Aur ydy Popeth Melyn wrth i’r Coleg ennill Safon Aur Corfforaethol

Dyfarnwyd gwobr aur i Goleg y Cymoedd mewn Safonau Iechyd am waith yn annog lles y staff.

Ail-ddilyswyd y Coleg o ran dal Gwobr Aur y Safon Iechyd Corfforaethol wedi diwrnod o gael ei ail-asesu ar 16 Ebrill 2015..

Dyfernir y wobr i’r sefydliad sy’n arddangos ymrwymiad cadarn i iechyd a lles eu cyflogai a chyn y cyfuno roedd Coleg Morgannwg wedi llwyddo i gyrraedd lefel Platinwm a Choleg Ystrad Mynach y lefel Aur.

Roedd yr ail-aesu yn cynnwys ymweliadau â Champws Nantgarw ac Ystrad Mynach, cyfarfod gyda’r Pennaeth a chyfarfod gyda’r Grŵp Iechyd a Lles a roddodd gyflwyniad manwl o’r hyn y mae’r Coleg yn ei wneud i hyrwyddo ac annog lles y staff.

Cyn yr asesiad, ymgymerodd y coleg â llawer o waith tu ôl i’r llenni er mwyn sicrhau tystiolaeth o ymrwymiad y sefydliad i’r staff gan ddefnyddio gwahanol ddulliau megis datblygiad polisi, Iechyd a Diogelwch a chynlluniau teithio a gwahanol fentrau lles. Ymhlith y mentrau hyn mae cynllun Seiclo i’r Gwaith, Talebau Gofal Plant, darpariaethau ar gyfer bwyta’n iach yn y mannau arlwyo, campfeydd ar y safle a disgownt ar ffioedd aelodaeth y cyfleusterau hamdden.

Amlygwyd nifer o gryfderau fel rhan o adborth positif yr aseswyr yn cynnwys cyfathrebu effeithiol, yr uwch reolwyr yn cydnabod pwysigrwydd lles staff, gweithredu polisïau a gweithdrefnau hyblyg a theg, adolygiad o berfformiad staff, hyrwyddo iechyd meddwl, y polisi ar dybaco/ysmygu, camdrin sylweddau ac alcohol, ymarfer a maethiad yn ogystal â chyfleusterau campfa ar y safle.

Dywedodd David Spencer, Swyddog Adnoddau Dynol: “Ar ran y Coleg, rydw i’n hynod falch o dderbyn y Wobr Aur . Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran am eu gwaith caled a’u harbenigedd nid yn unig yn ystod y broses ail-ddilysu ond hefyd yn ystod yr ugain mis diwethaf y bum yn arwain y rhaglen les.”

“Dw i’n meddwl ei bod yn bwysig cydnabod gwaith y rhai oedd yn rhan o’r mentrau Iechyd a Lles yn y ddau Goleg blaenorol oherwydd heb eu gwaith caled yn ymgorffori llawer o’r mentrau hyn, yn ddi-os byddai’r wobr hon wedi bod yn llawer mwy anodd i’w chyflawni. Rydyn ni nawr yn edrych ymlaen at gyrraedd y lefel Platinwm y flwyddyn nesaf.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau