Mam i un yn dychwelyd i’r coleg i roi gwell bywyd i’w phlentyn
Mae mam i un o ardal Rhondda Cynon Taf a benderfynodd ddychwelyd i fyd addysg fel dysgwraig aeddfed er mwyn darparu dyfodol gwell i’w mab yn edrych ymlaen at roi hwb i’w gyrfa newydd ar ôl cwblhau ei diploma coleg Lefel 3 ym maes Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Charlene Jones, 35, o Tylorstown, wedi bod yn plethu astudio cymhwyster gofal plant gyda’i gofalon fel mam sengl i’w bachgen wyth oed, Harvey.
Ar ôl colli tad Harvey bum mlynedd yn ôl, ac ysgwyddo’r holl gyfrifoldeb fel mam llawn amser, roedd Charlene yn benderfynol o ailddechrau ei gyrfa unwaith y byddai Harvey yn hŷn a phenderfynodd gofrestru ar y cwrs dwy flynedd yng Ngholeg y Cymoedd gan ei bod yn dymuno symud ymlaen i rôl a fyddai’n ei galluogi i roi iddo well cefnogaeth.
Ei breuddwyd oedd cael gweithio mewn meithrinfa fel cynorthwyydd cymorth dysgu, felly manteisiodd Charlene ar y cyfle i gofrestru ar gyfer y cymhwyster, er ei bod ychydig yn nerfus ar y dechrau y byddai hi’n hŷn na’r dysgwyr eraill ar y cwrs.
Meddai Charlene: “Pan aned fy mab, newidiodd fy safbwynt yn llwyr am bopeth. Rhoddais y gorau i weithio er mwyn gofalu amdano a rhoddais bethau ar stop pan wnaethon ni golli ei dad. Nawr fod fy mab yn hŷn, rydw i wir eisiau gwireddu dyheadau fy ngyrfa. Dim ond fi sydd ganddo i ofalu amdano a hoffwn iddo gael dyfodol gwell na’r hyn y gallwn ei ddarparu ar ei gyfer cyn hyn.
“Dewisais faes gofal plant gan ei fod yn rhywbeth rwy’n angerddol amdano ac mae hefyd yn cyd-fynd â’r oriau o fynd â’r mab i’r ysgol a’i gasglu oddi yno, sy’n hanfodol i mi fel mam sengl. Mae Coleg y Cymoedd wedi bod mor gefnogol yn ystod fy amser yn y coleg.
“Fel myfyriwr hŷn erbyn hyn, ar y dechrau, roeddwn i’n gofidio am fod mewn dosbarth gyda phobl bron i ugain mlynedd yn iau na fi, ond buan iawn y gwnaethon nhw fy nghroesawu. Rwyf wedi cael fy nhrin â chymaint o barch ac rwy’n teimlo fy mod wedi ennill llawer o chwiorydd iau.”
Trwy’r cymhwyster yn y coleg, mae Charlene wedi treulio’r 18 mis diwethaf ar leoliad fel cynorthwyydd addysgu yn ysgol feithrin Little Ferns yng Nglynrhedynog (Ferndale). Roedd rhai o’i thasgau dyddiol yn cynnwys helpu athrawon i gynllunio a chyflwyno gweithgareddau sy’n hybu dysgu, yn ogystal â chefnogi datblygiad plant trwy annog ymddygiad cadarnhaol a chyfathrebu â nhw a’u rhieni.
“Rydw i mor gyffrous i gael cychwyn ar fy mhennod nesaf. Mynd yn ôl i fyd addysg fel dysgwr aeddfed oedd y peth gorau wnes i. Ar ryw adeg, hoffwn fynd yn ôl i’r coleg i gwblhau’r cwrs Lefel 4 er mwyn i mi allu anelu at swyddi ar raddfa uwch yn y dyfodol.”
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR




