Yr wythnos diwethaf, croesawyd BBC Radio 4 i Goleg y Cymoedd ar gyfer recordiad byw o un o’i sioeau panel poblogaidd.
Ar gampws y coleg yn y Rhondda, cynhaliodd y sianel radio sioe ‘Any questions?’ – rhaglen drafod amserol dan arweiniad Chris Mason lle ceir panel o bersonoliaethau o fyd gwleidyddiaeth, y cyfryngau a mannau eraill yn ateb nifer o gwestiynau a ofynnir iddynt gan gynulleidfa fyw.
Mynychwyd y digwyddiad gan aelodau o’r cyhoedd yn ogystal â dysgwyr a staff o’r coleg. Ymhlith aelodau’r panel roedd y gwleidyddion Delyth Jewel (Aelod o’r Senedd), Nick Thomas-Symonds AS, Bob Sealy AS a Wera Hobhouse AS.
Yn ystod y sioe, cyflwynwyd pedwar cwestiwn i’r panel gan y gynulleidfa. Cafodd y dysgwyr a fynychodd y digwyddiad gyfle hefyd i gael cipolwg tu ôl i’r llenni ar sut mae’r sioe yn cael ei rhoi at ei gilydd yn ogystal â chael gwybodaeth uniongyrchol gan y tîm cynhyrchu am greu’r rhaglen.
Dysgwr Celfyddydau Perfformio, Katie Griffiths sy’n 18 oed, oedd un o’r unigolion a ddewiswyd i gyflwyno cwestiwn.
Holodd Katie y panel a oeddent yn cefnogi llacio cyfyngiadau teithio yn y DU yn llawn o ddiwedd mis Mawrth ymlaen yng ngoleuni’r amrywiolyn Covid-19 diweddaraf. Dywedodd Katie “Pan ofynnais i’r cwestiwn, roeddwn i’n teimlo’n nerfus, ond roedd yn brofiad gwych. Roedd yn ddiddorol gweld dadl wyneb yn wyneb, yn ogystal â chlywed gwahanol bwyntiau pob aelod seneddol. Doeddwn i ddim yn cytuno â’r holl sylwadau ond roedd y panel yn ffordd wych o ehangu fy meddwl am bynciau amrywiol.”