Cawr o’r byd rygbi yn ysbrydoli dysgwyr y Cymoedd

Cydnabuwyd llwyddiant dysgwyr Coleg y Cymoedd yn y Noson Wobrwyo flynyddol, a gynhaliwyd yn Sinema Showcase, Nantgarw.

Ymunodd mwy na 200 o westeion yn y dathlu i longyfarch y dysgwyr wrth iddynt dderbyn eu gwobrau gan y siaradwr gwadd, cawr y byd rygbi, Gareth Thomas. Enwebwyd dysgwyr ar draws pob adran gan eu tiwtoriaid , a oedd yn bresennol er mwyn cefnogi eu dysgwyr.

Wrth groesawu’r gwesteion dywedodd y Pennaeth Judith Evans, “Bob blwyddyn rwy’n ymhyfrydu wrth glywed am lwyddiant ein dysgwyr, yn goresgyn rhwystrau personol er mwyn cyflawni eu nodau. Rydym ni mor falch o’ch llwyddiant ac yn dymuno’n dda i chi ar gyfer y dyfodol. Dylid cydnabod hefyd y rhieni a’r partneriaid sydd wedi bod yno, yn eich cefnogi ar hyd y ffordd a hefyd ein staff sydd wedi mynd gam ymhellach i’ch help chi”.

Ymhlith y gwesteion roedd aelodau’r Bwrdd Corfforaethol gan gynnwys y Cadeirydd Nigel Bayford a agorodd y digwyddiad, cynrychiolwyr o’r byd diwydiant, noddwyr a gefnogodd y digwyddiad a staff y coleg.

Yn ei anerchiad llongyfarchodd y siaradwr gwadd Gareth Thomas y dysgwyr a soniodd yn ysbrydoledig am ei gefndir personol a sut yr ysgogodd ei hun er mwyn sicrhau gyrfa lewyrchus.

Cafwyd adloniant ar y noson gan ddysgwyr y Celfyddydau Perfformio, sy’n astudio ar gampws y Rhondda,  gyda dau berfformiad gwych o ‘Dancing on my own’ a ‘Can’t stop the feeling’. Delyth Way, sydd hefyd yn ddysgwyr Celfyddydau Perfformio, oedd cyflwynydd y noson. Chwaraeodd pob un o’r Uwch Dîm Arwain rôl yn y digwyddiad, yn cyflwyno enillwyr a noddwyr y gwobrau.

Roedd y coleg wrth ei fodd yn croesawu Dr Sarah Cockbill, Meistr Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru, a gyflwynodd tystysgrif a siec i Kristian Hallett, a gafodd graddau ardderchog yn ei arholiadau Lefel A ac a fydd yn dechrau ar ei gwrs gradd mewn Hanes ym Mhrifysgol Rhydychen ym mis Hydref 2017 .

Enillydd o’r gwobrau am Oresgyn Rhwystrau oedd Christopher Rhys Thomas. Er ei fod wedi wynebu anawsterau yn ymwneud â’i iechyd ers yr oedd yn ei arddegau, roedd yn benderfynol o ennill ei gymhwyster ac roedd bob amser yn rhoi 100% i’w waith. Cwblhaodd ei gyrsiau Cyfrifiadura Lefel 1 a Lefel 2, gan symud ymlaen i Lefel 3 ac ennill DDD (Rhagoriaeth Driphlyg). Mae Christopher wedi cael ei dderbyn i astudio Cyfriadura ym Mhrifysgol De Cymru.

Enillydd un o’r prif wobrau am Gyflawniad Rhagorol am ei allu, ei ymrwymiad a’i waith caled anhygoel oedd Callum Hagget; a gafodd graddau A* ac A yn ei arholiadau Lefelau A yn ddiweddar. Fel pencampwr ym mhob maes, Callum oedd capten tîm rygbi’r coleg a thîm rygbi dan 18 oed Cymru ar eu taith i Dde Affrica. Mae Callum wedi sicrhau lle yng Ngholeg Imperial Llundain, i astudio Gwyddorau Biofeddygol.

Wrth dderbyn ei wobr dywedodd Callum “mae hi wedi bod yn bleser mawr astudio yng Ngholeg y Cymoedd. Cefais lawer o gefnogaeth gan fy narlithwyr. Rwy’n teimlo’n lwcus iawn eu bod wedi fy enwebu ar gyfer y wobr, a galla i ddim diolch digon iddynt”.

Hefyd yn derbyn gwobr am Gyrhaeddiad Rhagorol oedd y prentis Przemyslaw Nalej a enwebwyd am ei benderfyniad i lwyddo a safon ardderchog ei waith; nid yn dasg hawdd i rywun a ddechreuodd dysgu Saesneg yn 11 oed. Enillodd hefyd Prentis y flwyddyn yn Niwrnod Graddio British Airways Maintenance yng Nghaerdydd.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau