Canwr brwd o’r cymoedd yn ennill cystadleuaeth fyd eang er mwyn gweithio ag eicon y band Eurythmics David Stewart

Mae cerddor uchelgeisiol o gymoedd De Cymru wedi ennill cystadleuaeth fyd-eang i weithio gydag eicon y byd cerddoriaeth.

Mae Christian Punter, 22 oed, o Lyn Rhedynog yng nghymoedd y Rhondda, wedi dod i’r brig gan guro miloedd o gerddorion brwd eraill ledled y byd ac ennill $6,000 a chytundeb recordio gyda’r artist a’r cynhyrchydd arobryn a chyd-sefydlydd y band Eurythmics, Dave Stewart.

Enillodd y canwr-gyfansoddwr talentog, sy’n perfformio o dan yr enw llwyfan ‘Otto’, y wobr ar ôl creu argraff ar Dave Stewart gyda’i ddawn cyfansoddi ac mae bellach ar fin rhyddhau sengl ar y cyd â’r seren ar label recordiau Stewart ei hun.

Er mwyn cymryd rhan yn y gystadleuaeth, bu’n rhaid i’r cyn-ddysgwr cerddoriaeth o Goleg y Cymoedd ychwanegu ei gerddoriaeth ei hun at drac a recordiwyd gan Stewart. Cipiodd Christian y brif wobr oherwydd ei gyfuniad unigryw o gordiau gitâr haenog, harmonïau lleisiol a phatrymau drwm dolennog.

Bydd Chrisitan yn awr yn gweithio’n uniongyrchol gyda Stewart ar y gân a fydd yn cael ei rhyddhau fel sengl. Dros yr wythnosau diwethaf, mae’r Cymro ifanc talentog wedi sgwrsio dros y ffôn a thrwy alwadau fideo ac wedi cyfnewid negeseuon e-bost gyda’r seren er mwyn cwblhau’r trac. Bydd y trac yn cael ei ryddhau o dan label recordiau newydd sbon Stewart a leolir yn Los Angeles, Bay Street Records, yn ystod y misoedd nesaf.
Meddai Christian: “Mae ennill cystadleuaeth cyfansoddi Trackd wedi bod yn hollol anhygoel ac yn gam nesaf anhygoel yn fy ngyrfa fel artist. Mae Dave Stewart wedi cael gyrfa lwyddiannus iawn yn gweithio gyda rhai o artistiaid gorau’r diwydiant fel Annie Lennox, Bob Dylan a Mick Jagger felly mae’n anrhydedd cael gweithio gydag ef.

“Ni allaf gredu bod fy nghân nesaf yn mynd i gael ei rhyddhau ar label go iawn ac rwy’n llawn cyffro wrth feddwl y bydd pawb yn gallu clywed y trac yr ydym wedi cydweithio arno. Rwy’n gobeithio y byddaf yn gallu gweithio gyda Stewart eto yn y dyfodol. ”

Cyn ennill y gystadleuaeth, roedd ‘Otto’ eisoes wedi bod yn gwneud enw iddo’i hun yn y diwydiant cerddoriaeth, wedi i nifer o’i ganeuon gwreiddiol gael eu chwarae ar radio cenedlaethol, gan gynnwys y sengl uchel ei chlod ‘The Boxer’ – prif drac ei EP cyntaf ‘Post’- a oedd ar restr A BBC Radio Wales am bum wythnos.
Mae ‘Post’, a gynhyrchwyd gan Charlie Frances – cynhyrchydd sydd wedi gweithio gydag artistiaid fel REM a The Noisettes – hefyd wedi’i enwebu ar gyfer gwobr yr EP gorau yng Ngwobrau Cerdd Caerdydd 2020.

Mae Christian wedi bod yn frwd dros gerddoriaeth erioed a dechreuodd Christian ganu ar strydoedd Caerdydd a chwarae mewn mannau cerddoriaeth lleol wrth gwblhau diploma mewn Technoleg Cerdd yng Ngholeg y Cymoedd. Ar ôl gorffen yn y coleg, parhaodd i ddilyn cerddoriaeth fel gyrfa llawn amser, gan berfformio’n fyw mewn ystod o leoliadau yn Llundain ynghyd â nifer o wyliau gan gynnwys ‘How the Light Gets In’ a ‘Live on the Wye.’

Yn dilyn ei fuddugoliaeth yn y gystadleuaeth, mae Otto bellach yn treulio’r cyfnod cyfyngiadau symud yn gweithio ar EP newydd yn ei ystafell wely.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau