Buddsoddiad Cymoedd yn galluogi peirianwyr yn y dyfodol

Mae Coleg y Cymoedd wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y dysgwyr ac yng nghymwysterau academaidd ei ddysgwyr Peirianneg yn dilyn buddsoddiad parhaus ar ei gampysau.

Mae’r prosiect diweddaraf ar gampws y Rhondda yn dilyn buddsoddiad gwerth £3.1 miliwn mewn Canolfan Ragoriaeth Hyfforddiant Rheilffyrdd ar gampws Nantgarw, a gynlluniwyd i ddarparu hyfforddiant o ansawdd uchel a £260,000 mewn offer ar gyfer ei gweithdy yn Nantgarw.

Mae’r buddsoddiad o £230,000 yn y Gweithdy Peirianneg yn y Rhondda yn rhan o Raglen Gyfalaf uchelgeisiol y coleg ac fe’i hamlygwyd fel blaenoriaeth er mwyn mynd i’r afael â’r prinder sgiliau yn y sector.

Mae gan y cyfleuster newydd beiriannau o safon diwydiant er mwyn rhoi’r profiad a’r sgiliau cyflogadwyedd i ddysgwyr geisio gwaith ar ôl cwblhau eu cwrs.

Mae gan y gweithdy 9 turn a 6 peiriant melino newydd a wellodd yr amgylchedd dysgu gan ei wneud yn fwy ffafriol i ddysgu, gan ganiatáu i’r myfyrwyr weithio’n annibynnol i feithrin sgiliau a datblygu eu sgiliau peirianneg unigol.

Mae’r gweithdy newydd yn ychwanegiad i’w groesawu i’r cyfleusterau peirianneg. Bob blwyddyn mae’r coleg yn hyfforddi tua 500 o ddysgwyr peirianneg llawn amser a rhan amser, sy’n cynnwys tua 120 o brentisiaid, ar draws ei bedwar campws yn Aberdâr, Nantgarw, y Rhondda ac Ystrad Mynach.

Dywedodd John Williams, darlithydd Peirianneg ar gampws y Rhondda, “Mae’r cyfleusterau newydd ar y campws wedi chwarae rhan bwysig wrth helpu’r dysgwyr i gyflawni eu llawn botensial ac ennill cymwysterau rhagorol. Rydym wedi gallu hyfforddi’r dysgwyr ar y sgiliau sylfaenol sydd eu hangen yn y diwydiant heddiw ynghyd â’r technegau mwy cymhleth, gan ddarparu profiad ymarferol mewn melino, troi a gosod meinciau.

Cofrestrodd llawer o’r dysgwyr ar y cwrs Sylfaen ar gampws y Rhondda a thros gyfnod o dair blynedd maent wedi symud ymlaen i’r cymhwyster Lefel 3. Eleni mae’r staff Peirianneg yng nghampws y Rhondda wrth eu bodd gyda’r gyfradd basio o 100% o ddysgwyr â chymwysterau SIY a VRQ.

Cyflawnodd saith o ddysgwyr Lefel 1 sy’n astudio’r VRQ mewn Technolegau Peirianneg Ragoriaeth, o’r garfan o ddysgwyr Lefel 2, cyflawnodd 14 Ragoriaeth a chyflawnodd 10 deilyngdod ac o Gwrs Lefel 3 cyflawnodd 9 dysgwr Ragoriaeth a 3 gradd Teilyngdod.

Mae’r tiwtoriaid mor falch o’r holl ddysgwyr a’u cyflawniadau academaidd a chymdeithasol. Mae eu canlyniadau yn dyst i’w gwaith caled a’u hymrwymiad, staff brwdfrydig a gweithdy â chyfarpar da. Mae’n gwneud gwahaniaeth mawr rhoi’r adnoddau cywir i beirianwyr ifanc y dyfodol er mwyn gwella a datblygu … mae’r canlyniadau’n dweud y cyfan ”.

Mae peirianneg yn sector o dwf mawr yn ardal Rhondda Cynon Taf a Chaerffili, gyda photensial cyfleoedd gyrfa cyffrous i’n dysgwyr. Fel coleg, rydym yn gweithio’n agos gyda chyflogwyr i sicrhau bod ein cwricwlwm yn bodloni anghenion y diwydiant. Mae’r coleg wedi bod yn flaenllaw mewn hyfforddi prentisiaid ar gyfer GE Aircraft Maintenance ers dros 20 mlynedd ac yn ddiweddar mae adran cynnal a chadw British Airways ac Axiom Manufacturing Services wedi gweithio gyda’r coleg i hyfforddi eu prentisiaid. Mae llawer o’n prentisiaid wedi mynd ymlaen i gwblhau eu cymwysterau HNC a Gradd mewn Peirianneg a Pheirianneg Awyrofod a sicrhau cyflogaeth mewn sefydliadau cyffrous.

Mae Cymoedd yn dal i dderbyn ceisiadau i ymuno â chyrsiau Peirianneg ar gyfer mis Medi 2019. Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i www.cymoedd.ac.uk

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau