Bydd dawnswyr yn eu harddegau yn dysgu gan y sêr

Mae tiwtor dawns o Goleg y Cymoedd wedi dawnsio yn yr enwog Pineapple Dance Studio yn Llundain, cartref y sioe deledu boblogaidd gyda Louie Spence, er mwyn gallu dangos symudiadau diweddaraf i’w dosbarth o ddawnswyr uchelgeisiol.

Teithiodd Jaye Lord, sy’n bennaeth ar Adran Celfyddydau Perfformio’r Coleg, i’r stiwdios a sefydlwyd gan y model rhyngwladol Debbie Moore OBE, i ddod â choreograffi a thechnegau newydd a grëwyd gan y gorau yn y diwydiant ar gyfer llwyfannau’r West End yn ôl i’n dysgwyr yng Nghymoedd De Cymru.

Drwy gydol yr wythnos, cymerodd Jaye ran mewn ystod o ddosbarthiadau dawns gyda rhai o brif enwau’r diwydiant, gan gynnwys sesiwn gyda’r coreograffydd dawns Lukas McFarlane, sy’n gyfrifol am goreograffi So You Think You Can Dance a’r X Factor.

Mae’r tiwtor bellach yn gweithio i ymgorffori ei phrofiad yn ei gwersi ei hun er mwyn caniatáu i’w dysgwyr ddatblygu’r technegau dawns modern a jazz a fyddai fel arfer ond yn hygyrch i sêr y llwyfan mawr.

Meddai Jaye: Mae’n bwysig imi fy mod yn datblygu fy nghwrs yn barhaus i gynnig y technegau gorau a diweddaraf i’m dysgwyr i’w helpu i baratoi ar gyfer gyrfa yn y diwydiant. Mae treulio wythnos yn un o sefydliadau gorau Llundain wedi bod yn brofiad anhygoel. “

Yn ogystal â dosbarthiadau dawns proffesiynol yn y stiwdios enwog, ymwelodd Jaye â dwy theatr enwog yn Llundain fel rhan o’r daith addysgol – Theatre Royal, Drury Lane, cartref y clasur o Broadway 42nd Street a’r Adelphi Theatre, sy’n dangos y sioe boblogaidd Kinky Boots ar hyn o bryd.

Cafodd Jaye y cyfle i fynd y tu ôl i’r llenni er mwyn gweld sut mae theatrau blaenllaw’r Brifddinas yn gweithio, a’r cyfle i adrodd yr hanes i’w dysgwyr am yr hyn y mae’n ei gymryd i ddod yn berfformiwr West End.

Parhaodd Jaye: “Roedd fy amser yn Pineapple Studios yn syfrdanol. Mae’n lle arbennig iawn – wedi’r cyfan rydych chi’n ei weld ar y teledu ac mae ganddo enw da yn y byd dawns. Roedd yn anrhydedd cymryd rhan mewn dosbarthiadau gydag enwau mawr y byd dawns a dysgu o’r gorau ac ymweld â’r theatrau, rhoes gwir ddarlun imi o fywyd perfformiwr y West End, a fydd yn fy helpu i deilwra fy nosbarthiadau yn unol â hynny.

“Rwy’n edrych ymlaen at fynd â’r hyn rydw i wedi’i ddysgu yn ôl i’r ystafell ddosbarth a chynnwys technegau newydd yn ein perfformiadau.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau