Canlyniadau arholiadau gorau erioed yng Ngholeg y Cymoedd

Ar ôl dwy flynedd o ddysgwyr yn derbyn eu graddau gartref, mae Coleg y Cymoedd wedi croesawu cael myfyrwyr yn ôl i’r campws i dderbyn eu canlyniadau. Gosodwyd y carped coch i gannoedd o ddysgwyr wrth iddynt gyrraedd y safle i ddathlu eu cyflawniadau gyda chyd-ddisgyblion a thiwtoriaid.

Mae’r coleg, sy’n gwasanaethu dysgwyr ar draws Rhondda Cynon Taf a Chaerffili, wedi cael graddau uchel ar draws ei gyrsiau academaidd a galwedigaethol, gyda’i Ganolfan Safon Uwch yn Nantgarw yn cyflawni cyfradd lwyddo gyffredinol o 99.6% yn 2022. Cafwyd cyfradd lwyddo o 100% mewn 20 allan o 22 pwnc gan gynnwys pob pwnc STEM, Saesneg, Hanes a Daearyddiaeth.

Mae nifer y dysgwyr sy’n cyflawni graddau A*-C i fyny 28% o gymharu â 2019 – y tro diwethaf roedd canlyniadau’n seiliedig ar arholiadau allanol yn hytrach na graddau a bennwyd gan y ganolfan, fel yr oeddent yn ystod y pandemig. Mae nifer y dysgwyr sy’n ennill y graddau A* ac A yn U2 hefyd wedi cynyddu 22%.

Hefyd, mae’r coleg wedi gweld perfformiad arbennig gan ei ddysgwyr galwedigaethol gyda dros 1,200 o ddysgwyr yn cwblhau cymwysterau. Er nad yw canlyniadau galwedigaethol llawn wedi’u cadarnhau eto, mae’r arwyddion cychwynnol yn dangos y bydd Coleg y Cymoedd yn cyrraedd eu lefelau cyrhaeddiad uchel arferol ar gyfer darpariaethau galwedigaethol, yn seiliedig ar y canlyniadau rhagarweiniol a dderbyniwyd adeg ysgrifennu’r erthygl hon.

Ymhlith llwyddiannau’r diwrnod canlyniadau mae Brooke Pothecary, sy’n 18 oed ac yn dod o’r Porth, a enillodd dair gradd A* anhygoel yn y Saesneg, Drama ac Astudiaethau Crefyddol ochr yn ochr ag A ym Magloriaeth Cymru, gan sicrhau lle i astudio Eidaleg a Japaneg ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r dysgwr A*, sy’n frwd dros archwilio lleoedd newydd, wedi datblygu cariad at ieithoedd yn ystod ei theithiau dros y blynyddoedd ac yn breuddwydio am fod yn athrawes Eidaleg yn Awstralia, lle mae galw am staff sy’n siarad Eidaleg.

Brooke Pothecary

Dywedodd Brooke: “Rwy’n wirioneddol angerddol am ieithoedd oherwydd rwy’n teithio cryn dipyn ac yn gwybod bod pobl yn cael trafferth gyda’r Saesneg. Mae disgwyl yn gyffredinol bod pawb yn ei gwybod yn fyd-eang ond nid yw hynny’n wir bob amser, felly rwy’n ceisio dysgu rhywfaint o’r iaith leol pryd bynnag y byddaf yn ymweld â rhywle.

“Mae’r cwrs ym Mhrifysgol Caerdydd yn cynnig yr opsiwn imi ddysgu mwy nag un iaith ar lefel gradd, ac rwy’n awyddus iawn i ddysgu cymaint ag y gallaf, felly efallai mai canlyniadau heddiw yw’r cam cyntaf tuag at y bywyd o deithio rydw i’n breuddwydio amdano.”

Ymhlith y myfyrwyr sydd wedi ennill y marciau uchaf heddiw mae Sam Wiener, sy’n 18 oed ac yn dod o Gaerdydd ac sydd ar fin astudio Hanes yn Warwick – un o’r 10 prifysgol orau yn y DU i astudio’r pwnc yn ôl tablau Times Higher Education 2022. Enillodd Sam 3A* a B yn ei Safon Uwch mewn Hanes, Llenyddiaeth Saesneg, Drama a Seicoleg.

SAM-WIENER

Dywedodd Sam: “Dydw i ddim yn siŵr beth fydda’ i’n ei wneud o ran gyrfa ar ôl y brifysgol, ond rydw i’n meddwl bod hynny’n iawn. Rwy’n teimlo bod llawer o bwysau i wybod yn union beth rydych chi eisiau ei wneud ac i drefnu eich gyrfa yn gynnar, ond nid yw hynny bob amser yn realistig. Rwy’n edrych ymlaen at astudio a datblygu fy ngwybodaeth mewn rhywbeth rwy’n wirioneddol angerddol amdano. Mae modd dysgu’r gweddill ar hyd y ffordd – dwi’n teimlo bod hynny’n gyffrous iawn.”

Yn chwifio’r faner dros ddysgwyr galwedigaethol Coleg y Cymoedd mae Maia Thomas, sy’n 19 oed ac yn dod o Ferthyr Tudful, yn mynd i’r Academi Italia Conti fawreddog i gwblhau Tystysgrif AU mewn Perfformio Theatr Gerdd ar ôl ennill gradd Rhagoriaeth* yn ei Lefel 3 yn y Celfyddydau Perfformio.

Maia Thomas

Mae Maia, sydd wedi bod yn frwd dros berfformio ers oedd hi’n ifanc, yn gobeithio mai’r cwrs blwyddyn llawn amser, sy’n darparu hyfforddiant canu, dawnsio ac actio, fydd y cam cyntaf tuag at yrfa broffesiynol fel perfformiwr yn y diwydiant. Ar ôl cwblhau’r dystysgrif, mae’n anelu at fynd ymlaen i astudio gradd yn yr academi.

Dywedodd Maia: “Rwyf wedi bod yn perfformio ers pan oeddwn yn bedair oed ac wedi gwybod erioed bod theatr yn rhywbeth yr oeddwn am ddilyn gyrfa ynddo. Mae’r diwydiant cyfan yn fy ysbrydoli ac, ar ôl gwneud fy TGAU mewn Drama, roeddwn yn gwybod fy mod am barhau â’m haddysg mewn perfformio.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr i fynd i Italia Conti, a ddewisais gan ei fod yn adnabyddus am feithrin pob unigolyn, yn rhoi lle iddynt wella eu hunain. Mae hyn yn rhywbeth sy’n bwysig imi gan y bydd yn gadael imi aros yn driw i mi fy hun wrth ddysgu yno.”

Hefyd yn dathlu heddiw mae Megan James, sy’n 18 ac yn dod o Dreharris, sydd yn yr un modd ar y llwybr i yrfa gyffrous ym myd theatr a ffilm ar ôl bod y dysgwr cyntaf yng Ngholeg y Cymoedd i gael lle yng Ngholeg Ffasiwn Llundain. Ar ôl ennill rhagoriaeth yn ei Diploma Estynedig mewn Gwallt, Colur ac Effeithiau Arbennig, mae Megan wedi sicrhau lle i astudio Gwallt, Colur, a Phrostheteg ar gyfer Perfformiad yn y coleg ffasiwn byd-enwog, Ymhlith cyn-fyfyrwyr y coleg mae’r dylunydd esgidiau enwog Jimmy Choo.

Wrth edrych ymlaen, breuddwyd Megan yw gweithio ar ddyluniad y gwisgoedd ar gyfer sioeau cyfnod a chynyrchiadau llwyfan y West End. Dywedodd: “Er y byddwn wrth fy modd yn gweithio ym mhob rhan o’r diwydiant ac na fyddwn am gyfyngu fy hun ar hyn o bryd, rwyf wedi mwynhau gwneud wigiau a gwisgoedd yn fawr dros y flwyddyn ddiwethaf, sy’n rheswm arall pam y dewisais wneud astudio yn Llundain gan y byddwn i wrth fy modd yn gweithio ar wigiau ym mherfformiadau mawr y West End”.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau