Chwaraewyr pêl foli Coleg y Cymoedd yn ennill eu lle ym Mhencampwriaethau Prydain

Wrth i dymor y pantomeimiau gychwyn, mae dau o diwtoriaid Coleg y Cymoedd yn chwarae rhan flaenllaw i sicrhau bydd pantomeim Jac a’r Goeden Ffa yn Rhondda Cynon Taf eleni cystal â’r blynyddoedd blaenorol.

Mae sgiliau’r ddau diwtor, Caroline Thomas a Richard Embling, wedi bod yn amlwg yng nghynyrchiadau’r gorffennol ac fe’i gwahoddwyd gan Theatr Rhondda Cynon Taf i gyfrannu eto eleni. Mae’r ddau’n gobeithio ychwanegu’r swyn ychwanegol hwnnw i wneud y cyfan yn sioe deuluol lwyddiannus.

Mae Caroline wedi bod yn arwain y cwrs Gradd Sylfaen a B.A. (Anrh) mewn Creu Gwisgoedd i’r Sgrin a’r Llwyfan yng Ngholeg y Cymoedd ers 2010 ac mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad, gan weithio’n bennaf ym maes gwisgoedd ar gyfer y theatr.

Gyda’i harbenigedd o dorri patrymau a chreu gwisgoedd bu’n Uwch Wisg Feistres yng Nghwmni Opera Cenedlaethol Cymru, ac yn gweithio mewn theatrau rhanbarthol gan gynnwys y Bristol Old Vic a Theatr Clwyd.

Mae Caroline hefyd yn gyfarwydd â gwaith teledu a’r sgrin fawr, gan greu gwisgoedd i ffilmiau megis ‘Robin Hood Prince of Thieves’ ac, yn fwy diweddar, cyfres deledu Dr Who.

Ymunodd 2012 Richard â’r tîm yng Ngholeg y Cymoedd fel darlithydd ym maes creu celfi ar y cwrs HND Celf Creadigol Cynyrchiadau, gan arbenigo mewn gwneud celfi, creu cast a mowld cyrff ar gyfer cymeriadau.

Graddiodd Richard gyda B.A. (Anrh) Creu Modelau ar gyfer Dylunio a’r Cyfryngau o Sefydliad Celf Bournemouth yn 2006 a bu’n gweithio ar nifer fawr o gynyrchiadau byw yn y diwydiant fel gwneuthurwr gwisgoedd, pypedau a chelfi mân.

Mae wedi gweithio gyda chwmnïau enwog megis Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru yn creu props gwisgoedd i’w prif gynhyrchiad o ‘Cosi Fan Tutte’ yn 2012 ac i gwmni’r Royal Opera House, Covent Garden, Undeb Rygbi Cymru a mordeithiau pleser P&O.

Dyma’r pedwerydd tro i fyfyrwyr sydd ar y cwrs Gradd Sylfaen a gradd B.A. (Anrh) Creu Gwisgoedd i Sgrin a Llwyfan fod yn ymwneud â’r pantomeim. Ers mis Medi mae dysgwyr ar eu hail flwyddyn wedi bod yn gweithio’n ddiflino, gan gadw i ddedlein caeth i ddarparu detholiad eang o wisgoedd syfrdanol i’r cast, gan gynnwys rhai Jac, Dame Trott, Fleshcreep, Fairy Flora, Princess Crumble ac Utterly a Butterly.

Dywedodd un o’r dysgwyr, Amy Jones: “Mae cynhyrchu’r gwisgoedd ar gyfer y pantomeim, a hynny i ddedlein cyfyng, wedi bod yn wir her; nid yn unig rhaid iddyn nhw edrych yn effeithiol ond rhaid iddyn nhw hefyd fod yn wisgoedd sy’n para i edrych ar eu gorau o’r diwrnod cyntaf hyd ddiwedd y panto. Roedd y cast yn bobl hyfryd i weithio â nhw a’u sylwadau yn ein rhyfeddu. Roeddwn i mor falch o weld fy ngwisgoedd ar lwyfan y pantomeim. Mae gweithio ar y sioe wedi rhoi blas i mi ar waith yn y diwydiant.

Ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd y sioe gan Richard Tunley; bydd helyntion Jac, ynghyd ag effeithiau arbennig, golygfeydd lliwgar a’r sbri i gyd yn siŵr o fod yn boblogaidd iawn ymhlith y teuluoedd yn y gynulleidfa.

Yn ôl Frank Vickery, un o hoff wynebau’r llwyfan yng Nghymru, sy’n chwarae rhan Dame Trott: “Dyma’r pedwerydd tro i ni gydweithio â’r myfyrwyr ac y mae’r gwisgoedd eleni yn wir eithriadol. Mae’r gwisgoedd i gyd wedi eu teilwra i ffitio’r cymeriadau dan sylw, ac mae hyn yn gwneud gwahaniaeth, gan fod rhaid i ni fod yn gysurus ynddyn nhw wrth actio. Mae ansawdd y gwaith yn broffesiynol iawn a phob manylyn yn ei le – da iawn nhw.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau