Campws fydd coleg ‘ystyriol o ddementia’ cyntaf Cymru

Mae campws Nantgarw yng Ngholeg y Cymoedd ar fin dod yn goleg ‘ystyriol o ddementia’ cyntaf Cymru.

Sbardunwyd y syniad gan ddysgwr o’r coleg, Sam Andrews, a ysbrydolwyd ar ôl cwblhau profiad gwaith gyda’r Gymdeithas Alzheimer.

Aeth y dysgwr ati yn annibynnol i lansio cynllun gweithredu er mwyn helpu ffreutur ac adrannau gwallt a harddwch a gwasanaethau cwsmeriaid y coleg i fod yn fwy ystyriol o ddementia.

Mae pob aelod o staff ar gampws y coleg ger Pontypridd yn awr yn hyfforddi i fod yn ‘Gyfeillion Dementia’.

Dywedodd rheolwr y Gymdeithas Alzheimer yn Ne-ddwyrain Cymru, Melanie Andrews: “Mae’n braf clywed am y gwaith cadarnhaol sy’n digwydd yng Ngholeg y Cymoedd. Maen nhw’n gosod cynsail ac rwy’n gobeithio bydd nifer yn dilyn ar draws y wlad.”

“Rydym ni am i bobl o bob cefndir ymuno â’r mudiad Cymunedau Ystyriol o Ddementia.”

Mae 2,500 o bobl yn byw gyda dementia yn Rhondda Cynon Taf, rhan o’r ardal y mae’r coleg yn ei wasanaethu, yn ôl y Gymdeithas Alzheimer.

Mae bron i hanner y bobl sy’n dioddef o ddementia yn y DU yn dweud nad ydynt yn teimlo’n rhan o’r gymuned, yn ôl adroddiad diweddar gan yr elusen.

Dywedodd Ms Andrews: “Mae’n dda gweld pa mor bell yr ydym wedi dod ond yn anffodus mae gormod o bobl â dementia yn dal i deimlo nad ydynt yn cael eu cefnogi ac nad ydynt yn rhan o’u hardal leol; maent yn teimlo’n gaeth yn eu cartref eu hunain, yn unig ac yn fwrn.”

“Nid yw nifer o bobl â dementia’n gallu cymryd rhan yn y gweithgareddau yr oeddent yn eu mwynhau cyn datblygu’r cyflwr, maen nhw am ymgysylltu â chymdeithas ond mae angen cefnogaeth arnynt.”

“Mae’n bosibl gwneud newidiadau bach a fydd yn gwneud eu bywydau o ddydd i ddydd yn well o lawer ac yn golygu eu bod yn gallu aros yn rhan o’r gymuned am yn hirach.” 

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau