Arweinydd Plaid Cymru yn ymweld â Champws Coleg y Cymoedd

Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, wedi bod yn cwrdd â dau fyfyriwr o’r Rhondda sydd wedi gwireddu eu huchelgais o gael lle ym Mhrifysgol Rhydychen.

Cafodd yr Aelod Cynulliad o Benygraig gyfle i gwrdd â Shannon Britton ac Andrew Williams, y ddau’n 20 oed, yn ystod ei hymweliad â champws Nantgarw Coleg y Cymoedd.

Bydd Shannon, o Lynrhedynog, yn cychwyn cyn hir ar ail flwyddyn ei gradd Saesneg yng Ngholeg Exeter, Rhydychen. Mae Andrew, o Ynyshir, ar fin cychwyn ei flwyddyn gyntaf yn astudio Ffiseg yng Ngholeg St Hilda, Rhydychen.

Cwrddodd Leanne â’r ddau fyfyriwr yn ystod ymweliad â’r campws eithriadol gyfoes sydd yn Nantgarw, lle cafodd ei chroesawu gan Bennaeth y Coleg, Judith Evans, ac Ian Rees, Rheolwr Cynghrair Strategol Canolfan Lefel A y Coleg.

Fe fu hi hefyd yn cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb o flaen dosbarth llawn o fyfyrwyr Lefel A, lle bu’n ateb cwestiynau am ffioedd dysgu, merched mewn gwleidyddiaeth, dyfodol Cymru a chynlluniau Plaid Cymru i wella’r system addysg yng Nghymru.

Dywedodd Ms Wood: “Wnes i fwynhau’r ymweliad â Choleg y Cymoedd ac fe wnaeth yr amgylchedd dysgu modern ar y campws argraff fawr arnai. Roedd gan y myfyrwyr fynychodd y sesiwn holi ac ateb gwestiynau deallus ar fy nghyfer, rhai oedd yn arddangos dealltwriaeth dda o wleidyddiaeth a materion Cymreig. Roedden nhw’n glod i’w rhieni ac i’w tiwtoriaid.”

Ychwanegodd Ms Wood: “Ac yn benodol, roedd yn wych cael gair â Shannon ac Andrew am eu cyflawniadau hyd yma, am eu taith o’u cymunedau lleol a’u cynlluniau i raddio o Rydychen. Mae nhw’n ddau unigolyn sy’n ysbrydoli rhywun ac yn fodelau rôl i bobl ifanc Y Rhondda. Maen nhw’n brawf y gallwch chi gyflawni popeth, drwy waith caled, penderfyniad a chefnogaeth. Dymuniadau da i’r ddau ar gyfer y dyfodol.”

Dywedodd Ian Rees, Rheolwr Cynghrair Strategol Canolfan Lefel A Coleg y Cymoedd: “Roedd hwn yn gyfle ardderchog i fyfyrwyr Lefel A y Coleg – y genhedlaeth nesaf o bleidleiswyr – holi arweinydd un o’r prif bleidiau yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, ac i ymestyn eu hymwybyddiaeth wleidyddol. Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i Leanne Wood am neilltuo amser yn ei hamserlen brysur er mwyn gallu ymweld â’r Coleg. Rydyn ni hefyd yn ymfalchïo yng ngyflawniadau Shannon ac Andrew ac yn dymuno’r gorau iddyn nhw yn eu hastudiaethau yn Rhydychen.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau