Bu grŵp o ddysgwyr talentog o Goleg y Cymoedd yn rhan o arddangosfa arlunio leol gyda chefnogaeth cyn filwyr catrawd y Royal Welsh a chymdeithas y ‘Royal Comrades Association’, i nodi canmlwyddiant cychwyn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Cynhaliwyd yr arddangosfa ‘Gydag amser / In the Course of Time’ yn eglwys Sant Elfan, Aberdâr, am bythefnos ym mis Tachwedd, a gwelwyd gwaith dros 40 o artistiaid a chrefftwyr, gan gynnwys lluniadau, paentiadau, cerfluniau a chrefftwaith arall oedd yn cynnwys gwaith cwitlio a chelf ffeibr.
Cynhyrchodd y dysgwyr sy’n astudio cwrs Diploma Dechnegol Lefel 2 mewn Celf a Dylunio ar gampws Nantgarw gasgliad o waith celf yn seiliedig ar Farddoniaeth Patrick Jones.
Dywedodd y tiwtor, Paul Lavagna: “Cynhyrchodd dysgwyr yr adran hon o’r arddangosfa wrthrychau sy’n dehongli detholiad o gerddi Patrick Jones.
Gwrandawodd y dysgwyr ar y geiriau a rhaeadru symiadau, yna gwneud ymchwil a datblygu syniadau i gynhyrchu canlyniadau sy’n adlewyrchu eu dehongliad personol o gerdd neu rannau o gerdd a’u hysytyronâ€.
Dywedodd Rhonwen Powell, dysgwraig 18 o Donyrefail wrth ymfalchïo o weld ei gwaith wedi ei gynnwys, “Pan ofynnodd ein tiwtor, Paul Lavagna i ni a hoffen ni gynnig unrhywbeth o’n gwaith, manteisiais ar y cyfle, nid yn unig bod y cyhoedd yn cael gweld fy ngwaith a, gobeithio, ei werthfawrogi, ond r’on i’n teimlo bod y digwyddiad yn un teilwng i’w gefnogi.
Roedd rhaglen yr arddangosfa yn cynnwys cyngerdd coffa a cherddoriaeth gan fand pres Llwydcoed a lansiad llyfr Geoffrey Evans, awdur a hanesydd lleol.
Dywedodd Christina Davies, un o brif drefnwyr yr arddangosfa: “Cymerodd flwyddyn i gynllunio a threfnu’r arddangosfa hon a phobl yn gyffrous ac yn edrych ymlaen at weld yr hyn mae artistiaid lleol wedi’i greu; mae’n wych gweld gwaith myfyrwyr sydd mor fedrus a llawn egni.â€
Ymhlith y dysgwyr oedd yn arddangos eu gwaith celf roedd Sara Delaitre, Philip O’Brien, Ffion Stanton, Molly Osbourne, Luke Belson, Rhiannon Rhodes a Rhonwen Powell.
“