Chwaraeodd dysgwyr y Cymoedd eu rhan yn y digwyddiad XScream llwyddiannus

Cefnogwyd llwyddiant diweddar y profiad XScream ym Mharc Treftadaeth y Rhondda gan grŵp creadigol o ddysgwyr Coleg y Cymoedd sydd wedi dod yn arbenigwyr mewn cynhyrchu sombïod a chymeriadau arswydus eraill.

Mae gan y tiwtor, Jane Beard, flynydoedd o brofiad o weithio ar y teledu fel artist effeithiau arbennig ac mae’r dysgwyr sy’n astudio ar y cwrs HND mewn Celfyddydau Cynhyrchu Creadigol, ar gampws Nantgarw, yn sicr yn elw o’i sgiliau a’i gwybodaeth.

Dros y blynyddoedd, mae’r coleg wedi bod yn rhan o ddigwyddiadau niferus drwy Rhondda Cynon Taf, gan gynnwys digwyddiadau Calan Gaeaf a ras Sombïod. Felly, pan ofynnodd trefnydd y digwyddiad iddynt fod yn rhan o ddigwyddiad XScream eleni, bachodd y dysgwyr ar y cyfle.

Cynhaliwyd yr XScream arswydus ym Mharc Treftadaeth y Rhondda ac roedd yn cynnwys actorion go iawn, effeithiau arbennig a brawiau dychrynllyd; wrth i ymwelwyr gerdded ar hyd traciau tywyll, gwag yr hen byllau glo.

Dywedodd y tiwtor Jane Bear “Dyma gyfle nad oedd modd ei golli i’n dysgwyr. Mae’r cwrs yn darparu’r sgiliau a’r wybodaeth yn ymwneud ag effeithiau arbennig i’r dysgwyr ond mae digwyddiadau fel hyn yn helpu ymarfer y sgiliau hynny. Bydd yn rhoi’r hyder i’r dysgwyr sicrhau lleoliadau profiad gwaith gyda’r BBC a chwmnïoedd cynhyrchu eraill”.

Dywedodd un o’r dysgwyr, Abbie Williams “Roedd yn wych bod yn rhan o’r digwyddiad XScream a helpu creu digwyddiad lle’r oedd y cyhoedd wrth eu bodd. Rwy’n mwynhau’r cwrs yn fawr ac rwyf wedi dysgu cymaint yn barod. Roedd wir yn her, gweithio i derfynau amser llym, ond roedd yn llawer o hwyl hefyd a bydd yn gwella fy CV”.

Dywedodd Helen Gibbons, un o drefnwyr y digwyddiad “chwaraeodd dysgwyr Coleg y Cymoedd rôl bwysig wrth wneud y digwydd XScream yn llwyddiant mawr ac roeddem wrth ein bodd yn croesawu 4000 o ymwelwyr drwy’r drysau dros ddau benwythnos. Roedd gan y dysgwyr Colur dasg anferthol i wneud i 25+ actor edrych yn frawychus mewn awr bob nos ac roedd y myfyrwyr Drama yn berfformwyr talentog a chymwys, a chofleidiodd eu rôl gan wella profiad yr ymwelwyr yn fawr. Mae pob un o’r dysgwyr yn glod i’r Coleg, roeddent yn dalentog, yn ddisgybledig ac yn broffesiynol – roedd yn bleser gweithio â nhw ac ni fyddem yn oedi cyn gweithio â nhw eto’n fuan”. 

 

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau