Celf myfyrwyr yn creu amgylchedd sy’n iacháu

Mae grŵp o artistiaid o Goleg y Cymoedd wedi defnyddio eu doniau i greu lloches o dawelwch i gleifion Ysbyty Ystrad Fawr.

Mae’r 28 dysgwr Celf Lefel 2 o gampws Nantgarw’r coleg wedi gweithio i greu cyfres o ddarnau lliwgar i drawsnewid yr iard allanol a ddefnyddir gan gleifion Ward Iechyd Meddwl Aciwt i Oedolion yr ysbyty.

 

Gan weithio gyda’r thema patrymau naturiol, pryfed a lliw, bydd y gwaith a grëwyd gan y dysgwyr yn trawsnewid yr ardal ddiflas yn ofod awyr agored croesawgar a diogel i gleifion.

Rhoes y prosiect y cyfle cyntaf i’r dysgwyr weithio i friff cleient a therfynau amser go iawn. Roeddent hefyd yn gallu elwa ar brofiad un o artistiaid lleoliad mwyaf llwyddiannus Cymru, Chris Gadd, a ymwelodd â’r coleg i sôn am sut mae ei yrfa wedi caniatáu iddo weithio o gwmpas y byd yn creu gwaith ar raddfa fawr. Mae’r gwaith hwnnw’n cynnwys creu nifer o ddarnau ar gyfer parciau thema’r DU.

Mabwysiadodd yr artistiaid ymagwedd unigol gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau a thechnegau i greu darnau a fydd yn gwrthsefyll yr elfennau unwaith y byddant yn cael eu gosod ar y waliau.

Roedd gweithio gydag Eleri Pritchard, Uwch Therapydd Galwedigaethol yn Ysbyty Ystrad Fawr, yn sicrhau bod deunydd pwnc pob darn yn addas, ac yn fuddiol i gleifion ward Iechyd Meddwl Aciwt yr Ysbyty.

Wrth sôn wrth waith y dysgwyr, dywedodd Eleri Pritchard: “Roeddem wedi bod yn ymdrechu ers sbel i ddod o hyd i bartner i’n helpu i wneud yr iard yn lle mwy cyfforddus a lliwgar i gleifion a staff y ward. Drwy lwc, roedd Paul yn y coleg yn falch o ddod i weld sut y gallai’r dysgwyr helpu troi waliau gwag yr iard yn lle therapiwtig sydd ei angen arnom. Pan gyfarfûm â’r dosbarth, roedd y dysgwyr wir yn deall y cysyniad a’r anghenion penodol a oedd gennym.”

 

Mae llawer o stigma yn bodoli o hyd o gwmpas iechyd meddwl a dyma gyfle gwych inni drafod y realiti a rhannu arferion da, gobeithiaf y bydd yn eu helpu yn y dyfodol.”

Ni allem fod yn hapusach gyda’r gwaith celf a bydd yn gyffrous gweld yr effaith gadarnhaol y mae’n siŵr o’i chael ar y rhai a fydd yn gallu ei fwynhau.”

Fel dysgwyr lefel 2 sy’n astudio tuag at ddiploma OCR, bydd llawer yn y dosbarth yn fuan yn bwriadu symud ymlaen i gam nesaf eu hastudiaethau, gyda’r mwyafrif yn gobeithio symud ymlaen i’r brifysgol.

Wrth siarad am y prosiect, dywedodd Cydlynydd Celf Coleg y Cymoedd, Paul Lavagna: “Dyma’r prosiect byw cyntaf y bydd y dysgwyr wedi gweithio arno ac fe addason nhw’n gyflym i weithio gyda chleient go iawn. Ynghyd â chreu darnau gwrth-dywydd a oedd yn plesio o ran estheteg, roedd gofyn iddynt greu dyluniadau sy’n creu amgylchedd sy’n cynorthwyo lles cleifion. Cyflawnwyd y nodau hyn.”

 

Roedd Emma Winters yn un o’r dysgwyr a ymgrymodd â’r her o greu gwaith celf i’r ysbyty. Wrth ddisgrifio’r prosiect, dywedodd Emma: “Roedd yn brofiad anhygoel i bob un ohonom a’r cyfle cyntaf inni weithio gyda chleient i greu darn arbennig. Yn bersonol, roeddwn wrth fy modd yn cael y cyfle i arbrofi, yn gweithio gyda lliwiau llachar ac yn codi o fywyd.”

Bu’n brofiad dwys yn creu’r darnau hyn mewn ychydig wythnosau, ond rydym wedi cael y cyfle i weithio gydag artist lleoliad sydd wedi gweithio yn Siapan, America, Dubai a ledled y byd. Ni allaf aros i weld ein gwaith yn yr ysbyty, mae’n fy nghyffroi i feddwl am yr hyn y byddaf yn ei wneud yn y dyfodol.” 

 

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau