Buddsoddiad gwerth hanner miliwn yn Heol Sardis

Heddiw derbyniodd cynlluniau uchelgeisiol i drawsnewid maes rygbi Heol Sardis gyllid gan Grŵp Cyfleusterau Chwaraeon Cydweithredol Cymru. Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf a Choleg y Cymoedd hefyd wedi ymrwymo i ddarparu’r cyfleuster chwaraeon newydd ar gyfer Clwb Rygbi Pontypriodd, myfyrwyr coleg a chlybiau chwaraeon lleol.

Gyda chefnogaeth Arweinydd y Cyngor, Andrew Morgan a’r AS lleol, Owen Smith, roedd y Cyngor a Choleg y Cymoedd wedi gwneud cais am gyllid yn ddiweddar i Grŵp Cyfleusterau Chwaraeon Cydweithredol Cymru – sy’n cynnwys Undeb Rygbi Cymru, Cymdeithas Pêl- droed Cymru, Hoci Cymru a Chwaraeon Cymru – i rannol gyllido cae rygbi safonol 4G ar Heol Sardis. Bydd y cae newydd hwn yn caniatáu i gemau gael eu chwarae drwy gydol y flwyddyn ac yn darparu lleoliad newydd chwaraeon i fyfyrwyr Coleg y Cymoedd ehangu amrediad o gyfleoedd chwaraeon gall gynnig i fyfyrwyr ifanc

Dywedodd Y Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Rhondda Cynon Taf:

“Dwi wrth fy modd mod i wedi bod yn rhan o’r grŵp sydd wedi gweithio i ddatblygu’r cynnig uchelgeisiol hwn a fydd yn trawsnewid y cyfleusterau hyfforddi a chwaraeon ar faes rygbi Heol Sardis.

“Mae Owen Smith, yr Aelod Seneddol lleol, Clwb Rygbi Pontypridd a Choleg  Cymoedd wedi cydweithio i ddarparu cae 4G newydd ar faes Heol Sardis. Mae’r cynnig yn ceisio mynd i’r afael â phroblemau chwarae gêmau y mae Clwb Rygbi Pontypridd wedi’u hwynebu dros nifer o flynyddoedd ac o wneud hyn darparu adnodd newydd ar gyfer clybiau lleol o ddisgyblaethau chwaraeon eraill i ddefnyddo’r cae blaengar hwn.

“Bydd y cae newydd yn darparu lleoliad chwaraeon newydd ar gyfer myfyrwyr Coleg y Cymoedd ac ehangu’r ystod o gyfleoedd chwaraeon newydd a gynigir gan y coleg yn ychwanegol at y rhai a gynigir eisoes i’r myfyrwyr ifanc.

Dywedodd Owen Smith, Aelod Seneddol Pontypridd:

“Fel cefnogwr oes o Bontypridd dwi wrth fy modd mod i wedi gallu chwarae fy rhan i ddod â’r buddsoddiad newydd hwn i Heol Sardis. Rhaid llongyfarch y Clwb, y Cyngor, Coleg y Cymoedd a Grŵp Cyfleusterau Chwaraeon Cydweithredol Cymru a diolch iddyn nhw am eu gwaith caled a’u hymrwymiad, yn cydweithio i greu partneriaeth newydd ac i gyllido’r cae newydd.

“Mae Heol Sardis yn faes eiconig i ni yma ym Mhontypridd ac i’r gymuned rygbi fyd eang, ond mae traul a thywydd garw wedi golygu bod safon y cae wedi mynd ar ei waeth yn ddiweddar. Pan ddes i â’r partneriaid at ei gilydd gyntaf nifer o fisoedd yn ôl, roedden ni i gyd yn cytuno bod dirfawr angen arwyneb chwarae newydd os oedd y Clwb, y Coleg a’r gymuned ehangach yn mynd i elwa o frand enwog Heol Sardis yn y dyfodol a dw i wrth fy modd ein bod wedi symud ymlaen mor gyflym , mewn pryd ar gyfer y tymor nesaf.

“Dw i’n credu mai dim ond megis cychwyn pennod newydd ydy hyn yn hanes balch Heol Sardis a Chlwb Rygbi Pontypridd. Drwy gydweithio gallwn adeiladu ar y datblygiad i gadw’n maes, ein tîm a’n cymuned lle rydyn ni am iddyn nhw fod – a hynny am byth – wrth wraidd rygbi Cymru.”

 

Ychwanegodd Judith Evans, Pennaeth Coleg y Cymoedd:

“Mae’r Coleg wrth ei fodd i fod yn rhan o’r prosiect hwn a fydd yn gaffaeliad mawr i’n hadran Chwaraeon. Rydyn ni wedi buddsoddi ac yn parhau i fuddsoddi yn ein rhaglen Ystadau ac mae ganddon ni gyfleusterau academaidd gwych ond yn anffodus heb gaeau chwaraeon. Nawr, wrth weithio gyda Rhondda Cynon Taf, Grŵp Cyfleusterau Chwaraeon Cydweithredol Cymru a Chlwb Rygbi Pontypridd mae cyfle i gynnig cyfleuster o’r radd flaenaf i’n dysgwyr i ddatblygu a chynnal eu sgiliau i’r safon uchaf.

“Mae gan y Coleg enw ardderchog am gynhyrchu chwaraewyr ac mae llawer ohonyn nhw wedi cynrychioli a hyd yn oed wedi bod yn gapteniaid ar dimoedd rygbi Ieuenctid Cymru. Bydd y cyfleusterau yma yn Heol Sardis hefyd yn darparu lleoliad nodedig wrth groesawu timoedd eraill.”

Dywedodd Mr Peter Howells, Cyfarwyddwr Cyllid Clwb Rygbi Pontypridd:

“Yn ystod y 140 o flynyddoedd ein hanes, mae llawer o bethau cyffrous wedi digwydd yn ein clwb megis gorffen ar frig cynghreiriau, ennill cystadlaethau Cwpanau Cenedlaethol a chynhyrchu chwaraewyr rygbi o’r radd flaenaf. Fodd bynnag, dwi’n credu mai’r newyddion diweddaraf am arwyneb 4G newydd ar faes Heol Sardis fydd y gorau eto.” 

 

Dywedodd Adele Baumgardt, dirprwy gadeirydd Chwaraeon Cymru:

“Bydd y buddsoddiad yn gychwyn oes newydd i’r clwb hanesyddol hwn ynghanol y dref. Bydd y cyfleuster yn gwasanaethu sbectrwm eang o chwaraeon, yn ganolfan rhagoriaeth, datblygu rygbi yn y gymuned a rhoi mwy o gyfleoedd i grwpiau sy’n cael eu tan-gynrychioli megis menywod a merched ifanc.

“Bydd y nifer o bobl a fydd yn gallu chwarae gêmau ar y cae hwn yn cynyddu’n flynyddol o’r cannoedd i’r miloedd, sy’n golygu cenhedlaeth newydd o bobl yn y gymuned yn dod i fwynhau chwaraeon.

“Mae’r datblygiad wedi derbyn cymorth sylweddol gan bartneriaid allweddol a bu hyn yn glod i gynlluniau Heol Sardis.

“Mae’r datblygiad hwn yn garreg filltir sylweddol yn ein gwaith o gynorthwyo rhwydwaith o gaeau artiffisial ar draws Cymru.”

Bydd y buddsoddiad hwn yn Heol Sardis yn cael ei ddefnyddio yn ystod y dydd gan Goleg y Cymoedd ar gyfer eu hacademi rygbi llwyddiannus ac yna gyda’r nos gan Glwb Rygbi Pontypridd. Bydd y cynnig yn adnodd chwaraeon i’r gymuned ehangach ac ar gael i’w ddefnyddio gan glybiau chwaraeon lleol eraill. Hefyd, datblygir cynghrair chwaraeon lleol ar y maes a fydd yn caniatáu i bawb elwa o’r adnodd modern newydd hwn.

Mae aelodaeth Grŵp Cyfleusterau Chwaraeon Cydweithredol Cymru yn cynnwys cynrychiolwyr o Hoci Cymru, Ymddiriedolaeth Bêl-Droed Cymru, Undeb Rygbi Cymru a Chwaraeon Cymru. Ei nod ydy sicrhau bod datblygiad arwynebau artiffisial, ATP a 4G, yn cwrdd ag anghenion y defnyddwyr a’r gymuned ehangach fel ei gilydd ond hefyd ganiatáu i bob camp dyfu a datblygu led-led Cymru.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau