Ymwelodd myfyrwyr Hanes a’r Gyfraith o Goleg y Cymoedd â Berlin o ddydd Llun 2 Mawrth tan ddydd Gwener 6 Mawrth 2020. Aeth y grŵp o 11 myfyriwr a dau aelod o staff, Mr Chris Griffiths a Ms Kayleigh Long, ar daith gerdded o amgylch y ddinas.
Ymhlith yr atyniadau roedd Porth Brandenburg; Y Gofeb i’r Iddewon a Lofruddiwyd a’r Amgueddfa Iddewig, Wal Berlin a Checkpoint Charlie, Gwersyll-Garchar Sachsenhausen a Pharc Tiergarten.
Dywedodd Ms Kayleigh Long, “Mae Berlin yn ddinas gyffrous gyda’i hardaloedd modern a’i gorffennol hynod ddiddorol. Y daith hon oedd y tro cyntaf i rai o’n dysgwyr fod dramor ac rwy’n siŵr y bydd yn daith i’w chofio. Mae wedi bod yn brofiad gwerthfawr i bawb yn addysgol ac yn ddiwylliannol.
Dywedodd Emily Richards (17 oed) o’r Coed Duon, sy’n astudio Safon Uwch Hanes a Chymdeithaseg a Chymhwyster Bagloriaeth Cymru ar gampws Nantgarw â€Roedd y daith i Berlin yn brofiad anhygoel o ran dod â’n gwaith cwrs yn fyw, a rhoes gyfle inni weld persbectif hanes gwahanol drwy lygaid yr Almaen. Ar y cyfan roedd yn daith dda iawn.
Dywedodd y tiwtor hanes Mr Chris Griffiths, “Bu’n ychydig ddyddiau prysur yn ymweld â’r holl atyniadau ond mwynhaodd y myfyrwyr y cyfle gan ddangos diddordeb mawr. Mae gan Berlin lawer i’w gynnig fel dinas o amgueddfeydd. Fe wnaeth y myfyrwyr amsugno’r Hanes – roedd yn daith gyntaf wych i’r adran Hanes ac yn un a fydd yn bendant yn cael ei hailadrodd â€.