Mae dysgwyr o Goleg y Cymoedd wedi cael y cyfle i arlwyo ar gyfer rhai o gomanderiaid uchaf eu rheng yng Nghatrawd 104 y Magnelwyr Brenhinol.
Gofynnwyd i’r Coleg ddarparu lletygarwch ym Marics y Fyddin yn Rhaglan lle byddai swyddogion y fyddin o Gymru yn dathlu Gŵyl Dewi gyda Chinio’r Capten.
Roedd deuddeg dysgwr ar gyrsiau Lefel 1, 2 a 3 Lletygarwch ac Arlwyo o gampws Ystrad Mynach a Nantgarw, ynghyd â’u tiwtoriad, yn rhan o bob agwedd o’r achlysur gan gynnwys bod yn Gogyddion Commis, Disteiniaid Gwin, Gweini Bwyd a chroesawu pobl.
Dywedodd Kirsty Pearson, tiwtor Lletygarwch ac Arlwyo: “Roedd hi’n fraint i ni gymryd rhan mewn digwyddiad mor uchel ei broffil; roedd ein dysgwr yn gredyd i’r coleg, roedden nhw mor broffesiynol. Roedd y digwyddiad yn brofiad gwaith amhrisiadwy i wella’u sgiliau ymarferol ym maes bwyd a diod a chael profiad o ddigwyddiad pwysig. Enillodd dau fyfyriwr brofiad gwerthfawr o weithio gyda Meistr y Gwarchodlu yn cyflawni dyletswyddau Cogydd ‘commis’ cyn ac yn ystod y pryd bwyd tra bod gweddill y myfyrwyr yn gweini’r pryd 5 cwrs ynghyd â gweini’r gwin a’r port.
Roedd y digwyddiad yn llwyddiant mawr a derbyniodd y staff a’r myfyrwyr sylwadau positif iawn gan gynnwys rhai’r Capten pan ddwedodd bod ‘ein dysgwyr yn well na’r cwmni maen nhw’n ei ddefnyddio fel arfer!’ I gydnabod ein gwasanaeth ardderchog cawson ni gymeradwyaeth gan y gwesteion ac o ganlyniad gofynnwyd i’r dysgwyr fynychu digwyddiadau yn y dyfodol.
Mae Robert Haycox, dysgwr 17 oed o bentre Glynrhedyn (Ferndale) a gymerodd ran yn y digwyddiad, yn astudio ar gwrs NVQ Lefel 2 mewn Coginio Proffesiynol ar gampws Nantgarw.
Dywedodd Robert “Gofynnodd fy nhiwtor, Mr. Emery, a oeddwn am weithio yn y digwyddiad hwn gan ei fod ar nos Sadwrn. Dw i mor falch mod i wedi cytuno i wneud oherwydd dysgais i gymaint. Ro’n i’n nerfus ar y cychwyn ond gyda chymorth staff a chydweithwyr fe wnes i fwynhau’r ‘gwaith gweini’ a’r profiad drwyddi draw o weini ar y gwesteion.
Gweithion ni i gyd fel tîm ac roedd y Cyrnol yn fodlon iawn gyda’n ni. Roedd yn braf iawn pan wnaeth y gynulleidfa ein cymeradwyo ar ddiwedd y noson. Bydda i’n sicr o fynychu unrhyw ddigwyddiad arall y cawn wahoddiad iddo.â€
Mae gan Goleg y Cymoedd enw ardderchog am ei gyrsiau arlwyo a lletygarwch gyda dysgwyr wedi’u hyfforddi i’r safonau uchaf gan ein tîm proffesiynol. Mae gan y Coleg dri bwyty hyfforddi sy’n cael eu cyd-redeg gan staff a dysgwyr ac ar agor i’r cyhoedd – Bwyty Llewellyns ar Gampws Aberdâr, Bwyty’r Nant ar Gampws Nantgarw a Bwyty Scholars ar Gampws Ystrad Mynach.
I gael gwybodaeth am amseroedd agor y bwytai ewch i: /about-us/facilities.aspx#1324
Mae Trip Advisor yn sôn am Fwyty’r Nant ar: http://bit.ly/1IPsema
“