Cartref newydd i Ysgol Arbennig Maesgwyn yng nghampws Aberdâr

Mae Arweinydd y Cyngor wedi agor yn swyddogol safle lloeren newydd ar gyfer Ysgol Arbennig Maesgwyn yng Nghampws Aberdâr Coleg y Cymoedd, i gryfhau cysylltiadau rhwng yr ysgol a’r Coleg er lles y disgyblion.

Agorodd y Cynghorydd Andrew Morgan y cyfleuster dysgu, a leolir yn adeilad hen orsaf drenau Aberdâr, yn ystod digwyddiad arbennig ddydd Mawrth 17 Ebrill. Adfywiwyd yr adeilad fel rhan o ddatblygiad arloesol gwerth £20 miliwn Coleg y Cymoedd yn Robertstown, a agorodd i ddysgwyr ym mis Medi 2017, gan ddisodli’r hen gampws yng Nghwmdâr.

Mynychodd disgyblion ôl-16 o Ysgol Arbennig Maesgwyn yr agoriad, ynghyd ag Aelod Cabinet y Cyngor dros Addysg a Dysgu Gydol Oes, y Cynghorydd Joy Rosser, a Judith Evans, Pennaeth Coleg y Cymoedd.

Bydd y ddarpariaeth newydd yn cynnig lleoliad ar gyfer dysgwyr ôl-16 Ysgol Arbennig Maeswgyn, a leolir yng Nghwmdâr. Bydd yn adeiladu ar y berthynas bresennol rhwng yr ysgol a’r Coleg, sydd wedi gweld disgyblion Ysgol Arbennig Maesgwyn yn mynd ymlaen i ddilyn cyrsiau’r Coleg dros nifer o flynyddoedd.

Bydd y trefniant newydd hefyd yn rhoi profiad pwysig i ddysgwyr ar bob agwedd ar fywyd y Coleg – gan gynnwys mynediad at sesiynau blasu’r Coleg fel modd o roi cyfleoedd galwedigaethol iddynt a allai arwain at ddilyn cyrsiau yn y dyfodol. Bydd hefyd yn cynnig mynediad at amrywiaeth o gyrsiau ‘cyswllt’ ar gyfer grwpiau arwahanol o ddysgwyr, a’r rhaglen allgyrsiol HWB.

Dywedodd y Cynghorydd Morgan: “Roedd yn bleser agor ystafell ddosbarth newydd Ysgol Arbennig Maesgwyn yng nghampws newydd Coleg y Cymoedd yn Aberdâr sydd, ynghyd ag Ysgol Gymunedol Aberdâr, yn cynnig cyfleusterau heb eu hail yn y Cymoedd i bobl ifanc Aberdâr, fel rhan o fuddsoddiad y Cyngor mewn addysg a hamdden.

“Bydd y safle lloeren newydd yn cynnig mwy na dim ond lleoliad i ddisgyblion ddysgu. Bydd yn rhoi mynediad iddynt i gyfleusterau’r Coleg ehangach, cyfleoedd galwedigaethol ychwanegol a rhyngweithio cymdeithasol gydag ystod ehangach o gyfoedion. Yn y pen draw, bydd yn caniatáu i’r Cyngor wella’r broses o gynllunio a chyflwyno cefnogaeth i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol, a sicrhau pontio haws rhwng y Coleg a’r ysgol arbennig. “

Ychwanegodd y Cynghorydd Rosser: “Datblygwyd y fenter hon wrth baratoi ar gyfer Diwygiadau Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd, ac mae’n efelychu darpariaeth lloeren ôl-16 arall a sefydlwyd dair blynedd yn ôl yn y Rhondda trwy bartneriaeth rhwng y Cyngor, Ysgol Hen Felin a Champws Ystrad Mynach Coleg y Cymoedd.

“Bydd y cynllun yn Aberdâr yn cyflwyno ymagwedd hyd yn oed yn fwy cynhwysol at y berthynas bresennol rhwng Maesgwyn a Choleg y Cymoedd, sy’n mynd yn ôl nifer o flynyddoedd. Bydd yn ehangu mynediad disgyblion at ystod o gyfleoedd addysgol ac yn eu galluogi i weld y Coleg fel posibilrwydd mwy hyfyw ar ôl iddynt adael yr ysgol – yn rhoi’r cyfle gorau i’r disgyblion lwyddo.

“Mae mwy a mwy o ddisgyblion Rhondda Cynon Taf yn elwa o’r cyfleusterau diweddaraf, gyda’r Cyngor yn parhau i fuddsoddi’n sylweddol trwy #RCTinvest. Yn y flwyddyn academaidd 2018/19, bydd cyd-fuddsoddiad o £85 miliwn gyda Llywodraeth Cymru yn arwain at gyfleusterau newydd ‘Ysgolion yr 21ain Ganrif‘ yn Nhonyrefail, y Porth, y Cymer, Glyn Rhedynog , Tonypandy a Threorci – ynghyd ag ysgol newydd £7.2 miliwn yng Nghwmaman. “

Meddai Judith Evans, Pennaeth Coleg y Cymoedd: “Ein nod yw sicrhau bod gan bob dysgwr yn y cymunedau a wasanaethwn fynediad at ddarpariaethau addysg o’r radd flaenaf a chyfleusterau o’r radd flaenaf. Mae cydweithio â’n hysgolion cyfagos yn hanfodol i’n helpu i gyflawni ein cenhadaeth i roi pob cyfle i bobl ifanc ddatblygu eu hunain a dilyn y llwybrau gyrfa y maent yn eu haeddu.

“Mae ein cymuned yng Nghampws Aberdâr yn edrych ymlaen at groesawu Ysgol Arbennig Maesgwyn i’n cyfleusterau ystafell ddosbarth newydd, ac edrychwn ymlaen at gydweithio yn y cam nesaf hwn yn ein perthynas barhaus. Wrth wneud hynny, rydym yn sicr y bydd y bartneriaeth hon yn galluogi disgyblion i ddefnyddio offer ac adnoddau addysgu ar lefel coleg, i gael profiad gwerthfawr o fywyd y Coleg, ac i sicrhau llwybr dibynadwy at addysg bellach wedi iddynt adael yr ysgol.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau