Brwydr canser yn ysbrydoli merch yn ei harddegau i wireddu ei breuddwyd o sefydlu ei busnes harddwch ei hun

Mae merch yn ei harddegau o’r Ddraenen Wen yn dathlu blwyddyn o fod yn fòs arni hi ei hun, wedi i’w brwydr â chanser ei chymell i ddilyn ei breuddwyd o sefydlu ei busnes harddwch ei hun.

Cafodd Shanan Bahia, sydd bellach yn 24 oed, ddiagnosis o lymffoma Hodgkin cam pedwar pan oedd hi ond 18 oed, a arweiniodd at gemotherapi brys a’i chadwodd yn gaeth i’w gwely am dros flwyddyn.

Gorfododd y profiad i Shanan ailasesu’r hyn yr oedd hi ei eisiau o fywyd a’i gadael yn benderfynol o wella a chyflawni ei huchelgais o sefydlu salon ei hun.

Bellach, Shanan yw perchennog balch Bahia Beauty – salon ym Mhontypridd sy’n cynnig ystod o driniaethau harddwch o golur a thriniaethau ewinedd, i driniaethau’r wynebau a thylino. Mae’r busnes yn parhau i ffynnu, ac mae Shanan yn gobeithio ei dyfu dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Magwyd Shanan gan deulu o entrepreneuriaid, felly roedd yn gwybod o oedran ifanc ei bod am fod yn berchen ar ei chwmni ei hun ryw ddydd. Ar ôl ymddiddori mewn harddwch ers amser maith, wedi iddi gwblhau ei chymwysterau TGAU, cwblhaodd Shanan gymhwyster Therapi Harddwch Lefel 2 yng Ngholeg y Cymoedd.

Er ei bod wedi cychwyn cwrs Lefel 3 wedi hynny, roedd y ffaith ei bod yn ennill cyflog yn ormod o demtasiwn i Shanan a phenderfynodd adael y coleg i weithio’n llawn amser ym maes lletygarwch – penderfyniad a edifarodd yn y pen draw. Flwyddyn yn ddiweddarach, cafodd ei diagnosis, a oedd yn sioc enfawr gan ei bod wedi tybio bod ei symptomau – colli pwysau a pheswch – o ganlyniad i straen a gorflinder.

Oherwydd difrifoldeb ei chyflwr, gyda’r canser wedi lledu i’w hysgyfaint, ei dueg a’i hafu, bu’n rhaid i Shanan ddechrau cemotherapi ar unwaith a gwneud y penderfyniad torcalonnus i roi’r gorau i gynlluniau i rewi ei hwyau – rhywbeth yr oedd wedi gobeithio ei wneud cyn ymgymryd â hi triniaeth.

Dros y deuddeg mis nesaf, yn lle mynd allan gyda ffrindiau a chychwyn ei gyrfa fel pobl eraill yn eu harddegau, treuliodd Shanan y mwyafrif o’i hamser naill ai’n gaeth i’w gwely neu mewn apwyntiadau ysbyty. Rhoes y daith i wella’r cyfle i Shanan ailfeddwl am ei nodau gyrfa, gan ei harwain yn ôl tuag at ei diddordeb gwreiddiol: therapi harddwch.

Meddai: “Pan dderbyniais fy niagnosis, roedd yn teimlo fel pe bai fy mywyd wedi’i ohirio, ond roeddwn yn benderfynol o beidio â gadael iddo fy nghuro. Wrth imi fagu nerth, roeddwn i’n gwybod y byddwn am ddychwelyd i’r coleg i orffen fy nghymwysterau ac yna sefydlu busnes.

“Gwnaeth fy salwch i mi sylweddoli pa mor werthfawr yw bywyd, felly roeddwn i eisiau sicrhau fy mod yn gwneud y mwyaf o bob cyfle. Roedd cael fy musnes harddwch fy hun wedi bod yn freuddwyd erioed a rhoes fy niagnosis imi’r cymhelliant i gyrraedd y nod hwnnw.

Unwaith y dechreuodd Shanan deimlo’n well, penderfynodd gael rhywfaint o brofiad diwydiant yn gweithio mewn bar ewinedd mewn archfarchnad ac mewn sba mewn gwesty. Yna dychwelodd i Goleg y Cymoedd i gwblhau ei chymhwyster Therapi Harddwch Lefel 3 ac enillodd wobr ‘Myfyriwr y Flwyddyn’ y coleg am ei dyfalbarhad a’i hymrwymiad i’w hastudiaethau.

Wedi’r llwyddiant hynny, agorodd ei salon harddwch ei hun flwyddyn yn ddiweddarach, sydd bellach yn dathlu ei ben-blwydd yn flwydd oed.

Dywedodd Nicola Davies, darlithydd Therapi Harddwch Shanan yng Ngholeg y Cymoedd: “Dangosodd Shanan gymaint o ymroddiad i’w chwrs pan oedd hi yma, er gwaethaf yr anawsterau a wynebodd gyda’i diagnosis canser. Roedd hi bob amser yn ôl ac ymlaen i’r ysbyty wrth astudio, ond roedd hi’n benderfynol o ennill ei chymhwyster terfynol ac ni adawodd i unrhyw beth ei hatal.

“Rydym ni mor falch o Shanan a phopeth mae hi wedi’i gyflawni, o’i hastudiaethau i’w busnes ei hun. Mae hi’n ysbrydoliaeth i lawer ohonom yma yn y coleg ac roedd yn llawenydd llwyr gallu chwarae rhan yn ei llwyddiant. “

Er bod effeithiau’r pandemig wedi taro’n galed ar Bahia Beauty, fel llawer o fusnesau eraill, mae Shanan yn parhau i wasanaethu cyfres o gleientiaid ffyddlon.

Yn y dyfodol, mae hi’n gobeithio helpu pobl ifanc eraill a hoffai sefydlu academi yn y salon, gan ddarparu hyfforddiant ardystiedig mewn ystod o therapïau a thriniaethau harddwch.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau