Campws y Rhondda, yn codi arian ar gyfer cyfleuster canser newydd sbon yn Ne Cymru

Campws y Rhondda, Coleg y Cymoedd yn codi arian ar gyfer cyfleuster canser newydd sbon yn Ne Cymru

Mae coleg blaenllaw yn y Rhondda wedi addo codi arian trwy gydol y flwyddyn academaidd i helpu brwydro yn erbyn canser. Bydd y campws yn codi arian ar gyfer cyfleuster newydd o’r radd flaenaf, gyda’i ddysgwyr a’i diwtoriaid a’r gymuned leol i gyd yn ymuno â’i gilydd i gefnogi’r achos.

Cychwynnodd Gampws y Rhondda Coleg y Cymoedd yn Llwynypia, sydd â mwy na 700 o ddysgwyr, ei farathon codi arian trwy gynnal bore coffi’r elusen canser Macmillan – sef ‘elusen y flwyddyn’ y Campws – sy’n darparu cymorth i’r sawl a effeithir gan y clefyd.

Ymunodd Pennaeth Coleg y Cymoedd, Judith Evans, ynghyd â Maer Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, y Cyng. Margaret Tegg a’i chymheiriaid â staff a dysgwyr yn y coleg, i godi arian tuag at adeiladu cyfleuster canser newydd gwerth £ 6.75m ar gyfer yr ardal.

Bydd yr uned gofal arbenigol, sy’n cael ei adeiladu gyda chymorth Canser Macmillan a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant, yn darparu cyfleusterau modern i gleifion canser yn ogystal â gofal lliniarol a chefnogaeth i bobl â chanser anwelladwy a chyflyrau eraill.

Yn y bore coffi roedd cacennau, diodydd, gemwaith a chrefft ar werth, gyda dysgwyr o ar draws y campws yn cymryd seibiant o’u hastudiaethau i gymryd rhan.

Meddai’r Cyng. Margaret Tegg: Bu’n bleser bod yn rhan o’r gefnogaeth gymunedol gref dros achos hynod werth chweil”.

Fel yr elusen a ddewiswyd ar gyfer 2017/18, bydd campws y coleg yn cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau codi arian trwy gydol y flwyddyn i gefnogi Macmillan, gyda’r bore coffi yn cychwyn yr amserlen o ddigwyddiadau.

Dywedodd Carolyn Donegan, Cyfarwyddwr Campws y Rhondda: “Dros y blynyddoedd, mae nifer o’n staff a’u teuluoedd wedi cael cymorth a chefnogaeth gan Macmillan, y mae ei help wedi bod yn hollol amhrisiadwy ac felly, nid oedd cwestiwn wrth ddewis Macmillan fel ein helusen y flwyddyn.

“Ein nod yw helpu pobl Macmillan i barhau â’r holl waith anhygoel y maent yn ei wneud i bobl ar hyd a lled y wlad, yn ogystal â chyfrannu tuag at greu cyfleusterau newydd sbon a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i gleifion canser yng Nghymru”.

Er mwyn gwneud y gorau o’r arian a godwyd ar gyfer elusen sy’n agos at y galon, mae’r coleg wedi newid ei ymagwedd tuag at godi arian gan roi mwy o ffocws ar gynnal rhaglen o ddigwyddiadau a chynnwys mwy o staff a dysgwyr nag erioed o’r blaen.

Ychwanegodd Carolyn: “Er nad yw boreau coffi Macmillan yn newydd, mae ein hagwedd tuag at godi arian yn newydd. Dyma’r tro cyntaf i’r campws greu calendr penodol o ddigwyddiadau codi arian trwy gydol y flwyddyn sy’n cynnwys dysgwyr ymhob adran ar draws y campws. Roeddem am adeiladu ar ein perthynas codi arian draddodiadol a chreu rhywbeth mwy strategol ac ystyrlon. “

Bydd dysgwyr ledled y coleg yn cymryd rhan yn y gwaith o godi arian trwy gydol y flwyddyn, gyda dysgwyr o bob un o’r ysgolion yn cael eu hannog i ymuno a dangos eu cefnogaeth.

Er y bydd dysgwyr Arlwyo yn darparu nwyddau i’w gwerthu yn y boreau coffi yn ogystal â chynnal stondinau cacennau, bydd dysgwyr Adeiladu yn creu eitemau o ddodrefn ar gyfer ocsiwn. Yn yr un modd, bydd yr adran Celfyddydau Perfformio yn cyfrannu arian o werthu tocynnau sioeau ac fe fydd unigolion sy’n astudio Gofal Plant hefyd yn cynnal eu digwyddiadau codi arian eu hunain.

Dysgwyr Trin Gwallt a Harddwch sydd nesaf gyda’u digwyddiad “Spooky Spectacular” ym mis Hydref lle byddant yn cynnig triniaethau gwallt a cholur i ddysgwyr a staff yn ogystal â phlant yr ysgol leol.

Mae’r bore coffi yn dilyn gweithgarwch codi arian blaenorol y mae Campws y Rhondda wedi bod yn rhan ohono dros y blynyddoedd diwethaf, gyda llu o staff wedi gwirfoddoli i godi arian yn annibynnol. Hefyd, mae’r campws wedi agor ei ddrysau yn aml ar sawl achlysur fel man ‘gorffwys a dadebru’ i unigolion sy’n cymryd rhan mewn teithiau cerdded i godi arian i Macmillan.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau