Athletwraig ysgogol yn denu edmygedd enillwyr Gwobrau Coleg y Cymoedd

Cynhaliodd Coleg y Cymoedd ei seremoni wobrwyo flynyddol yn Sinema Showcase i ddathlu cyflawniadau’r rhai a astudiodd yn y coleg yn ystod y flwyddyn academaidd flaenorol.

Croesawodd Judith Evans, Pennaeth Coleg y Cymoedd y gwesteion a llongyfarch y dysgwyr ar eu llwyddiant. Cydnabyddodd gymorth y staff a hefyd y rhieni a’r teuluoedd oedd wedi cymell y dysgwyr drwy gydol y flwyddyn.

Dywedodd, “Dyma fy hoff achlysur yn y calendr academaidd pan ydyn hi’n dathlu cyflawniadau ein dysgwyr. Dwi’n hynod falch o fod yn Bennaeth y coleg a hoffwn ddiolch i’r llywodraethwyr sydd wedi rhoi cyfle i’r coleg fod yn un o golegau blaengar Cymru. Rydyn ni wedi buddsoddi mewn Caban Awyren newydd a chanolfan Hyfforddi Trin Cerbydau Modur ar gampws Ystrad Mynach, mewn Canolfan newydd ar gyfer Hyfforddi Gwaith Rheilffordd ar gampws Nantgarw ac yn ystod y flwyddyn newydd bydd gwaith yn cychwyn ar ein campws newydd yn Aberdâr; mae dyfodol cyffrous o’n blaenau”.

Fe wnaeth Mrs Liz James, Cadeirydd y Gorfforaeth, longyfarch y dysgwyr hefyd ac ategodd y diolchiadau i staff y coleg, gan ddatgan mai achlysuron tebyg i hwn sy’n atgyfnerthu penderfyniad y llywodraethwyr i roi o’u hamser a’u hymrwymiad i’r coleg.

Disgleiriodd James Owen, dysgwr ar y cwrs Celfyddydau Perfformio, fel arweinydd y noson, gan gyflwyno’n ddwyieithog mewn modd proffesiynol iawn.

Cyflwynodd James y siaradwraig wadd, Michaela Breeze, MBE, a rannodd uchafbwyntiau a siomedigaethau ei gyrfa lwyddiannus ym maes codi pwysau gyda’r gynulleidfa. Cafodd Michaela dderbyniad gwresog ac roedd wrth ei bodd i gyflwyno’r gwobrau i’r dysgwyr. Aelodau yr Uwch Dîm Rheoli, Karen Phillips, David Finch, Andrew Jarvis a John Phelps oedd yn cyflwyno’r dysgwyr.

Roedd y 50 enillydd yn dod o wahanol lefelau o gyrsiau ac adrannau ar draws pob campws; gan gynnwys grŵp o ddysgwyr Technoleg Cerddoriaeth a dderbyniodd gwobrau am Cyfraniad i’r Iaith Gymraeg.

Y Pennaeth oedd yn dewis y ddwy wobr olaf oedd wedi’u cadw’n gyfrinach sef y Wobr am Oresgyn Rhwystrau a’r Wobr am Gyflawniad Nodedig o restr o enwebai; Tayiba Aslam yn derbyn y wobr am Gyflawniad Nodedig a Daniel Pritchard yn ennill y Wobr am Oresgyn Rhwystrau.

Roedd Mr Wayne Warlow, Meistr Cwmni Lifrai Anrhydeddus Cymru yn bresennol i gyflwyno gwobrau i ddau  o’r dysgwyr Lefel A, Jacob Lewis, fydd yn astudio ym Mhrifysgol Caergrawnt ac Andrew Williamns a fydd yn astudio ym Mhrifysgol Rhydychen.

Megan Dimond a Nicole Wilkins, dysgwyr ar gwrs y Celfyddydau Perfformio ddaeth â’r noson i ben drwy ganu Tale as old as time, o’r sioe ‘Beauty and the Beast’ac I dreamed a dream o’r sioe ‘Les Miserables’.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau