Yn dilyn cyhoeddiad o fuddsoddiad o £20miliwn gan Lywodraeth Cymru mewn Campws newydd heb ei ail ar gyfer y Coleg yn Aberdâr, mae Pwyllgor Cynllunio’r Cyngor wedi cytuno ar fraslun o ganiatâd ar gyfer y cynigion hyn.
Ymwelodd Arweinydd y Cyngor, Y Cynghorydd Andrew Morgan, a Judith Evans, Pennaeth Coleg y Cymoedd, â’r safle i drafod y cynigion uchelgeisiol ar gyfer y safle allweddol hwn yn Aberdâr.
Dywedodd Andrew Morgan, Cynghorydd y Bwrdeistref Sirol ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf: “Dw i’n hynod falch i weld y prosiect hwn yn symud yn ei flaen a bod braslun y cynllun wedi’i gymeradwyo, yn amodol ar ddarparu mân fanylion pellach ar gyfer y Cyngor.
“Bydd y darpar goleg gwerth £20miliwn yn golygu trawsnewid yn ansawdd cyfleusterau addysg bellach yng Nghwm Cynon a dw i’n hynod falch bod y cynnig yn cynnwys y posibilrwydd bod hen Orsaf ‘Holt’ Aberdâr yn mynd i gael ei hadnewyddu a’i hail-ddefnyddio fel lleoliad bwyty ar gyfer y coleg.
“Er bod gan y lleoliad gysylltiadau cludiant cyhoeddus rhagorol gyda’r orsaf drenau drws nesaf i’r coleg newydd arfaethedig a’r orsaf bysiau ryw ganllath i ffwrdd, dw i’n bersonol yn awyddus i weld gwelliannau i briffyrdd yr ardal o ran cerddwyr a defnyddwyr y ffyrdd.
“A bod caniatâd llawn yn cael ei roi i’r cynllun, dylai’r gaith gychwyn ar y cyfleuster newydd erbyn gwanwyn 2016..
Mae’r Cyngor yn dal i gydweithio’n agos gyda Choleg y Cymoedd er lles Aberdâr
“Bydd y campws newydd hwn yn ategu’r ysgol uwchradd newydd a agorodd yn ddiweddar, gan sicrhau’r cyfleoedd addysgol gorau ar gyfer pobl ifanc yng Nghwm Cynon.
“Bydd y campws hefyd yn gwella’r buddsoddiad sylweddol a wnaed gan y Cyngor yn Aberdâr o ran gwella canol y dref a’r ganolfan hamdden ardderchog a agorwyd yn ddiweddar.
“Mae potensial i’r coleg newydd gyflenwi prosiect buddsoddi cyfalaf sylweddol arall nawr a fydd, yn ei dro, yn rhoi hwb mawr i’n heconomi lleol yn y tymor hirach.â€
Dywedodd Judith Evans, Pennaeth Coleg y Cymoedd:“Rydyn ni wrth ein bodd bod y Cyngor yn ein cefnogi a’n cynorthwyo yn ein cenhadaeth i sicrhau bod myfyrwyr yng Nghwm Cynon yn cael mynediad i gyfleusterau hyfforddi galwedigaethol o’r radd flaenaf.
“Bydd campws newydd y coleg yn sicrhau bod gan y dysgwyr ystod o ospiynau cwricwlwm sy’n eu galluogi i symud ymlaen i gyflogaeth neu addysg uwch.
“Mae gan Goleg y Cymoedd enw ardderchog am hyfforddiant prentisiaethau, rydyn ni’n awyddus i sicrhau bod dysgwyr yng Nghwm Cynon yn elwa o’r cyfleoedd hyn.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at agor y coleg i’n carfan cyntaf o ddysgwyr ym Medi 2017.”
Peidiwch â cholli cyfle i sicrhau’ch lle yn y coleg gan fod y cyrsiau yn llenwi’n gyflym. Os ydych yn gwybod pa gwrs yr ydych am ei astudio, gallwch wneud cais ar-lein HEDDIW! Fodd bynnag, os ydych am gyngor i wneud eich penderfyniad… dewch i’n gweld ar un o’n Dyddiau Agored ar gampws Aberdâr, Nantgarw, Rhondda ac Ystrad Mynach –Dydd Iau, Awst 27 rhwng 10:00 a 7:00p.m./Dydd Gwener, Awst 28 rhwng 10:00 a 4:00p.m.
“