Unwaith eto, mae myfyrwyr Coleg y Cymoedd o gampws Nantgarw wedi dangos eu sgiliau ym mhantomeim Rhondda Cynon Tâf, Peter Pan, a aeth ar daith drwy’r Bwrdeistref Sirol dros Ŵyl y Nadolig.
Hon oedd y drydedd blwyddyn y bu myfyrwyr Cwrs Gradd Sylfaen Creu Gwisgoedd ar gyfer Ffilm a Theatr yn y coleg wedi gweithio mewn partneriaeth â Theatrau RhCT i greu gwisgoedd hudol ar gyfer y cast. Bu’r myfyrwyr a neilltuwyd yn brysur ers misoedd tu ôl i’r llenni, yn gweithio i ddedleins, yn llunio gwisgoedd ar gyfer y perfformiad.
Dywedodd Alicia Lording, myfyrwraig yn ei hail flwyddyn, “Roedd creu’r gwisgoedd ar gyfer y cast yn waith caled ond pleserus iawn. Un peth ydy creu’r gwisgoedd, ond peth hollol wahanol ydy ystyried yr elfennau ymarferol megis ydyn nhw’n gyfforddus i’w gwisgo yn y perfformiad, ydyn nhw’n hawdd eu golchi ac wrth gwrs a wnân nhw bara am gyfnod tymor y pantomeim! Penderfynes i greu gwisg Brenhines Berl ar gyfer Nanny McSmee gan weithio gyda Frank Vickery, ‘Dame’ y pantomeim, er mwyn sicrhau ei fod yn hollol hapus gyda’r wisg derfynol.â€
Dywedodd Emma Highgate, Arweinydd y Cwrs, “Ron i wrth fy modd pan gysylltodd Geoff Cripps â’r coleg i ofyn a hoffai’r myfyrwyr gymryd rhan gyda chynhyrchiad Peter Pan. Wrth gwrs, neidion ni at y cyfle gan ei fod yn rhoi cyfle i’r myfyrwyr weithio ar brosiect go wir a chael profiad o’r sialensiau o weithio i ddedleins tynn. Fe wnaeth ein myfyrwyr fwynhau’r prosiect yn fawr iawn ac yn amlwg yn falch o’u gwaith caled; roedd y wên ar eu hwynebau wrth weld eu gwisgoedd ddod yn fwy ar y llwyfan yn dystiolaeth o hyn.â€
Dywedodd Steve Denton, cynllunydd gwisgoedd proffesiynol a weithiodd ar y cynhyrchiad, “Roedd safon uchel y gwisgoedd gorffenedig wedi fy synnu. Roedden nhw’n edrych yn wych ar y llwyfan ac ron i’n meddwl bod yr holl fyfyrwyr yn broffesiynol iawn gan ddangos llawer o botensial yn ogystal â thalent, o ystyried mai dim ond myfyrwyr ail flwyddyn ydyn nhw.â€
Yn sicr, roedd y pantomeim yn boblogaidd ymhlith y cynulleidfaoedd ynghyd â’r effeithiau arbennig ffantastig, y gwisgoedd lliwgar, y caneuon a’r gerddoriaeth a dyrnaid o ‘lwch hud’ Tinkerbell!