Chloe yn annog merched i ‘chwalu’r stereoteip’

Gobaith Chloe Thomas, 25 oed o’r Barri, ydy y bydd ei llwybr gyrfaol yn annog mwy o ferched i mewn i’r diwydiant Rheilffyrdd.

Ar ôl cwblhau ei Lefel A, ymrestrodd Chloe ar gwrs peirianneg awyrofod a daniodd ei diddordeb mewn peirianneg ac ar ôl gorffen y cwrs roedd ganddi’r hyder i gredu bod ganddi’r wybodaeth i ddilyn gyrfa yn y sector hwnnw.

A hithau’n awyddus i ddatblygu eu diddordeb mewn peirianneg, teimlai y byddai prentisiaeth yn cynnig y cyfle delfrydol i ddysgu wrth weithio ac roedd y diwydiant rheilffyrdd yn denu gan fod cymaint yn digwydd yn ardal De Cymru, yr oedd yn awyddus i fod yn rhan ohono.

Llwyddodd Chloe i sicrhau Prentisiaeth gyda ‘Trafnidiaeth Cymru’ (TfW), a mynychodd Coleg y Cymoedd, y coleg sy’n ddewis i TfW. Roedd ei phrofiad yn y coleg yn bositif iawn, gan ddarparu amgylchedd gwych gyda gweithdai a labordai modern. Roedd y cyfleusterau hyn yn llawn cyfarpar i weithredu tasgau ‘ymarferol’ megis adeiladu a phrofi cylchedau trydan a roddodd sail da i Chloe gynnal prosiectau yn ei rôl gyfredol.

Mae amrywiaeth y cyrsiau yn y coleg wedi caniatáu i Chloe wneud cynnydd dros gyfnod ei phrentisiaeth, gan gwblhau Lefel 3 NVQ mewn Stoc Tyniant a Rholio yn ogystal ag astudio Lefel 3 BTEC, HNC a HNC+ mewn Peirianneg Trydan ac Electroneg. Wedyn aeth ymlaen i gwblhau gradd Sylfaen ym Mhrifysgol De Cymru ac erbyn hyn, mae hi’n ei blwyddyn olaf o’i gradd BSc

Wrth sôn am ei phrentisiaeth, dywedodd Chloe, “Byddwn yn sicr yn argymell y brentisiaeth hon, ynghyd â chyrsiau’r coleg, mae’n ddull gwych o gychwyn gyrfa yn y diwydiant rheilffyrdd ac mae wedi rhoi’r addysg orau bosibl i mi, yn ogystal â swydd sy’n rhoi boddhad i mi.

Mae astudio yn eithriadol o  bwysig, wrth fynychu coleg, rydych chi, nid yn unig yn cynrychioli’ch cwmni ond hefyd rydych yn gweithio tuag at eich dyfodol. Astudiais tra’n gweithio ar shifftiau dydd a nos, felly roedd yn bwysig i mi ddysgu sgiliau rheoli a threfnu er mwyn cadw reolaeth ar fy holl aseiniadau a pharatoi ar gyfer arholiadau, tra’n cadw’r cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd.

Mae cwblhau prentisiaeth wedi rhoi cyfle i mi fod yn llwyddiannus yn fy ngweithle. Ers cychwyn saith mlynedd yn ôl, rydw i wedi mynd y tu hwnt i fy uchelgais a fy nhargedau cychwynnol. O Brentis i Dechnegydd Cynnal a Chadw, hyd at fod yn Beiriannydd Cefnogi Fflyd, mae’n bendant yn swydd na fyddwn i ynddi heb fy mhrentisiaeth a’r cyrsiau a astudiais.

Mae gweithio mewn diwydiant a ddominyddir yn bennaf gan ddynion wedi cael effaith bositif ar fy uchelgais, gan mod i’n credu ei fod wedi gwneud i mi weithio’n galetach ac ymdrechu i gyrraedd yn uwch. Fi oedd y prentis cyntaf o ferch i weithio yn y depo yn Canton, a fy nghyngor i fyddai i chwalu’r stereoteip – peidiwch â gadael i’ch rhywedd eich rhwystro rhag sicrhau’r yrfa yr ydych yn ei dymuno.

Ers i mi gychwyn gyda TfW, mae dwy ferch arall wedi ymuno â’r cwmni fel prentisiaid ac mae’n wych eu gweld yn gwneud mor dda!

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau