Bachgen yn ei arddegau o’r Cymoedd yn ennill ysgoloriaeth bêl-droed i hyfforddi ac astudio yn America

Mae dysgwr Coleg y Cymoedd un cam yn agosach at wireddu ei freuddwyd o fod yn bêl-droediwr proffesiynol ar ôl ennill ysgoloriaeth i hyfforddi ac astudio mewn coleg blaenllaw yn yr UD.

Mae Owain Jones, sy’n 19 oed ac yn dod o Donypandy, ar fin mynd i America dros yr haf ar ôl sicrhau lle yng Ngholeg Cymunedol Jamestown yn Efrog Newydd.

Bydd y chwaraewr talentog, sydd ar hyn o bryd yn cwblhau cymhwyster Lefel 3 mewn Chwaraeon ar gampws Nantgarw Coleg y Cymoedd, yn hyfforddi gydag adran athletau clodwiw’r coleg i ddatblygu ei sgiliau pêl-droed a helpu i gychwyn ar ei yrfa ddelfrydol o chwarae’n broffesiynol.

Cyflwynwyd y cyfle i Owain hyfforddi dramor drwy adran chwaraeon Coleg y Cymoedd a drefnodd gyfarfodydd iddo gyda’r asiantaeth chwaraeon, Future Elite Sports. Cydweithiodd y coleg a’r asiantaeth yn agos i dynnu sylw at ddoniau pêl-droed Owain. Ffilmiodd y coleg gemau a sesiynau hyfforddi y cymerodd Owain ran ynddynt a chynorthwyodd yr asiantaeth Owain i baratoi ar gyfer sesiwn i hyfforddwyr yr UD lle rhoddwyd ei sgiliau a’i ddawn o dan y chwyddwydr.

Ar ôl misoedd o alwadau rhwng Future Elite Sports a hyfforddwyr amrywiol, derbyniodd Owain gynigion gan dri choleg yn yr UD, cyn penderfynu derbyn lle yng Ngholeg Cymunedol Jamestown yn y pen draw.

Meddai Owain: “Rydw i wedi bod ag angerdd am bêl-droed erioed ac wedi chwarae’r gamp ers pan oeddwn i’n ifanc. Mae chwarae’n broffesiynol yn y dyfodol yn freuddwyd imi, ac rydw i’n benderfynol o gyflawni hyn.

 “Rydw i mor ddiolchgar i Goleg y Cymoedd am fy nghyflwyno i Future Elite Sports, yn ogystal ag i’m tiwtoriaid Phil Thomas, Daniel Thomas a’r staff hyfforddi pêl-droed am fy helpu i gyflawni’r nod hwn. Hebddyn nhw, ni fyddwn lle rydw i heddiw o ran fy ngwybodaeth am bêl-droed a fy hyder.

“Mae gallu sicrhau lle i astudio dramor, yn enwedig yn ystod cyfnod mor anodd, yn rhywbeth rwy’n falch ohono. Rydw i’n edrych ymlaen at weld beth sydd gan y cyfle hwn ar y gweill i mi ac ni allaf aros i gymryd rhan yn yr hyfforddiant o’r radd flaenaf sydd gan Goleg Cymunedol Jamestown i’w gynnig.

Mae Coleg Cymunedol Jamestown yn aelod o Gynhadledd Athletau Gorllewin Efrog Newydd a’r Gymdeithas Athletau Colegol Iau Cenedlaethol (NJCAA) – corff llywodraethu cenedlaethol America ar gyfer athletau colegol. Ar ôl cwblhau ei gwrs dwy flynedd yn llwyddiannus yng Ngholeg Cymunedol Jamestown, bydd Owain yn gymwys i ddatblygu ei addysg a’i hyfforddiant rhyngwladol ymhellach fel myfyriwr-athletwr mewn prifysgol yn yr UD, gan agor drysau ar gyfer gyrfa bêl-droed broffesiynol.

Dywedodd Philip Thomas, tiwtor cwrs Owain yng Ngholeg y Cymoedd: “Mae astudio yn Efrog Newydd yn gyfle gwych i Owain. Mae’r broses o sicrhau lle i astudio yn yr UD wedi bod yn waith caled, ond mae Owain wedi dyfalbarhau ac wedi dangos ei hyder a’i argyhoeddiad.

 “Mae Owain wedi dangos ymrwymiad mawr i’w bêl-droed ac wedi ysbrydoli dysgwyr eraill i’w ddilyn. Rydym ni mor falch o Owain ac ni allwn aros i’w weld yn rhagori yn ei astudiaethau a’i hyfforddiant dramor. ”

Am ragor o wybodaeth am y cymwysterau a’r cyfleoedd Chwaraeon sydd gan Goleg y Cymoedd i’w cynnig, ewch i: https://www.cymoedd.ac.uk

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau