Mentrodd grŵp o ddysgwyr o’r cwrs gofal i Ogof y Dreigiau gyda’u syniadau menter unigryw er mwyn codi arian at gymdeithas Crohn’s.
Datblygodd y dysgwyr sydd ar gwrs Lefel 2 Gofal Plant ac Addysg syniadau busnes posibl ar gyfer gweithgareddau codi arian i’w cyflwyno i banel o feirniad dethol mewn sialens yn efelychu’r rhaglen deledu Dragons’ Den”.
Ymhlith y syniadau busnes roedd stondin Losin, stondin Goffi , Enwi’r Tedi a Raffl. Cwblhaodd y dysgwyr ddadansoddiad o’r holl gostau a’r cynllun busnes a ddefnyddiwyd i ‘werthu’r’ syniadau i’r Dreigiau.
Aeth yr holl elw a wnaed i gymdeithas Crohn’s ynghyd ag addewidion oedd yn galluogi’r dysgwyr gyflwyno’u syniadau busnes i’r dreigiau mewn modd proffesiynol
Dywedodd Hannah Barrow, un o’r dysgwyr: “Roedd y sialens Ogof y Dreigiau’n brofiad gwerthfawr, eitha brawychus, i wynebu’r beirniaid ond roedd gennyn ni ffydd yn ein syniadau busnes ac roedden ni wedi ymdrechu’n galed i’w gwneud yn ymarferol ac yn ddeniadol i’r Dreigiau.â€
Dywedodd Sharon Reed, tiwtor ar y cwrs Gofal Plant: “Fe wnaeth y dysgwyr wir fwynhau’r profiad a llwyddon nhw i sicrhau nawdd. Dw i’n falch iawn o’r grŵp a’r ymdrech aeth i mewn i’r fenter, yn sicr fe wynebon nhw’r her.â€
Argyhoeddwyd y Dreigiau i roi arian / eitemau nawdd i bob un o’r syniadau entrepreneuraidd hyn. Mae Coleg y Cymoedd yn cynnig cyfleoedd menter i ddysgwyr drwy gwrs Bagloriaeth Cymru a thrwy sialensiau mewnol ac allanol.
“