeg, roedd pawb yn hollol agored ac yn barod i wrando ar gerddoriaeth Gymraeg fodern. Dw i’n falch iawn o fy nghrefft a’r ffaith mod i’n gallu cynrhychioli’r iaith mewn cyd-destun modern a bywiog. Wythnos wych!â€
Dywedodd Jamie Bevan, Hyrwyddwr Dwyieithrwydd: “Mae digwyddiadau fel hyn mor bwysig ac maen nhw’n helpu pobl i ystyried yr iaith yn bositif. Ein prif waith ydy annog dysgwyr i astudio’n ddwyieithog a thrwy gyfrwng y Gymraeg, mae’n hanfodol eu bod yn ystyried y Gymraeg yn berthnasol i’w bywydau bob dydd yn yr ystafell ddosbarth a thu allan.â€
“Rhaid diolch o waelod calon i ddysgwyr y cwrs technoleg cerddoriaeth a ddarparodd y sain a’r goleuo ar gyfer yr wythnos a rhoi’r hyn y maen nhw wedi’i ddysgu yn y Coleg ar waith a hynny mewn modd proffesiynol.â€
Ar Ebrill 16, bydd Coleg y Cymoedd yn cynnal ei ddiwrnod cynghori. Bydd y Diwrnod Cynghori yn parhau o 4.00 y pnawn hyd 7 yr hwyr ac yn gyfle i ddarpar ddysgwyr a’u teuluoedd i fynd o gwmpas cyfleusterau’r coleg a dysgu rhagor am y cyrsiau sydd ar gael.
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR