Busnes o Dde Cymru yn cefnogi peirianwyr y dyfodol

Mae dysgwyr peirianneg fecanyddol Coleg y Cymoedd wedi cael eu cydnabod gan y diwydiant am eu safon uchel o waith. Mae’r dysgwyr llawn amser a phrentisiaid llwyddiannus yn astudio ar ystod o gyrsiau yng nghampws Nantgarw.

Denodd carfan o ddysgwyr peirianneg fecanyddol eleni sylw cynrychiolwyr Buck a Hickman am eu canlyniadau academaidd rhagorol yn ystod eu hastudiaethau yn y coleg ac i lawer, yn eu lleoliadau gwaith hefyd.

Mae’r cwmni sy’n cyflenwi amrywiaeth eang o gynhyrchion a gwasanaethau arbenigol i fusnesau gweithgynhyrchu De Cymru, wedi cynnig cefnogaeth drwy noddi gwobrau eleni.

Yn ystod y gwobrau adrannol, llongyfarchwyd pob dysgwr am eu gwaith caled a’u hymroddiad; gyda’r dysgwyr canlynol yn derbyn talebau Tooling a thystysgrifau i gydnabod eu cyflawniadau rhagorol.

Enwyd Will Davies yn Brentis Mecanyddol y Flwyddyn 2018. Disgrifiwyd Will fel dysgwr rhagorol sy’n gwbl haeddiannol o’r wobr hon. Yn ogystal â chynhyrchu gwaith o’r safon uchaf, mae gan Will bersonoliaeth ddeniadol ac mae’n gweithio’n galed. Fel unigolyn cwrtais a chydwybodol, disgrifiodd staff Will fel ‘pleser i’w addysgu’. Mae wedi cwblhau sawl cyfnod o leoliad gwaith yn ystod y flwyddyn academaidd hon gydag ystod o gyflogwyr, ac mae pob un ohonynt wedi cynnig rhaglen brentisiaeth llawn amser iddo. Bellach mae Will wedi derbyn prentisiaeth gyda Kauten -Textron.

Enwyd Brendon Lee yn Brentis y Flwyddyn 2017 GE Aviation. Cwblhaodd ei waith ymarferol i safon uchel iawn ac yn fuan iawn. Roedd dewis yr enillydd ar gyfer y categori hwn yn dasg arbennig o anodd i’r staff oherwydd y safonau uchel a osodwyd gan y garfan hon o Brentisiaid GE Aviation blwyddyn gyntaf. Cwblhaodd Brendon raglen beirianneg Lefel 2 yn Nantgarw y llynedd cyn dod yn brentis fis Medi diwethaf. Fel unigolyn cwrtais sy’n gweithio’n galed, mae staff yn credu y bydd Brendon yn gaffaeliad i’w gyflogwr.

Mae Connor Paskell wedi gweithio’n galed eleni, gan gynhyrchu gwaith o’r safon uchaf yn gyson. Fel rhywun sydd â dymuniad cryf i lwyddo, cwblhaodd Connor ei asesiadau ymarferol yn gynharach na’r disgwyl. Ar hyn o bryd mae’n mynychu cyfweliadau a gobeithio y bydd yn ennill prentisiaeth yn fuan. Derbyniodd Connor y wobr Prentis y Flwyddyn BTEC (EEP) (grŵp 1) 2018.

Enwyd Manmeet Singh, sy’n astudio ar y BTEC (EEP), yn Brentis y Flwyddyn (grŵp 2) 2018. Disgrifiodd y tîm addysgu Manmeet fel dysgwr llawn cymhelliant ac angerdd dros. Fel unigolyn cydwybodol ag ethig gwaith ardderchog, cwblhaodd Manmeet ei holl asesiadau ymarferol ac erbyn hyn mae’n mynychu lleoliad gwaith gyda’i gyflogwr noddwr (Precision Wales High) un diwrnod bob wythnos. Mae gan Manmeet yr holl rinweddau priodol ar gyfer gyrfa lwyddiannus iawn mewn peirianneg. Mae eisoes yn arwain y ffordd yn ei gwmni drwy ddefnyddio pecynnau CAM a gweithredu’r ganolfan peiriannu CNC newydd.

Enwyd Ioan Middleton yn Brentis y Flwyddyn VRQ (EEP) (grŵp 2) 2018. Mae gan Ioan ymagwedd gadarnhaol a dywedodd ei diwtoriaid ei fod wedi bod yn bleser i’w addysgu. Mae’n chwilfrydig ac yn frwdfrydig ac mae wedi cynhyrchu gwaith o’r safon uchaf trwy gydol y flwyddyn. Mae Ioan yn ddyn ifanc cwrtais, hyfryd iawn sy’n gweithio’n galed. Yn ddiweddar, sicrhaodd leoliad gwaith gyda Pullman Rail y mae’n gobeithio y bydd yn arwain at brentisiaeth ym mis Medi 2018.

Rhoddwyd gwobr olaf y prynhawn i Kian Lloyd Boulton, a dderbyniodd Wobr Dysgwr Mecanyddol Lefel 2 y Flwyddyn. Mae Kian yn astudio ar lefel 2 eleni, gan ddangos ymrwymiad ac ymroddiad i’w astudiaethau o’r diwrnod cyntaf yn y coleg. Mae Kian wedi gwneud cais ar gyfer Rhaglen Peirianneg Uwch 3 (EEP) Lefel 3 ar gyfer y flwyddyn nesaf fel cam nesaf ei yrfa lwyddiannus mewn peirianneg.

Dywedodd Gavin Davies, Pennaeth Cynorthwyol (Gwella Ansawdd) Rwyf wrth fy modd bod y dysgwyr wedi cael eu cydnabod am eu cyflawniadau academaidd; maent i gyd wedi gweithio’n galed trwy gydol eu cwrs. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i’w tiwtoriaid am y gefnogaeth a roddwyd iddynt.

Mae’r coleg yn dymuno pob llwyddiant iddynt yn eu gwaith ac yn eu hastudiaethau yn y dyfodol, rwy’n gobeithio y bydd y ‘profiad dysgu’ a gawsant yng Ngholeg y Cymoedd yn eu rhoi mewn sefyllfa dda ar gyfer y dyfodol. Rydym yn ddiolchgar i Buck & Hickman am noddi; gan wneud y digwyddiad hwn yn bosibl.

Mae Coleg y Cymoedd yn falch o’i gyfleusterau ac wedi buddsoddi’n sylweddol yn ei ddarpariaeth. Mae’r coleg yn ymfalchïo yn ei beiriannau / offer o safon diwydiant ac mae’n darparu hyfforddiant peirianneg o safon uchel.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau