Campws gwerth miliynau’n agor yn Aberdâr

Mae lansio campws Coleg wedi dod â gwyddonydd rhyngwladeol blaengar adref i ymuno â’r Prif Weinidog er mwyn dathlu carreg filltir ar gyfer addysg yng Nghwm Cynon

Mae Aberdâr wedi dathlu carreg filltir ar gyfer addysg yng Nghwm Cynon, wrth i Goleg y Cymoedd agor ei gampws gwerth miliynau yng nghanol y dref yn swyddogol.

Agorwyd Campws £22 miliwn y Coleg yn Aberdâr yn swyddogol gan y Prif Weinidog Carwyn Jones a Dr Lyn Evans, gwyddonydd o Gymru sy’n arwain prosiect yn CERN (Y Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Niwclear), safle arbrawf gwyddonol mwyaf y byd a brofodd fodolaeth Higgs Boson neu ‘Gronyn Duw’.

Ariannwyd y campws newydd, sydd wedi denu dros 600 o ddysgwyr llawn amser, ar y cyd gan Goleg y Cymoedd a Llywodraeth Cymru, a gyfrannodd £ 1 miliwn i’r prosiect fel rhan o’i Rhaglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif.

Wrth annerch dysgwyr, staff a gwesteion Coleg y Cymoedd, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: “Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi’r Coleg newydd hwn gyda £11 miliwn o gyllid. Pan edrychwch o gwmpas y safle gwych hwn, gallwch weld bod yr arian wedi ei wario’n dda.

“Mae’r Coleg newydd hwn yn darparu’r amgylchedd mwyaf modern a’r adnoddau gorau posibl i’r myfyrwyr i’w helpu i wireddu eu potensial. Yn ogystal â bod er budd athrawon a myfyrwyr, bydd y Coleg yn adnodd cymunedol amhrisiadwy i bobl Aberdâr ei ddefnyddio a’i fwynhau. “

Mae’r Coleg yn dweud bod yr arwyddion cynnar yn dangos cynnydd yn y nifer sy’n cofrestru, sy’n rhannol oherwydd ei waith yn creu partneriaethau cydweithredol ag ysgolion cyfun lleol a chyflogwyr.

Meddai Judith Evans, Pennaeth Coleg y Cymoedd: “Dyma ddiwrnod o ddathlu wrth inni agor drysau’r campws newydd yn swyddogol i arddangos y cyfleuster y mae Aberdâr wedi bod yn aros amdano. Credwn fod gan bawb yng Nghymru’r hawl i fynediad at addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel sy’n arwain at lwybrau gwaith go iawn.

“Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am ymuno â ni yn ein cenhadaeth i sicrhau y gall ein cymunedau yn Rhondda Cynon Taf a Chaerffili gael mynediad at y cyfleusterau a’r cyfleoedd y maent yn eu haeddu. Diolch hefyd i’r busnesau sy’n gweithio gyda ni bob blwyddyn i ganiatáu i’n dysgwyr ennill y profiad gwaith a’r cyfleoedd gwaith a fydd yn eu gweld yn ffynnu.

“Yn anad dim, rydym yn croesawu ein cymuned Aberdâr i ymuno â ni i weld a mwynhau’r cyfleuster yr ydym wedi’i greu yma, a darganfod sut y gallwn eu cefnogi wrth gyflawni eu nodau personol.”

Yn ogystal â chwricwlwm sefydledig y Coleg, mae’r campws newydd yn darparu mynediad at ystod eang o gyrsiau, gan gynnwys bricwaith, gwaith saer ac asiedydd, gosod trydan, plymio, y celfyddydau creadigol a’r cyfryngau, a chwaraeon.

Mynychwyd yr agoriad swyddogol hefyd gan Dr Lyn Evans, a anwyd yn Aberdâr, a hedfanodd adref i Gymru o safle CERN yn y Swistir yn arbennig i drafod pwysigrwydd darparu cyfleoedd addysg sy’n annog cenedlaethau newydd i astudio pynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg) a chael gyrfaoedd pwysig yn y diwydiant.

Adleisiwyd yr alwad honno gan amrywiaeth o bartneriaid busnes Coleg y Cymoedd, a manteisiodd ar eu cyfle cyntaf i ymweld â’r ystod o gyfleusterau hyfforddi pwrpasol sydd wedi’u hymgorffori yn y safle newydd.

Bob blwyddyn, mae cysylltiadau hirsefydlog y Coleg â chyflogwyr mawr lleol a chwmnïau rhyngwladol yn caniatáu i’w ddysgwyr sicrhau prentisiaethau a phrofiad diwydiant y gofynnir amdano. Yn Aberdâr, mae cyrsiau poblogaidd fel Plymwaith, Gosod Trydanol ac Adeiladwaith wedi’u cynllunio’n benodol i gwrdd â gofynion swyddi cwmnïau yn yr ardal.

Wedi’i gynllunio dros dri llawr, mae prif adeilad y campws yn darparu’r cyfleusterau diweddaraf ar gyfer nifer o gyrsiau arbenigol, gan gynnwys Cyfrifiadura, Cyfryngau Creadigol, Gofal Ac Astudiaethau Plentyndod, Lletygarwch ac Arlwyo, a Gwallt a Harddwch.

Mae’r cyfleusterau hefyd yn cynnwys salon trin gwallt proffesiynol, bwyty, a siop goffi. Bydd Salon 44 a bwyty Carriages ar agor i’r cyhoedd fel cyfleustrau newydd i’r gymuned yn ogystal â dysgwyr y Coleg.

Bydd y faith fod y safle’n agos at orsaf reilffordd Aberdâr, Ysgol Gymunedol Aberdâr a chanol y dref yn golygu y bydd gan ddysgwyr a staff fynediad lawer gwell at gludiant cyhoeddus a llwybrau cymudo o ardaloedd cyfagos.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau