Canmoliaeth i Gynllun Iaith Gymraeg y Colegau cyfun

Mae merch o Gaerffili wedi ycfnewid yr ystafell ddosbarth am y ciwi ar ôl cael swydd ddelfrydol yn Seland Newydd.

Mae Gracie Messner, 19 oed o Lanbradach nawr yn byw a gweithio ar ynys bellennig Waiheke oddi ar arfordir Auckland, ar ôl cael swydd fel cynllunydd graffig mewn cwmni datblygu’r we.

Astudiodd Gracie Lefel A mewn celf gain, dylunio graffig a TGCh ar gampws Ystrad Mynach Coleg y Cymoedd cyn teithio o gwmpas Seland Newydd ar ôl gorffen ei harholiadau yn 2013. Yn wreiddiol, roedd yn cynllunio ymweliad byr â’r wlad, ond nawr mae gan Gracie gartref ar Ynys Waiheke a’i gobaith ydy gwneud cais am breswyliaeth barhaol cyn gynted ag y bydd yn gymwys.

Tra roedd yn teithio, darganfyddoddd ei chyflogwr newydd ei thalent am ddylunio graffeg ar ôl iddi ddylunio logo ar gyfer bar a bwyty newydd oedd yn agor ar yr ynys. Creodd ei thalentau cystal argraff ar yr asiantaeth nes iddyn nhw gynnig swydd lawn amser iddi.

Dywedodd Gracie: “Mae bywyd yn Seland Newydd mor wahanol i fywyd nol adre yng Nghymru ond dw i wrth fy modd yma. Mae Ynys Waiheke yn gymuned agos iawn lle mae pawb yn adnabod pawb , felly yn hynny o beth mae’n debyg i Lanbradach! Yn wreiddiol, fy nghynllun oedd mynd i’r brifysgol ar ôl teithio, ond dw i mor hapus yma, dw i ddim am adael a dw i wedi cofrestru am gwrs gradd rhan amser ar–lein mewn dylunio graffig.

“Dw i wedi bod yn berson creadigol erioed ond nes i mi fynd i Goleg y Cymoedd d’on i ddim yn gwybod y gallwn cael gyrfa yn y maaes. Roedd tiwtoriaid y coleg mor frwd ac fe wnaethon nhw fy annog i ddatblygu fy hyder ond ar yr un pryd rhoi’r rhyddid i mi ddatblygu fy arddull fy hun. Pan ddaeth yr amser i gael fy swydd gyntaf, ron i’n teimlo mod i’n gallu cyflwyno fy hunan a fy ngwaith iddyn nhw.”

Dywedodd Vanessa Batten, tiwtor dylunio graffig Gracie yng Ngholeg y Cymoedd: “Mae Gracie yn esiamnpl wych o’r hyn gall ein myfyrwyr ei gyflawni. Prin ydy’r achosion i asiantaeth dderbyn cyflogai yn syth ar ôl cyrsiau Lefel A ond fe wnaeth gwaith a thalent dylunio Gracie eu synnu.

“Dw i wrth fy modd bod Gracie wedi penderfynu parhau i astudio rhan amser wrth iddi ddatblygu ei sgiliau a’i haddysg. Mae myfyrwyr cwrs dylunio graffig Coleg y Cymoedd wedi cael llwyddiannau mawr yn ystod y blynyddoedd diweddar gyda’r mwyafrif ohonyn nhw’n cael eu derbyn ar gyrsiau gradd heb orfod gwneud cwrs sylfaen y mae prifysgolion yn ei ddisgwyl.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau