O ganlyniad i Gyhoeddiad Llywodraeth Cymru heddiw pan gyhoeddodd y Gweinidol Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol Mark Drakeford fuddsoddiad o £45m gan yr UE i uwch raddio sgiliau a gwella rhagolygon gyrfaol yn Ne Cymru, mae chwe choleg addysg bellach yn yr ardal nawr yn gallu darparu cyllid o Gronfa Gymdeithasol Ewrop ar gyfer cyflogwyr yn Ne Ddwyrain Cymru a Phowys.
Mae £19m wedi cael ei neilltuo ar gyfer y cynllun Uwchsgilio@Waith, a thros y 3 blynedd nesaf, bydd Coleg Gwent, Coleg y Cymoedd, Coleg Pen-y-bont ar Ogwr, Coleg Merthyr Tudful, Coleg Caerdydd a’r Fro a Choleg Castell-nedd Port Talbot yn gallu cynnig hyfforddiant i gyflogwyr ar gostau gostyngol sylweddol, diolch i arian o Swyddfa Gyllido Ewropeaidd Cymru.
Bydd y Colegau yn cydweithio’n agos gyda chyflogwyr i asesu eu hanghenion hyfforddi a nodi cyrsiau a fyddai’n gweddu orau i gwrdd â’r nodau hyfforddi hyn. Nod y cynllun ydy darparu hyfforddiant ar adeg ac mewn lleoliad sy’n addas ar gyfer y cyflogwr lle bynnag fo’n bosib yn un o’r Colegau perthnasol neu yn y gweithle.
Dywedodd llefarydd ar ran Partneriaeth y Coleg: “Rydyn ni wrth ein bodd gyda’r cyllid ychwanegol ar gyfer y cynllun UwchSgilio@Waith. Rydyn ni’n disgwyl cannoedd o gyflogwyr a’u cyflogai ar draws De Ddwyrain Cymru a Phowys i elwa’n sylweddol o ganlyniad i hyn. Ar gyfer y busnesau hynny sy’n dymuno manteisio ar y cyllid hwn, cysylltwch â’r Tîm Gwerthiant yn eich coleg lleol.â€
“