Breuddwyd Eidalaidd ar gyfer athrawon y dyfodol yn y Cymoedd

Cynigwyd cyfle i grŵp o fyfyrwyr addysgu o Dde Cymru ddilyn gyrfa eu breuddwydion a gweithio gyda phlant yr Eidal mewn lleoliad gwaith ar gyrion Fenis.

Cyfnewidiodd pedwar o ddysgwyr Coleg y Cymoedd gymoedd De Cymru am haul Môr y Canoldir ar ôl treulio pythefnos yn gweithio dramor fel rhan o daith a drefnwyd gan eu tiwtoriaid.

Treuliodd Katie Price, 20, Caitlan Billingham, 19, Abbie Fox, 19 a Wai Wai Chia, 37 bythefnos yn gweithio mewn meithrinfa ac ysgol gynradd leol yn nhref Castelfranco Veneto yng Ngogledd yr Eidal, dim ond 25 milltir o Fenis .

Cafodd y dysgwyr ail flwyddyn, sy’n astudio gofal plant yn y Coleg, brofiad o system addysg yr Eidal, gan ddysgu sut mae’r cwricwlwm a diwylliant yn wahanol i’r DU, ynghyd â phrofiad ymarferol yn gweithio gyda phlant.

Katie, o Faesycwmer, yw un o’r dysgwyr a gymerodd ran yn y daith, a drefnwyd trwy raglen gyllido ERASMUS a’r UE.

Er gwaethaf y rhwystrau ieithyddol, creodd Katie argraff ar y staff gyda’r lefel uchel o gefnogaeth a roes i’r disgyblion, yn ogystal â’i pharodrwydd a’i brwdfrydedd i ymgymryd ag unrhyw dasg a ddaeth i law. Mewn gwirionedd, roedd ei rheolwyr mor hapus gyda hi mae Katie wedi cael gwahoddiad yn ôl am leoliad arall.

Mae Katie, sydd ar fin astudio addysg gynradd ym Mhrifysgol Brighton ym mis Medi, yn gobeithio cymryd blwyddyn allan o’r cwrs i ddychwelyd i Castelfranco.

Dywedodd Katie: Roedd gweithio yn yr Eidal yn brofiad anhygoel na fyddaf byth yn ei anghofio. Mae gweld sut mae gwlad arall yn addysgu eu plant yn ddefnyddiol a diddorol iawn, ac mae’r profiad wedi rhoi cipolwg imi ar sut y gallaf wella rhai meysydd dysgu. Mae wedi agor fy llygaid i ffyrdd eraill o ennyn diddordeb plant a helpu gyda’u datblygiad academaidd a chymdeithasol. Rwyf wedi dysgu llawer ar y daith y bydd hynny’n sicr yn mynd yn ôl i’r ystafell ddosbarth gyda mi wedi imi gymhwyso fel athrawes.

“Roedd pawb mor groesawgar ac fe wnes i adeiladu perthynas dda gyda staff a phlant tra roeddwn i yno. Doeddwn i ddim eisiau gadael ac rydw i’n mynd i fethu pawb. Roeddwn mor hapus pan gefais fy ngwahodd gan yr ysgol am leoliad arall ac ni allaf aros i ddychwelyd. Unwaith rwyf yn gymwys fel athrawes, byddaf yn bendant yn ystyried symud i’r Eidal! “

Yn ogystal â gweithio yn yr ysgolion a’r meithrinfeydd yn Castelfranco, cafodd Katie a’i chyd-ddisgwyr gyfle i ymgolli yn niwylliant yr Eidal, gan ymweld â thref Treviso  a dinas enwog Fenis.

Mae’r pedair dysgwr yn astudio’r Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant yng Ngholeg y Cymoedd.

Mae’r cwrs, a gynhelir yng nghampws Ystrad Mynach y Coleg, wedi’i gynllunio i alluogi dysgwyr i symud ymlaen i’r brifysgol neu gael gwaith yn y sector, gan gynnwys rolau fel cynorthwyydd addysgu, cynorthwyydd cymorth un i un, nyrs meithrinfa neu swyddog gwyliau.

Dywedodd Angela Jones, tiwtor y cwrs yn Ysgol Gofal Coleg y Cymoedd: “Rhoes yr ymweliad â’r Eidal gyfle ardderchog i’r dysgwyr i ddefnyddio a gwella’r sgiliau y maent wedi’u datblygu hyd yn hyn yn ystod eu haddysg.

“Roeddent yn gallu gweld gwahanol arddulliau o chwarae ac addysgu, yn ogystal â dysgu sut i gynllunio gweithgareddau ac asesu ac arsylwi plant. Bydd cael profiad o ddiwylliant a dull gwahanol o addysg yn fuddiol iawn i’r dysgwyr, gan eu helpu i ehangu eu sgiliau a’u gwybodaeth, gan eu paratoi yn y ffordd orau ar gyfer gyrfa yn y diwydiant. “

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau