Cwrdd â’r Mentoriaid

Angharad Evans

Cyfreithwraig yw Angharad sy’n gweithio fel ymgynghorydd gyda chwmni Acuity Law ym Mae Caerdydd.

Darllen Mwy

Cyfreithwraig yw Angharad sy’n gweithio fel ymgynghorydd gyda chwmni Acuity Law ym Mae Caerdydd. Cyn ymuno ag Acuity Law, bu Angharad yn gweithio fel cyfreithiwr yn S4C, y sianel genedlaethol, gan arbenigo mewn materion cyfreithiol sy’n effeithio ar ddiwydiant y cyfryngau a busnes S4C yn gyffredinol. Yn ei gwaith o ddydd i ddydd mae’n rhoi cyngor cyfreithiol a chytundebol i gynhyrchwyr ac arianwyr ffilm a theledu ac yn aml mae’n treulio ei diwrnodau yn rhoi cyngor ac yn trafod cytundebau dros y ffôn, mewn cyfarfodydd neu’n drafftio cytundebau.

Cyn ymuno ag S4C, bu Angharad yn hyfforddi gyda chwmni cyfreithiol yng Nghaerdydd ac yna aeth i weithio i gwmni cyfreithiol yn Llundain yn arbenigo mewn cyllid ffilm, ac un o’r uchafbwyntiau oedd mynd ar deithiau gwaith i Ŵyl Ffilmiau Cannes. Cyn cael y swydd ym maes cyllid ffilm, nid oedd gan Angharad brofiad o gyllid ffilm, ond yn y cyfweliad dangosodd ei bod yn ddysgwr cyflym a bod ganddi brofiad perthnasol arall i’w gynnig i’r swydd newydd.

Er mwyn cael cytundeb hyfforddi i fod yn gyfreithiwr, soniodd Angharad yn y cyfweliad am nifer o swyddi rhan amser roedd wedi ennill profiad ynddynt gan gynnwys gweithio fel gweinyddes, clerc beili, gweithio mewn tafarn, glanhau gwesty, gwaith ffatri a gwaith gwirfoddol, ac roedd y rhain i gyd yn enghreifftiau go iawn o’i gallu i gymryd cyfrifoldeb a dangos menter.

Mae Angharad yn fam i ddau o blant ac yn treulio ei hamser yn cymdeithasu gyda ffrindiau, yn chwerthin ac yn dawnsio (i godi cywilydd ar ei phlant fel arfer). Mae Angharad hefyd yn mwynhau ymweld â gwahanol wledydd a sgwrsio â phobl o bob cefndir.

Mae gan Angharad brofiad o’r canlynol:

  • rheoli staff
  • cynnal cyfweliadau
  • sgiliau ysgrifennu
  • sgiliau negodi
  • sgiliau cyflwyno

Carina Phillips

Dechreuodd bywyd gwaith Carina mewn swyddfa cwmni cyfraith masnach. Wedi hynny, bu’n ymarfer fel cyfreithiwr cyfraith cyflogaeth am rai blynyddoedd.

Darllen Mwy

Dechreuodd bywyd gwaith Carina mewn swyddfa cwmni cyfraith masnach. Ar ôl ymarfer fel cyfreithiwr cyfraith cyflogaeth am rai blynyddoedd, symudodd at faes Cysylltiadau Cyhoeddus a marchnata.
Fel ysgrifennwr copi llawrydd sy’n gweithio gyda phawb, o gyfreithwyr i westywyr i weithgynhyrchwyr, mae Carina yn ystyried ei hun yn lwcus; mae hi’n gwneud yr hyn mae hi’n ei garu. Nawr, bron i ddegawd ar ôl yr aseiniadau cyntaf nerfus a’r gwaith am ddim i dyfu ei phortffolio, mae Carina Phillips Copywriting Ltd yn gwneud yn eithaf da. Ac efallai bydd y cwmni’n cael enw gwell iddo’i hun rhyw ddydd.
Mae Carina’n fam i ddau ac yn wraig i un, ac yn byw yng Nghaerdydd. Treulio amser gyda’i theulu yw ei hoff beth, ond mae hi’n gwneud amser i fynd i’r gampfa, chwarae tenis lled-gystadleuol, gloywi ei Chymraeg, ac ambell wydraid o win wrth ymlacio gyda ffrindiau.


Mae gan Carina brofiad o’r canlynol:
• ysgrifennu
• cysylltiadau cyhoeddus
• marchnata
• cyfraith cyflogaeth ac Adnoddau Dynol
• siarad cyhoeddus
• rhwydweithio

Kath Denton

Awdur ac entrepreneur llawrydd yw Kath. Mae hi wedi gweithio ym maes gwasanaethau ariannol yn bennaf ers dros ugain mlynedd.

Darllen Mwy

Awdur ac entrepreneur llawrydd yw Kath. Mae hi wedi gweithio ym maes gwasanaethau ariannol yn bennaf ers dros ugain mlynedd gan helpu i sefydlu cwmnïau yswiriant fel elephant.co.uk a Gocompare.com. Yn fwy diweddar bu’n rheoli’r prosiect i sefydlu Tee It Up, canolfan efelychu golff dan do a bar.

Mae Kath wrth ei bodd yn ysgrifennu erioed, ac er ei bod fymryn yn hŷn, penderfynodd fynd yn ôl i’r brifysgol yn 2015 i wneud gradd Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol. Mae hi bellach yn awdur llawrydd, yn ysgrifennu cynnwys ar gyfer gwefannau, ac yn y bôn, unrhyw beth arall mae rhywun yn ddigon dewr i’w gynnig iddi.

Mae Kath yn gyd-berchennog ar ddau o blant bach. Mae hi’n rhannu’r cyfrifoldeb hwn gyda’i phartner Ellen. Pan nad yw hi’n gwastraffu amser o flaen sgrin cyfrifiadur, mae Kath yn treulio’i hamser yn un o’r canolfannau chwarae meddal amrywiol o amgylch Caerdydd, yn crio mewn i’w Americano wrth chwilio am esgidiau bach. Mae hi hefyd yn hoffi teithio, gwylio ffilmiau, a gweld ei breuddwydion pêl-droed yn cael eu chwalu bob mis Ionawr wrth i Glwb Pêl-droed Lerpwl ddisgyn yn is yn nhabl y gynghrair.

Mae gan Kath brofiad o’r canlynol:

  • recriwtio
  • technegau cyfweld
  • sut i ysgrifennu CV
  • rheoli prosiectau
  • rheoli staff
  • sefydlu cwmnïau
  • bod yn drwyddedai
  • ysgrifennu creadigol a busnes

Sian Davies

Barnwr yw Sian sy’n arbenigo mewn anghydfodau yn y gweithle; mae’r achosion mae’n delio â nhw yn cynnwys hawliadau diswyddo annheg a gwahaniaethu.

Darllen Mwy

Barnwr yw Sian sy’n arbenigo mewn anghydfodau yn y gweithle; mae’r achosion mae’n delio â nhw yn cynnwys hawliadau diswyddo annheg a gwahaniaethu. Yn ogystal â phenderfynu ar achosion, mae Sian hefyd yn hyfforddi barnwyr eraill; mae ei diddordeb arbennig mewn ‘crefft barn’ (sgiliau cyfathrebu ac agweddau ar fod yn farnwr nad ydynt yn gyfreithiol).

Mae gan Sian brofiad o’r canlynol:

• sgiliau cyflwyno a chyfathrebu
• hyfforddi a hwyluso
• mentora a datblygu cydweithwyr
• rheoli prosiectau
• rheoli staff
• sgiliau ysgrifennu

Claire Sharp

Cafodd Claire ei magu yng Nghymru ac mae’n dod o deulu dosbarth gweithiol digon cyffredin. Hi oedd yr aelod cyntaf o’i theulu i fynd i’r brifysgol ac nid oedd ganddi unrhyw gysylltiadau â’r gyfraith.

Darllen Mwy

Cafodd Claire ei magu yng Nghymru ac mae’n dod o deulu dosbarth gweithiol digon cyffredin. Hi oedd yr aelod cyntaf o’i theulu i fynd i’r brifysgol ac nid oedd ganddi unrhyw gysylltiadau â’r gyfraith. Fodd bynnag, gwnaeth y ffaith ei bod yn berson dadleuol ac ystyfnig arwain at yrfa ym myd y gyfraith. Dechreuodd ei gyrfa yn siwio meddygon am esgeulustod clinigol, yna am flynyddoedd lawer bu’n gyfreithiwr ansolfedd yn mynnu bod pobl yn rhoi eu harian yn ôl i bobl eraill neu’n perswadio pobl i adael i’w chleient gadw’r arian.

Enillodd Claire hawliau llawn i siarad yn y llys heb ddod yn fargyfreithiwr, yn dîm a chanddi enw da fel arbenigwraig yn ei maes; dysgodd hi hefyd sut i ddelio â phobl ddig iawn heb gael eu dyrnu yn ei hwyneb. Mae Claire yn gweithio mewn meysydd sydd wedi’u dominyddu gan ddynion erioed, ac roedd hynny’n aml yn gofyn iddi esgus bod ganddi ddiddordeb mewn chwaraeon. Mae Claire bellach yn farnwr ac yn Llywydd Panel Dyfarnu Cymru.
Mae diddordebau Claire yn cynnwys bod yn yrrwr tacsi i’w theulu, rhoi cynnig ar bethau newydd, a chanu allan o diwn.


Mae gan Claire brofiad o’r canlynol:

• siarad
• pennu a chyflawni nodau
• rheoli
• ceisiadau swydd a chyfweliadau
• ysgrifennu
• hyfforddi ac addysgu
• rhedeg/ehangu busnes
• rhwydweithio
• gwneud penderfyniadau

Mechelle Colard

Mae Mechelle yn gweithio gyda phlant sydd angen triniaeth ddeintyddol arbenigol.

Darllen Mwy

Mae Mechelle yn gweithio gyda phlant sydd angen triniaeth ddeintyddol arbenigol. Gallen nhw fod yn blant â chyflyrau meddygol eraill a phlant a aned â gwefus a/neu daflod hollt. Mae plant hefyd yn cael eu cyfeirio at ymgynghorydd os ydynt wedi cael trawma deintyddol, yn bryderus iawn neu os oes ganddynt broblemau eraill e.e. dannedd coll/ychwanegol.

Mae Mechelle hefyd yn hyfforddi deintyddion iau ac yn arholwr ar gyfer eu harholiadau proffesiynol.

Mae gan Mechelle dri bachgen bywiog a chi ac mae wedi dysgu llawer am bêl-droed! Does dim yn well ganddi na gorwedd ar draeth yn darllen llyfr da.

Mae gan Mechelle brofiad o’r canlynol:

  • cyflwyniadau a sgiliau cyflwyno
  • sut i ysgrifennu CV
  • hyfforddi pobl eraill
  • sgiliau cyfathrebu

Siwan Phillips

Mae Siwan yn Bennaeth Cynhyrchu gyda Boom Cymru ac mae’n gyfrifol am oruchwylio pob agwedd ar reoli cynhyrchu.

Darllen Mwy

Fel Pennaeth Cynhyrchu gyda Boom Cymru mae Siwan yn gyfrifol am oruchwylio pob agwedd ar reoli cynhyrchu yn ogystal â chwarae rhan fawr wrth redeg y cwmni o ddydd i ddydd. Mae’n goruchwylio pob elfen o gynhyrchu ar draws Boom, ac mae’n ymwneud yn helaeth â materion staffio, cyllid, criwio, hyfforddi ac ôl-gynhyrchu.

Ar hyn o bryd mae Siwan yn gyfrifol am dros 100 o staff ac allbwn o dros 400 awr o raglenni’r flwyddyn. Mae hi a’i thîm yn rheoli’r broses gynhyrchu o gyllidebu hyd at gyflwyno, gan gwmpasu amrywiaeth eang o gynnwys fel adloniant, ffordd o fyw, rig sefydlog, plant, drama a digidol.

Mae ganddi brofiad helaeth o gyflwyno rhaglenni i amrywiaeth o ddarlledwyr – S4C, BBC, ITV, Channel 4, Channel 5 ac UKTV – ac mae ganddi ddiddordeb mawr mewn cyllidebau heriol, symleiddio systemau, rhaglenni byw, rhaglenni stiwdio ac ôl-gynhyrchu.

Cyn ymuno â Boom Cymru, bu Siwan yn gweithio i’r BBC fel rheolwr cynhyrchu am ddeng mlynedd.

Mae Siwan hefyd yn eistedd ar amrywiol fyrddau yn y diwydiant, yn cynnwys Panel Cynghori Hyfforddiant TAC, Gweithgor Teledu Heb ei Sgriptio Sgrîn Cymru a Phanel Ymgynghorol Sgiliau Creadigol Cymru Greadigol.

Nicola Mcneely

Cyfreithiwr cyfraith masnach yw Nicola sy’n arbenigo mewn gweithio gyda chwmnïau Technoleg.

Darllen Mwy

Cyfreithiwr cyfraith masnach yw Nicola sy’n arbenigo mewn gweithio gyda chwmnïau Technoleg. Mae hi’n cynghori busnesau o fusnesau newydd sbon i gwmnïau mawr iawn ar gontractau, strategaethau, ariannu ac amddiffyn. Mae hi’n cynnig llawer o hyfforddiant i gleientiaid mewn materion cyfreithiol ym maes Technoleg, er enghraifft blockchain. Mae ganddi arbenigedd deuol mewn cyfraith Eiddo Deallusol. Meddyliwch am fusnesau sydd â brandiau mawr fel Google/Apple/Coca Cola ac ati. Mae angen iddyn nhw ddiogelu eu henwau busnes/logos i atal pobl eraill rhag eu copïo.

Roedd tad Nicola yn yr Awyrlu Brenhinol am 22 mlynedd. Pan oedd hi’n ifanc, byddai hi a’i theulu yn teithio ledled Prydain gan symud bob rhyw dair blynedd rhwng canolfannau’r Awyrlu Brenhinol. Mae hi’n deall sut brofiad yw tyfu i fyny gyda bywyd cartref crwydrol sy’n newid yn barhaus. Mae hi’n un o saith o blant (hi yw rhif 4 o 7!) ac mae ganddi deulu estynedig enfawr sy’n byw ar draws y byd. Cafodd ei rhieni ysgariad pan oedd hi’n saith oed ac roedd hi a’i brodyr a’i chwiorydd yn rhannu eu hamser rhwng cartrefi eu dau riant. Mae llawer o arferion bywyd milwrol wedi dylanwadu’n fawr arni ac mae’n neidio o’r gwely BOB BORE o fewn tair eiliad pan fydd y cloc larwm yn canu!

Hyfforddodd Nicola yng Nghaerdydd ac mae wedi gweithio fel cyfreithiwr ers 21 mlynedd. Treuliodd bum mlynedd yn gweithio’n fewnol yn y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant yn eu hadran gyfreithiol a’r Is-adran Busnes Newydd. Mae Nicola wedi profi llwyddiannau a methiannau yn ei hastudiaethau a’i gyrfa ac fe’i clywir yn aml yn dweud ‘mae’r cyfan yn brofiad dysgu ac weithiau rydych yn ymdrechu i wella os byddwch yn baglu ar hyd y ffordd’. Mae hi wedi recriwtio a gweithio gyda llawer o gyfreithwyr ac wedi mentora cyfreithwyr dan hyfforddiant a pharagyfreithwyr tu mewn a thu allan i’r gweithle.

Mae Nicola yn briod â Craig ac mae ganddi fab pedair oed sydd ag obsesiwn ag arch-arwyr Marvel, Lion King Disney ac ymweld â’r sŵ/fferm. Yn ystod y rhan fwyaf o benwythnosau fe ddewch chi o hyd iddi yn gynnar yn y bore yn cerdded o amgylch Castell Caerffili yn bwydo’r hwyaid, yn brwydro’r glaw oer neu’n torheulo yn heulwen hyfryd Folly Farm yn Sir Benfro.

Mae gan Nicola brofiad o’r canlynol:

  • sgiliau cyflwyno a chyfathrebu
  • ceisiadau swydd a CVs
  • rheoli prosiectau
  • meithrin perthnasoedd newydd/sgiliau gwerthu/ennill busnes newydd
  • sgiliau ysgrifennu

Sioned Eurig

Sioned yw pennaeth tîm Cyflogaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg.

Darllen Mwy

Sioned yw pennaeth tîm Cyflogaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg. Mae Sioned wedi bod yn gweithio fel cyfreithiwr cyflogaeth arbenigol yn y GIG ers mis Awst 2012. Mae hi’n cynghori cleientiaid adnoddau dynol ar bob agwedd ar gyfraith cyflogaeth cynhennus a digynnen. Mae gan Sioned ddiddordeb arbennig mewn materion diswyddo annheg a chwythu’r chwiban ac mae’n mwynhau rhoi cyngor i bobl am y materion hyn. Astudiodd Sioned ym Mhrifysgol Aberystwyth a symudodd i Gaerdydd i ddilyn Cwrs Ymarfer y Gyfraith. Tra roedd hi’n dilyn y cwrs yng Nghaerdydd, sylweddolodd Sioned cymaint roedd hi’n mwynhau cyfraith cyflogaeth a datblygodd y diddordeb hwn wrth iddi hyfforddi i ddod yn gyfreithiwr.

Mae Sioned yn briod ac yn fam i ddwy sy’n ei chadw hi’n brysur iawn. Mae hi’n dal i geisio dod o hyd i’r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ac yn mwynhau’r broses honno ar hyn o bryd. Mae hi’n mwynhau mynd ar wyliau gyda’i theulu a ffrindiau.

Mae gan Sioned brofiad o’r canlynol:

  • sgiliau cyflwyno a chyfathrebu
  • hyfforddi a hwyluso
  • mentora, goruchwylio a datblygu cydweithwyr
  • sgiliau ysgrifennu
  • rhwydweithio
  • blaenoriaethu gwaith

Kathryn Walters

Seicolegydd clinigol gyda’r GIG yng Ngwent yw Kathryn lle mae’n gyd-bennaeth gwasanaeth o seicolegwyr, cwnselwyr a therapyddion celf sy’n gweithio i wella iechyd meddwl a chorfforol i bobl o bob oed.

Darllen Mwy

Seicolegydd clinigol gyda’r GIG yng Ngwent yw Kathryn lle mae’n gyd-bennaeth gwasanaeth o seicolegwyr, cwnselwyr a therapyddion celf sy’n gweithio i wella iechyd meddwl a chorfforol i bobl o bob oed.

Yn wreiddiol, roedd Kathryn am astudio’r Gyfraith, yna Meddygaeth, yna Biocemeg. Tra ar ymweliad â Phrifysgol Birmingham yn y chweched dosbarth, sylweddolodd nad Biocemeg oedd y pwnc iddi hi. Gydag ond awr ar ôl ar y campws cyn roedd ei hysgol i fod i adael, fe grwydrodd Kathryn i mewn i’r adran Seicoleg a chafodd ei chyfareddu gan y pwnc, gan benderfynu yn y fan a’r lle mai dyna oedd hi am ei astudio yn y brifysgol. Dros 31 mlynedd yn ddiweddarach, mae Kathryn yn dal i gael ei rhyfeddu gan y pwnc ac yn teimlo’n freintiedig i weithio mewn swydd sy’n dod â hi i gysylltiad uniongyrchol â chymaint o bobl sy’n ceisio gwneud newidiadau yn eu bywydau.

Mae Kathryn yn byw yng Nghaerdydd gyda’i gŵr a rhwng un a thri o’i thri o blant, yn dibynnu beth sy’n digwydd yn eu bywydau (mae dau ohonynt yn oedolion). Roedd hi’n arfer rhedeg ond mae hi bellach yn gwneud ymarfer corff cylchol, beicio a chodi pwysau.

Mae gan Kathryn brofiad o’r canlynol:

  • sgiliau cyflwyno a chyfathrebu
  • rheoli staff
  • sgiliau ysgrifennu
  • cyfweld
  • hyfforddi ac addysgu

Roxanna Dehaghani

Mae Roxanna yn Uwch Ddarlithydd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn Arholwr Allanol yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Efrog.

Darllen Mwy

Mae Roxanna yn Uwch Ddarlithydd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd, yn Arholwr Allanol yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Efrog, ac yn Llywodraethwr yng Ngholeg y Cymoedd, ymhlith rolau eraill. Mae hi’n dysgu Cyfraith Droseddol ac wedi dysgu Cyfiawnder Troseddol, Sgiliau Cyfreithiol a Chyfraith Teulu yn y gorffennol. Mae hi’n mwynhau ysgrifennu ac mae wedi cyhoeddi dau lyfr a sawl erthygl. Mae hi hefyd wrth ei bodd yn gweithio gydag eraill, ar draws pynciau a sectorau.

Astudiodd Roxanna yng Ngogledd Iwerddon (llai na 50 milltir o’i chartref), yn yr Iseldiroedd (dros 800 milltir o’i chartref) ac yng Nghaerlŷr (rhywle yn y canol), cyn iddi ymgartrefu yng Nghaerdydd. Mae hi wedi gweithio mewn amrywiaeth o swyddi – manwerthu, lletygarwch, cyllid, tai, a’r sector cynghori, cyn cyrraedd maes addysg uwch ac ymchwil.

Mae hi’n angerddol am wella’r system cyfiawnder troseddol ar gyfer pobl sy’n agored i niwed, gan ysbrydoli dysgwyr i feddwl yn feirniadol am y gyfraith a’i rôl mewn cymdeithas, ac ehangu cyfranogiad mewn addysg uwch.

Yn ei hamser hamdden, mae’n mwynhau cerdded yng nghefn gwlad ac ar hyd yr arfordir; meddwlgarwch, minimaliaeth ac ioga; a dysgu sgiliau ac ieithoedd newydd (mae hi’n siarad Iseldireg yn rhugl; Ffrangeg a Sbaeneg yn wael, ac mae’n dysgu Cymraeg). Mae hi’n araf ddysgu mwynhau gwylio pêl-droed – nid yw ei phartner, Matt, yn rhoi llawer o ddewis iddi!

Mae hi’n brofiadol yn y canlynol:

  • siarad yn gyhoeddus, gwneud cyflwyniadau a chyfathrebu
  • ysgrifennu academaidd
  • pennu a chyflawni nodau
  • ceisiadau swydd a phrifysgol, CVs, a chyfweliadau
  • hyfforddi ac addysgu
  • rhwydweithio
  • mentora a datblygu eraill

Fiona Rawlinson

Ymgynghorydd mewn meddygaeth liniarol yw Fiona, sy’n gweithio gyda Hosbis y Ddinas yng Nghaerdydd. Mae hi hefyd yn Gyfarwyddwr Rhaglen ym Mhrifysgol Caerdydd.

Darllen Mwy

Ymgynghorydd mewn meddygaeth liniarol yw Fiona, sy’n gweithio gyda Hosbis y Ddinas yng Nghaerdydd. Mae hi hefyd yn Gyfarwyddwr Rhaglen ym Mhrifysgol Caerdydd.

Nid oedd Fiona yn gallu penderfynu rhwng Cerddoriaeth a Meddygaeth yn yr ysgol uwchradd. Yn y pen draw, hyfforddodd fel meddyg yn Lloegr a dechreuodd weithio fel meddyg teulu cyn symud i faes arbenigedd Meddygaeth Liniarol. Bu’n Ymgynghorydd yn Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr tan 2015 pan symudodd yn ôl i Gaerdydd i gymryd swydd fel Arweinydd Pwnc ar gyfer meddygaeth liniarol ar gyrsiau ôl-raddedig aml-broffesiynol rhyngwladol Prifysgol Caerdydd. Mae hi wedi sefydlu rhaglenni addysg gofal lliniarol ar gyfer De Affrica, India ac yn fwy diweddar Dwyrain Ewrop yn ogystal â pharatoi rhaglenni addysg ar-lein. Mae hwn yn swnio fel llwybr gyrfa sydd wedi’i ystyried yn ofalus – ond mae dryswch bywyd go iawn wedi golygu ei fod wedi datblygu’n aml o ganlyniad i sgwrs neu gyfarfod ar hap sydd wedi arwain at wahanol gyfleoedd. Y tu allan i’r gwaith, mae Fiona bob amser yn mwynhau profiadau creadigol ac yn chwarae piano, fiola, gitâr a ffidil yn ogystal ag ysgrifennu a phaentio. Sefydlodd glwb ar ôl ysgol pan oedd ei phlant yn yr ysgol gynradd, bu’n llywodraethwr ysgol a bu’n rhedeg eglwys i blant am nifer o flynyddoedd.

Mae gan Fiona brofiad o’r canlynol:

  • sgiliau cyflwyno a chyfathrebu
  • hyfforddi ac addysgu
  • mentora a datblygu
  • cefnogi llai na gweithio llawn amser
  • rheoli prosiectau
  • sgiliau ysgrifennu
  • gwaith tîm
  • arweinyddiaeth
  • gwytnwch

Claire Blake

Yn farchnatwr creadigol ac awdur cynigion gyda dros ugain mlynedd o brofiad o weithio mewn amrywiaeth o sectorau, mae Claire bellach wedi cyrraedd y byd cyfreithiol.

Darllen Mwy

Hi yw Rheolwr Cynigion a Thendrau yn Capital Law.

Yn farchnatwr creadigol ac awdur cynigion gyda dros ugain mlynedd o brofiad o weithio mewn amrywiaeth o sectorau, mae Claire bellach wedi cyrraedd y byd cyfreithiol.

Fel yr aelod cyntaf o’i theulu i fynd i’r brifysgol, dewisodd Claire astudio gradd mewn Gwyddor Rheolaeth Americanaidd ym Mhrifysgol Abertawe, yn bennaf, mae’n cyfaddef, er mwyn iddi allu mwynhau blwyddyn ym Mhrifysgol Toronto.

Ar ôl ennill ei gradd, mwynheuodd Claire weithio ar brosiectau adeiladu mawr yng Nghymru am ychydig flynyddoedd, gan gynnwys stadiwm Principality, cyn dilyn cymhwyster ôl-raddedig a gyrfa mewn marchnata. Mae ei gyrfa farchnata amrywiol mewn gweithgynhyrchu, awyrofod ac adeiladu wedi arwain yn y pen draw at arbenigo mewn ennill gwaith drwy lunio cynigion a thendrau cymhleth o rhwng £1,000 i dros £100 miliwn. Ers chwe blynedd diwethaf mae Claire yn gweithio yn y sector cyfreithiol, lle mae’n gweithio ar draws timau corfforaethol a masnachol, eiddo ac adeiladu, cyflogaeth, a datrys anghydfodau i ennill contractau gyda sefydliadau blaenllaw ledled Prydain ac yn rhyngwladol.

A hithau’n gorfod delio â gorfoledd ac (yn bennaf) tor-calon wrth fyw gyda chefnogwyr Clwb Pêl-droed Caerdydd, pan nad yw Claire yn gweithio, mae hi’n fam pêl-droed nodweddiadol, yn cludo ei merch sydd yn ei harddegau a’i mab sy’n mwynhau chwaraeon o un gweithgaredd i’r llall. Yn lwcus iddi hi (a phawb arall yn y tŷ, yn ôl Claire) mae ei gŵr yn gofalu am y coginio.

Mae gan Claire brofiad o’r canlynol:

  • ysgrifennu cynigion
  • ysgrifennu CV
  • rheoli prosiectau
  • ceisiadau am swyddi
  • sgiliau cyfweliad
  • sgiliau cyflwyno
  • ysgrifennu adroddiadau
  • rhwydweithio

Holly Stedman

Ers mis Medi 2018, mae Holly wedi bod yn Ddarlithydd Ymarfer y Gyfraith ym Mhrifysgol De Cymru ac yn parhau i ymarfer fel cyfreithiwr yng Nghlinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol De Cymru.

Darllen Mwy

Swydd gyntaf Holly ar ôl y brifysgol oedd fel ymchwilydd yn S4C. Yna bu’n gweithio mewn cwmni cyfreithiol masnachol yng Nghaerdydd (Blake Morgan LLP) a chymhwysodd fel cyfreithiwr yn arbenigo mewn Tai Cymdeithasol ac Ymgyfreitha Eiddo.

Ar ôl 13 mlynedd yn Blake Morgan LLP, penderfynodd Holly symud i fyd addysg. Ers mis Medi 2018, mae Holly wedi bod yn Ddarlithydd mewn Ymarfer Cyfreithiol ym Mhrifysgol De Cymru ac yn parhau i ymarfer fel cyfreithiwr yng Nghlinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol De Cymru.

Y tu allan i’w swydd bob dydd, mae Holly yn Gadeirydd Cymdeithas Dai leol.

Mae gan Holly brofiad mewn:

Ceisiadau am swyddi a chyfweliadau

  • sgiliau ysgrifennu
  • sgiliau trafod
  • sgiliau cyflwyno
  • Sut i ysgrifennu CVs
  • Cynllunio a gosod nodau
  • Hunan hyder
  • Sgiliau ymgyfreitha ac eiriolaeth

Dr Rachel Abbott

Mae Rachel yn ddermatolegydd yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd. Ei meysydd arbenigol yw canser y croen a llawdriniaeth canser y croen.

Darllen Mwy

Mae Rachel yn ddermatolegydd yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd. Ei meysydd arbenigol yw canser y croen a llawdriniaeth canser y croen. Ymhlith ei diddordebau proffesiynol eraill mae ymchwil clinigol a gofal iechyd amgylcheddol cynaliadwy.

Mae Rachel wedi astudio yn Llundain, Caeredin, Chicago a San Jose yn Costa Rica. Mae hi wedi gweithio yn y DU ac Awstralia a symudodd i Gaerdydd yn 2010.

Mae gan Rachel brofiad mewn:

  • sgiliau cyflwyno a chyfathrebu
  • hyfforddiant a hwyluso
  • mentora a datblygu cydweithwyr
  • rheoli prosiect
  • rheoli staff
  • sgiliau ysgrifennu

Julie Prior

Mae Julie yn gweithio ym myd addysg oedolion ers dros 30 mlynedd ac mae’n angerddol am helpu a chefnogi myfyrwyr i wireddu a chyflawni eu llawn botensial.

Darllen Mwy

Mae Julie yn gweithio ym myd addysg oedolion ers dros 30 mlynedd ac mae’n angerddol am helpu a chefnogi myfyrwyr i wireddu a chyflawni eu llawn botensial. Ar hyn o bryd hi yw Dirprwy Bennaeth Ysgol Busnes De Cymru ym Mhrifysgol De Cymru.

Mae gan Julie brofiad o’r canlynol:

  • datblygiad personol a phroffesiynol (meithrin hyder a helpu pobl i wireddu eu potensial)
  • sgiliau ysgrifennu busnes
  • sgiliau cyflwyno
  • sgiliau TG swyddfa (taenlenni, prosesu geiriau, PowerPoint, rheoli ffeiliau, ac ati)
  • ceisiadau am swyddi (ffurflenni cais, CV, llythyrau eglurhaol, cyfweliadau)
  • addysgu a hyfforddi
  • datblygu a mentora

Samantha Moore

Barnwr yw Samantha sy’n delio ag anghydfodau cyfraith cyflogaeth.

Darllen Mwy

Jo Lilford

Strategydd brand ac awdur yw Jo. Mae hi’n gweithio’n fyd-eang gyda sefydliadau o bob lliw a llun, gan eu helpu i sefyll allan drwy eu cyfathrebiadau.

Darllen Mwy

Strategydd brand ac awdur yw Jo. Mae hi’n gweithio’n fyd-eang gyda sefydliadau o bob lliw a llun, gan eu helpu i sefyll allan drwy eu cyfathrebiadau. Ei phrif ffocws yw helpu busnesau i ddod â’u diwylliant a’u personoliaeth yn fyw drwy roi’r gorau i ddefnyddio ieithwedd ddiflas.

Mae ei chleientiaid yn cynnwys llywodraethau’r byd, elusennau a busnesau o bob maint. Yn ddiweddar mae hi wedi datblygu brandiau ar gyfer casino crypto cynta’r byd, cynhyrchydd bwyd fegan, cwmni deallusrwydd artiffisial, Amgueddfa Cymru a National Theatre Wales. Mae ei gwaith yn golygu ei bod yn cael dysgu am bob math o ddiwydiannau a sefydliadau, mae’n yrfa wych i berson busneslyd.

Mae hi hefyd yn ddarlithydd gwadd mewn brand yn Ysgol Busnes Caerdydd a Phrifysgol Boston yn UDA.

Cafodd ei magu mewn cymuned fechan yn y gorllewin ond mae hi wedi byw a gweithio yn Ffrainc, yr Eidal, y Swistir, Awstralia ac UDA cyn dychwelyd adre i Gymru, felly mae hi’n siarad ychydig o ieithoedd heblaw Saesneg.

Y tu allan i’r gwaith, mae hi’n fam i ddau ifanc yn eu harddegau ac i filgi bach sy’n gallu rhedeg yn llawer cyflymach na hi. Yn ei hamser hamdden, mae’n ysgrifennu cyfres deledu wedi’i gosod mewn ysgol gyfun Gymraeg. Mae hi’n credu’n gryf mewn cymryd ei gwaith o ddifrif, ond nid ei hun o ddifrif.

Mae gan Jo brofiad o’r canlynol:

  • marchnata a chysylltiadau cyhoeddus
  • diwydiannau creadigol
  • rhedeg cwmnïau
  • cyfathrebu
  • gwerthu
  • sgiliau cyflwyno a siarad cyhoeddus
  • cyfweliadau
  • rheoli pobl

Hannah Menard

Mae Hannah yn gyfreithiwr sy’n arbenigo mewn Cyfraith Teulu ac yn rhedeg y Clinig Cyngor Cyfreithiol ym Mhrifysgol De Cymru.

Darllen Mwy

Mae Hannah yn gyfreithiwr sy’n arbenigo mewn Cyfraith Teulu ac yn rhedeg y Clinig Cyngor Cyfreithiol ym Mhrifysgol De Cymru.

Cafodd Hannah ei magu yng Nghaerdydd lle mynychodd ysgol gyfun Gymraeg. A hithau’n ansicr i ddechrau beth i’w astudio yn y brifysgol, ar ôl cymryd blwyddyn i ffwrdd i weithio a theithio, penderfynodd Hannah astudio’r gyfraith ym Mhrifysgol Southampton. Yna dychwelodd Hannah i Gaerdydd i hyfforddi fel cyfreithiwr, lle cymhwysodd gyda chwmni Cyfreithwyr Morgans yn 2007 gan arbenigo mewn Cyfraith Teulu (gan ganolbwyntio ar ysgariad, cyllid, anghydfodau yn ymwneud â phlant a cham-drin domestig).

Yn 2016, symudodd Hannah i fyd addysg a dechreuodd ddarlithio mewn ymarfer y gyfraith ym Mhrifysgol De Cymru. Yn 2018, penodwyd Hannah yn Gyfarwyddwr y Clinig Cyngor Cyfreithiol, clinig pro bono o dan arweiniad myfyrwyr sy’n cynnig cyngor cyfreithiol i aelodau’r cyhoedd, myfyrwyr a staff.

Yn ogystal â’i swydd yn y Brifysgol, mae Hannah yn Ymgynghorydd profiadol yn gweithio gyda chwmni cpm21, darparwr blaenllaw cyngor rheoli a hyfforddiant i’r proffesiwn cyfreithiol. Mae Hannah hefyd yn ymddiriedolwr y Sefydliad Addysg Cyfreithiol Clinigol (CLEO) ac yn 2022 daeth yn Drysorydd ac yn aelod o Bwyllgor Gweithredol Cymru’r Gyfraith.

Yn ei hamser hamdden, mae Hannah yn mwynhau treulio amser gyda’i theulu (sy’n cynnwys dau o blant a chi!), chwarae tenis, gwylio rygbi a theithio.

Mae gan Hannah brofiad o’r canlynol:

  • sgiliau cyflwyno
  • sgiliau cyfathrebu
  • addysgu a hyfforddi
  • rheoli amser
  • ceisiadau swyddi a pharatoi CV
  • drafftio, ysgrifennu a sgiliau cyfweld

Auriol Miller

Mae Auriol yn rhedeg y Sefydliad Materion Cymreig, melin drafod ac elusen wleidyddol annibynnol, ers 2016.

Darllen Mwy

Mae Auriol yn rhedeg y Sefydliad Materion Cymreig (IWA) (www.iwa.wales), melin drafod ac elusen wleidyddol annibynnol, ers 2016. Mae’r IWA yn cynnig llwyfan ar gyfer sylwadau a thrafodaeth drwy ei gylchgrawn a blog uchel ei barch ‘the Welsh agenda’, yn darparu hyfforddiant ar sut mae datganoli’n gweithio a sut i ddylanwadu ar ddatblygiad polisi, ac yn cynnal ei waith ymchwil a pholisi ei hun gyda’r nod o wella economi a democratiaeth Cymru, gan ddod â phobl ynghyd o wahanol feysydd polisi a sefydliadau.

Mae Auriol wedi mentora ar y cynllun Pŵer Cyfartal, Llais Cyfartal (a’r cynllun a’i rhagflaenodd) ers 2018 ac mae’n siaradwr rheolaidd mewn digwyddiadau, cynadleddau ac yn y cyfryngau. Cyn gweithio i’r IWA, roedd Auriol yn rhedeg Cymorth Cymru, y corff cynrychioliadol ar gyfer sefydliadau sy’n darparu cymorth cysylltiedig â thai a byw â chymorth yng Nghymru.

Cyn dychwelyd i weithio yng Nghymru yn 2012, cafodd Auriol ugain mlynedd o yrfa yn gwneud gwaith dyngarol a datblygu rhyngwladol a bu’n rhedeg sefydliadau anllywodraethol yn Rwsia, Swdan, Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo a Burundi. Mae Auriol yn siarad Ffrangeg ac Eidaleg ac yn dysgu Cymraeg. Astudiodd ieithoedd yng Ngholeg Somerville, Rhydychen a gwnaeth Radd Meistr mewn Datblygiad yn SOAS yn Llundain. Tu allan i’r gwaith mae hi’n mwynhau rhedeg, gwneud pethau teuluol a bod yn yr awyr agored.

Yn ogystal â’r holl sgiliau sydd eu hangen i redeg sefydliadau mawr a bach (cyllid, adnoddau dynol, gweithio gyda bwrdd ymddiriedolwyr ac ati), mae gan Auriol brofiad o’r canlynol:

  • sut i ysgrifennu CVs gwych a llythyrau eglurhaol
  • ceisiadau swydd a pharatoi ar gyfer cyfweliadau
  • sgiliau cyflwyno a siarad cyhoeddus
  • cynllunio a phennu nodau
  • rheoli prosiectau

Daniela Vaccari Mahapatra

Mae Daniela yn Gyfreithiwr Cyflogaeth yn ogystal â Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg PCGC, sef gwasanaeth cyfreithiol mewnol GIG Cymru.

Darllen Mwy

Mae Daniela yn Gyfreithiwr Cyflogaeth yn ogystal â Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg PCGC, sef gwasanaeth cyfreithiol mewnol GIG Cymru.

Daw Daniela o Gastell Nedd ac astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe cyn symud i Gaerdydd i astudio yn Ysgol y Gyfraith. Mae Daniela wedi gweithio yn y sector preifat yn ogystal â’r sector cyhoeddus.

Bu Daniela’n addysgu’r modiwl Cyfraith Cyflogaeth ar y cwrs Rheoli Adnoddau Dynol ym Mhrifysgol De Cymru. Mae hi hefyd yn mentora fel rhan o gynllun Mentor Mums, gan gynnig cymorth i’r rhai sy’n dychwelyd i’r gwaith ar ôl cyfnod mamolaeth.

Mae gan Daniela ddau o blant yn yr ysgol uwchradd a dau gi. Mae Daniela yn mwynhau canu gyda band, bwyd da a mynd ar wyliau.

Mae gan Daniela brofiad o’r canlynol:

  • sgiliau cyfweliad
  • sgiliau cyflwyno a chyfathrebu
  • llwybrau i yrfaoedd yn y gyfraith
  • mentora, goruchwylio a datblygu cydweithwyr
  • sgiliau ysgrifennu
  • rhwydweithio
  • manteisio i’r eithaf ar y cyfryngau cymdeithasol – adeiladu presenoldeb ar-lein
  • effaith gadarnhaol gwirfoddoli

Sara Hughes

Mae Sara’n gweithio fel deintydd arbenigol sy’n darparu gofal deintyddol i blant a phobl ifanc.

Darllen Mwy

Mae Sara’n gweithio fel deintydd arbenigol sy’n darparu gofal deintyddol i blant a phobl ifanc. Mae’r swydd hon yn ei galluogi i helpu pobl sydd ag anghenion meddygol, deintyddol a chymdeithasol ychwanegol ac mae’n swydd sy’n rhoi boddhad mawr iddi.

Mae Sara’n chwarae rhan weithredol yn addysgu deintyddion ac mae hi’n ymwneud ag arholi myfyrwyr deintyddol. Mae Sara’n gadeirydd pwyllgor elusen Deintyddiaeth Pediatrig lleol ac mae’n mwynhau sut mae’r rôl hon yn ei galluogi i gael effaith gadarnhaol ar y proffesiwn.

Mae Sara’n mwynhau bod yn yr awyr agored ac yn ddiweddar mae hi wedi dechrau padlfyrddio a chysgu o dan y sêr!

Mae gan Sara brofiad o’r canlynol:

  • sgiliau cyfathrebu 
  • sgiliau cyflwyno 
  • ysgrifennu CV 
  • cyfweliadau 
  • addysg a hyfforddiant 

Sheelagh Rogers

Orthodontydd Ymgynghorol yw Sheelagh sy’n gweithio yn Ysbyty Deintyddol y Brifysgol, Caerdydd.

Darllen Mwy

Orthodontydd Ymgynghorol yw Sheelagh sy’n gweithio yn Ysbyty Deintyddol y Brifysgol, Caerdydd.

Daw Sheelagh yn wreiddiol o Belfast, Gogledd Iwerddon ond daeth i Gymru i weithio ar ôl cymhwyso fel deintydd o Brifysgol Queens.

Parhaodd â’i hyfforddiant yng Nghaerdydd i arbenigo fel Orthodontydd.

Ar hyn o bryd hi yw Cyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddiant ar gyfer Orthodonteg yng Nghymru ac mae’n mwynhau hyfforddi deintyddion iau yn yr arbenigedd hwn.

Hi hefyd yw Arweinydd Clinigol yr Adran Orthodonteg sy’n cynnwys sgiliau rheoli, gwneud penderfyniadau ac arwain.

Mae’n Uwch Ddarlithydd Er Anrhydedd ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae’n cyfrannu at addysgu clinigol ac academaidd ar gyfer y Brifysgol.

Mae gan Sheelagh dri bachgen prysur iawn ac mae wedi dysgu llawer am rygbi!

Mae ei hoff bethau yn cynnwys cwrdd â ffrindiau, mynd i Donegal ar wyliau, darllen llyfr da, nofio yn yr awyr agored a chiniawau teulu o amgylch bwrdd y gegin.

Mae gan Sheelagh brofiad o’r canlynol:

  • sgiliau cyfathrebu
  • hyfforddi pobl eraill
  • mentora a datblygu cydweithwyr
  • cynllunio a phennu nodau

Angharad Truman

Deintydd adferol sy’n gweithio mewn ysbyty yw Angharad.

Darllen Mwy

Deintydd adferol sy’n gweithio mewn ysbyty yw Angharad. Mae’n treulio’r rhan fwyaf o’i bywyd gwaith yn helpu i adfer gwenau pobl a aned heb rai o’u dannedd oedolion, gwefusau a thaflod hollt a’r rhai sydd wedi cael canser y pen a’r gwddf. Ochr yn ochr â theimlo’n dda am helpu i wella iechyd y geg ei chleifion, mae Angharad yn gymeriad cymdeithasol ac wrth ei bodd ag agweddau amgylchedd tîm ei swydd a sgwrsio â’i chleifion.

Mae Angharad hefyd yn gweithio mewn prifysgol ac mae ganddi brofiad o hyfforddi ac arholi deintyddion.

Angharad yw Ysgrifennydd Anrhydeddus presennol Cymdeithas Deintyddiaeth Adferol Prydain ac mae wrth ei bodd â’r heriau mae hyn yn eu creu yn enwedig wrth drefnu cynadleddau a gweithgareddau addysg, y cyfleoedd rhwydweithio a helpu i wella dyfodol deintyddiaeth yng ngwledydd Prydain.

Y tu allan i’r gwaith mae Angharad wrth ei bodd yn treulio amser gyda’i phartner a’i ffrindiau, yn cymdeithasu, yn cerdded, yn padlfyrddio ac yn ceisio cyflawni micro-antur fisol i gadw bywyd yn hwyl!

Mae gan Angharad brofiad o’r canlynol:

  • sgiliau cyfathrebu
  • sgiliau cyflwyno
  • sut bydd disgwyl i chi ymddwyn yn y gwaith
  • pennu nodau
  • paratoi ar gyfer cyfweliad
  • llunio CV

Nadine Beaton

Mae Nadine yn gwneud cwmnïau yn lle gwych i weithio ac hyfforddodd yn wreiddiol fel actor.

Darllen Mwy

Mae Nadine yn siarad Cymraeg a phan oedd hi yn yr ysgol roedd hi’n cael ei disgrifio fel swot go iawn (gan ei ffrindiau). Hi oedd yr aelod cyntaf o’i theulu i barhau ag addysg y tu hwnt i TGAU a mynd ymlaen i gael Safon Uwch. Hyfforddodd Nadine yn wreiddiol fel actor yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ond, fel y rhan fwyaf o actorion, bu’n rhaid iddi wneud swydd ‘normal’ – neu, mewn gwirionedd – unrhyw swydd, i gael dau ben llinyn ynghyd, a sylweddolodd ei bod hi hefyd yn eithaf da am fusnes. Dros amser, canfu ei bod yn mwynhau byd busnes cymaint ag actio, yn enwedig gwneud amgylcheddau gwaith y gorau y gallan nhw fod i bobl fod yn hapus yn y gwaith, a chael y gorau allan o bobl. Wrth neidio ymlaen i heddiw, mae Nadine bellach yn bennaeth ar swyddogaethau pobl ac mae ganddi radd meistr mewn adnoddau dynol, cefndir mewn busnesau technoleg ariannol ac mae wedi gweithio mewn amryw o sefydliadau adnabyddus yn y de-ddwyrain gan gynnwys Gocompare.com a Phrifysgol De Cymru.

Mae gan Nadine brofiad o’r canlynol:

  • meithrin hunan-werth
  • magu hyder
  • tawelu nerfau ar gyfer cyflwyniadau a siarad cyhoeddus
  • recriwtio
  • technegau cyfweld
  • sut i ysgrifennu CV
  • ysgrifennu busnes
  • sefydlu cwmnïau

 

Roseanne Russell

Mae Roseanne yn gyfreithiwr, yn arbenigo mewn cyfraith cyflogaeth a gwahaniaethu. Mae hi wedi gweithio yng Nghaeredin, Manceinion, Llundain a Chaerdydd ac erbyn hyn mae hi’n dysgu’r gyfraith mewn prifysgol.

Darllen Mwy

 

 

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau